Â鶹ԼÅÄ

The Social Network

The Social Network

18 Hydref 2010

12Tair seren allan o bump

  • Y Sêr: Jesse Eisenberg, Andrew Garfield a Justin Timberlake.
  • Cyfarwyddo: David Fincher.
  • Sgrifennu: Addasiad Aaron Sorkin o'r gyfrol The Accidental Billionaires gan Ben Mezrick.
  • Hyd: 120 munud

Ffilm am rwydwaith sydd wedi dal y byd

Adolygiad Lowri Haf Cooke

Fyddwch chi'n gwneud defnydd o Facebook? Ag ystyried eich bod yn darllen yr adolygiad hwn ar wefan Â鶹ԼÅÄ Cymru y tebygolrwydd ydy eich bod hefyd yn un o'r 500 miliwn o aelodau sy'n defnyddio'r wefan gymdeithasol trwy gyfrwng 70 o gyfieithiadau- gan gynnwys y Gymraeg.

Os mai "Gweplyfr" ydy'r teclyn ry' chi'n ei ddefnyddio i drefnu gig, rhannu straeon a chysylltu â ffrindiau pell, mae'r diolch am hynny i ddyn ifanc o'r enw Mark Zuckerberg - gwrth-arwr y ffilm The Social Network.

Cyn gweld y cynhyrchiad hwn am ddechreuadau Facebook - The Social Network - ro'n i'n llawn amheuon ynglŷn â gwerth y fath ffilm, gan ragdybio'n nawddoglyd mai croesbeilliad fydde hi o The Revenge of the Nerds ac You've Got Mail.

Ond, o'i phrofi, gallaf ddeall yn union sut y bu i'r cylchgrawn Rolling Stone ddisgrifio'r cynhyrchiad fel "Ffilm fwyaf dylanwadol y degawd".

Yn un peth, mae'n ein hatgoffa sut y gall hedyn o syniad dyfu'n ffenomenon fydeang. Mae hefyd yn tanlinellu'r ffaith seml i chwyldro cymdeithasol mwya'r Mileniwm ddeillio o ddymuniad un dyn i gael cariad.

Un mewnblyg

O ystyried mai ffordd o ddod â ffrindiau ynghyd oedd gwreiddiau The Facebook, gwelir yn y fuan iawn yn y ffilm mai creadur go fewnblyg ac anghymdeithasol oedd Mark Zuckerberg - biliwnydd ieuenga'r byd bellach - pan gafodd o'r syniad yn ugain oed yn 2004.

Yn dilyn dêt trychinebus yn un o dafarndai Prisfysgol Harvard, rhanna ei rwystredigaeth ramantus ar ei flog amrwd, a phenderfynu dial ar ei gyn gariad trwy greu rhaglen gyfrifiadurol sy'n cymharu apêl rywiol myfyrwyr benywaidd y campws.

O fewn ychydig oriau chwelir rhwydwaith gyfrifiadurol Harvard dan bwysau anferthol poblogrwydd y wefan ac er i Zuckerberg gael ei geryddu gan awdurdodau'r coleg mae'r stynt yn tynnu sylw'r efeilliaid Cameron a Tyler Winklevoss - rhwyfwyr Olympaidd sy'n fyfyrwyr efo Mark, ac sy'n chwilio am raglennydd i sefydlu'r wefan gymdeithasol Harvard Connection ar y cyd â nhw.

Er iddo dderbyn gwahoddiad y brodyr breintiedig i ddatblygu'r rhaglen hon, canolbwyntia Zuckerberg yn bennaf ar ehangu'r syniad ar gyfer marchnad ehangach, a diolch i fuddsoddiad o $1,000 gan ei ffrind penna, Eduardo Saverin, caiff The Facebook ei lansio mewn prifysgolion ledled America.

Afraid dweud, dyw'r efeilliaid ddim yn bles ac arweinia'r weithred at achos cyfreithiol costus yn erbyn Mark.

