Â鶹ԼÅÄ

Star Trek (2009)

Cruw Star Trek

12ATair  seren

  • Y Sêr: Anton Yelchin, Bruce Greenwood, Chris Pine , Eric Bana, John Cho, Karl Urban, Leonard Nimoy, Simon Pegg, Winona Ryder, Zachary Quinto, Zoe Saldana.
  • Cyfarwyddo: J J Abrams.
  • Sgwennu: Roberto Orci ac Alex Kurtzman.
  • Hyd: 126 munud

Ymhlith y sêr

Adolygiad Lowri Haf Cooke

Gwell dechrau gyda chyfaddefiad; mae'n gas gen i wyddonias, a dwi ymhell o fod yn Trekkie, ond rhaid dweud i hysbyseb y ffilm Star Trek ddiweddara fy nenu i ailystyried fy rhagfarnau rhonc yn erbyn ffilmiau sci-fi.

Y cwestiwn mawr oedd gen i felly wrth fynd i weld cynhyrchiad y cyfarwyddwr JJ Abrams oedd ai dyma enghraifft arall o drailer dau funud yn rhagori ar ddwyawr o gyffro galaethol?

Siomi'r ochr orau

Rhaid dweud, ar y cyfan, imi gael fy siomi ar yr ochr orau.

Mae pum munud cynta'r ffilm yn gywasgiad o antur, hiwmor a llond llong ofod o emosiwn, a rhywsut yn sefydlu yr hyn fethodd y gyfres deledu wreiddiol o'r Chwedegau - yn ogystal â'r chwe ffilm a gynhyrchwyd rhwng y Saithdegau a'r Nawdegau - i'w wneud, sef cyflwyno cefndir y Capten James Tiberius Kirk.

Yn wir, rhaid pwysleisio mai'r syniad o archwilio cefndir y cymeriadau gwreiddiol ddenodd Abrams - cynhyrchydd uchel ei barch yn y byd teledu Americanaidd am sefydlu'r raglen ddrama high-concept, Lost - i gyflwyno adweithiad o un o'r cyfresi mwyaf llwyddianus erioed.

Aberthu ei hun

Mae'r ffilm yn dechrau gyda hunanaberth y Capten George Kirk wrth iddo arbed ei wraig a'i blentyn newydd anedig rhag cael eu lladd gan griw o Romulaniaid - prif elynion y Starfleet, sef rhyw fath o Genhedloedd Unedig bydysol - yn dilyn diddymiad eu planed.

Ymddengys mai Vulcan o'r enw Spock yw eu prif darged, a'u bod nhw wedi teithio o'r dyfodol i'w rwystro ef rhag dinistrio eu cartref.

Plentyndod anodd

Symudwn yn gyflym o'r sefyllfa enbydus hon yn y gofod pell i wastatir amaethyddol yn Iowa - cae chwarae'r glaslencyn anystywallt Jim Kirk - wrth iddo rasio yn erbyn heddwas at ddibyn clogwyn yng nghar ei ewyrth, cyn carlamu mlaen rhyw ddegawd at ffrae mewn bar rhwng criw o is-raddedigion o academi Starfleet a'r un cymeriad gwyllt, James T Kirk.

Caiff ei berswadio gan un o'r capteiniaid i ymuno â phrifysgol Starfleet, ac yno daw wyneb yn wyneb â Spock, un o sêr mwyaf disglair yr academi anrhydeddus.

Gwyddwn ei fod yntau hefyd wedi profi plentyndod anodd oherwydd ei gefndir cymhleth - ei drin yn israddol am bod ei fam o'r hil ddynol ond ei dad yn Vulcan - a thros y ddwyawr nesa profwn sut y daw'r ddau gymeriad gwrthgyferbyniol yma'n ffrindiau pennaf, yn wyneb pob math o rwystrau, gan gynnwys Romulaniaid blin, draig goch ddychrynllyd, capteiniaeth yr USS Enterprise, a ieithegydd atyniadol o'r enw Uhura.

Cawn hefyd gwrdd ag aelodau eraill y tîm, gan gynnwys Chekov, Sulu, "Bones" McCoy a Scottie, a wyneb cyfarwydd iawn o'r gorffenol - sydd wedi teithio o'r dyfodol i fod o gymorth i Kirk er mwyn sicrhau llwyddiant yn erbyn y Romulaniaid.

Andros o hwyl

Rhaid dweud bod yna andros o hwyl i'w gael o ddod i adnabod y cymeriadau eiconig hyn. Yn wir, rhaid canmol y sgript ffraeth ac amseru comig yr holl actorion, yn enwedig Chris Pine, sydd yn hoffus iawn fel Kirk, a Zachary Quinto - fydd yn gyfarwydd i nifer fel y Sylar sinistr yn y gyfres Heroes - fel Spock spot-on.

Yn anochel, ceir ambell in-joke ond yn wahanol i adweithiadau llai llwyddiannus o gyfresi teledu'r Chwedegau a'r Saithdegau , mae'n braf gweld nad bwriad y Star Trek yma yw plesio'r Trekkies yn unig, neu'n waeth byth, ei bod hi wedi'i seilio'n gyfangwbl ar haenen drwchus o eironi kitsch.

Mae parch at y cymeriadau fel ag y maen nhw a hynny'n arbed sinigiaid sci-fi y gynulleidfa rhag cael eu dieithrio'n llwyr.

Stori antur

Mae yma stori antur wirioneddol afaelgar ar adegau a chalon emosiynol.

Yn bersonol, collais rywfaint o ddiddordeb ar ôl yr awr gyntaf hynod gyffrous, yn enwedig o ddeall mai prif nôd ein harwyr oedd cyflawni'r un hen her, sef achub y bydysawd rhag nytars lloerig, a hynny'n bennaf trwy wasgu botymau a gwthio'r clytch i warp-speed. Ond beth fyddai Star Trek heb hynny?


Llyfrau

Matthew Rhys

Holi ac adolygu

Holi awduron ac adolygu'r llyfrau Cymraeg diweddaraf

Theatr

Llion Williams

Barn a gwybodaeth

Adolygiadau a straeon o fyd y theatr Gymraeg

Â鶹ԼÅÄ iD

Llywio drwy’r Â鶹ԼÅÄ

Â鶹ԼÅÄ Â© 2014 Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.