Colli banod a ffrindiau

Yn y cyfamser, denir sylw'r entrepreneur ifanc a sefydlydd y wefan ddadleuol Napster, Sean Parker (Justin Timberlake), sy'n cynghori Mark i adael Harvard a symud i Palo Alto - lle mae'r techies yn teyrnasu - gan awgrymu dau beth sylfaenol; i lwyddo, rhaid colli'r fanod ac, efallai'n fwy penodol, rhaid colli ei ffrind a'i gyd sefydlydd, Edwardo.

Wedi'r cyfan, beth yw miliwn o ddoleri pan fo biliwn ohonynt yn y fantol?

Rhaid dweud, yn wyneb pob rhagdybiaeth, i mi gael hwyl fawr gyda'r ffilm hon a diolch i sgript sy'n tasgu, gan un o awduron disgleiriaf America, Aaron Sorkin, mae'r fersiwn lled ffuglennol ac answyddogol hwn o hanesion y cymeriadau yn gweithredu fel fersiwn gwyrdroëdig o Gossip Girl i geeks.

Sgript siarp

Gresynodd Zuckerberg i'r ffilm gael ei chynhyrchu tra'i fod dal ar dir y byw - ac mae na reswm da am hynny. Diolch i gydweithrediad ei gyn gyfaill, Edwardo Saverin, gydag awdur y gyfrol The Accidental Billionaires - sef ffynhonnell sgript siarp Sorkin - gellid coelio bod rhannau helaeth o'r ffilm yn go agos at y gwir, yn enwedig yn achos y gwrth arwr cwyrci.

Mae geekyn air llawer rhy sarhaus, mewn gwirionedd, i ddisgrifio'r pensaer cymdeithasol hwn. Dyma ddyn ifanc sy'n byw yn ei ben ac sy'n rhoi ei droed ynddi'n amlach na Mr Bean, diolch i'w anallu i ddeall arwyddion ieithyddol y rhan fwyaf o'i gyfoedion.

Gallasai Jesse fod wedi dewis chwarae Mark fel megolomaniac meudwyaidd ond dylai Zuckerberg ddiolch iddo am gynnig portread cytbwys sy'n ymylu ar fod yn annwyl o'r creadur anghymdeithasol hwn.

Yn wir, mae pob un o'r actorion ifainc yn denu cydymdeimlad - hyd yn oed Justin Timberlake, sy'n llwyddo i ddarbwyllo mewn dehongliad go camp o'r cymeriad carismatig Sean Parker.

Yn ogystal, o ystyried mai ffilm am arbenigwyr cyfrifiaduron sydd yma, does na ddim gronyn o jargon yn perthyn i'r sgript - rhywbeth y byddai Wall Street: Money Never Sleeps wedi elwa arno.

Trafodaethau cyfreithiol

Yn anffodus, yr hyn sy'n rhwystro'r ffilm rhag dod yn glasur ydy penderfyniad y cyfarwyddwr David Fincher i fframio'r digwyddiadau trwy gyfrwng trafodaethau cefndirol yr achosion cyfreithiol niferus sy'n golygu bod The Social Network yn hirwyntog iawn erbyn y diwedd.

Serch hynny, mae hi'n ffilm andros o ddiddorol am y berthynas fregus rhwng busnes a chyfeillgarwch ac yn rhybudd i unrhyw un sydd am gyfuno'r ddau beth i ddarllen y print mân.


Llyfrau

Matthew Rhys

Holi ac adolygu

Holi awduron ac adolygu'r llyfrau Cymraeg diweddaraf

Theatr

Llion Williams

Barn a gwybodaeth

Adolygiadau a straeon o fyd y theatr Gymraeg

Â鶹ԼÅÄ iD

Llywio drwy’r Â鶹ԼÅÄ

Â鶹ԼÅÄ Â© 2014 Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.