Â鶹ԼÅÄ

A Single Man

Colin Firth - noson derbyn ei wobr actor gorau BAFTA

25 Chwefror 2010

12APum   seren

  • Y Sêr: Colin Firth, Matthew Goode, Nicholas Hoult, a Joanne Moore.
  • Cyfarwyddo: Tom Ford.
  • Sgrifennu: Addasiad Tom Ford a David Scearce o'r nofel A Single Man gan Christopher Isherwood.
  • Hyd: 99 munud

Angerdd teimladwy

Adolygiad Lowri Haf Cooke

Mae A Single Man yn gynhyrchiad hyfryd a hiraethus am gariad, galar, gorffennol a phresennol un dyn sy'n dewis dydd ei farwolaeth.

Dilynwn y diwrnod dan sylw o'r eiliad y mae George Falconer yn deffro'r bore hwnnw; eiliad y mae e'n difaru'n ddyddiol ac wrth iddo fynegi, ar ffurf troslais, yr artaith o baratoi ar gyfer diwrnod arferol sylweddolwn ei fod yn dal i alaru am y cariad a fu farw mewn damwain car wyth mis yn ôl.

Mae e'n gwybod o brofiad mai'r unig ffordd o oroesi yw i chwarae rôl ac erbyn iddo wisgo'i siwt a sgleinio'i sgidie, mae e'n barod i wynebu'r byd fel Athro Saesneg mewn Prifysgol yng Nghaliffornia.

Diwrnod gwahanol

Ond buan iawn y daw hi'n amlwg nad diwrnod cyffredin ym mywyd George mo hwn a'i fod wedi dewis hwn i wneud amdano'i hun.

Dyma ddyn sy'n byw bywyd breintiedig mewn paradwys pensaernïol; yn ddarlithydd poblogaidd, cymydog cyfeillgar a ffrind ffyddlon i Charlie (Juliane Moore, yma'n chwarae teyrnged Seisnig i Amber Waves o Boogie Nights), cyn gariad iddo sy'n yfed er mwyn anghofio'i cholled hithau.

Ond mae e hefyd yn anweledig i bawb o'i gwmpas oherwydd, hyd yn oed yn Los Angeles 1962 lle y lleolir y cynhyrchiad, does dim modd i George fynegi ei iselder dwys gan ei fod, fel dyn hoyw, yn aelod o leiafrif cyfrin sy'n peri ofn pellach i'r boblogaeth ehangach, sydd eisioes dan fygythiad taflegrau Ciwba, ac yn wynebu newidiadau cymdeithasol mawr.

Wrth inni ddilyn camau hamddenol ond penderfynol George i ddod â phopeth i ben, rhannwn ei ing o weld olion ei ddiweddar gariad, Jim (Mathew Goode), ym mhobman, tra'n ceisio cyflawni pob dyletswydd broffesiynol a phersonol heb ddatgelu dim o'i gynllun i neb.

Ymhlith y manylion bychain, o ymweld â'r banc a'r swyddfa, caiff George gyfres o gyfarfyddiadau annisgwyl gyda sawl unigolyn gan gynnwys myfyriwr chwilfrydig, Kenny (Nicholas Hoult), sy'n ei atgoffa nad yw'n gwbl unigryw ac sy'n codi'r cwestiwn canolog o pa mor barod yw George i ddileu ei ddyfodol?

Harddwch a hiwmor

Serch ei thema ddirfodaethol mae na harddwch hynod a hiwmor cynnil yn hollbresennol gydol y ffilm drawiadol hon.

Yr hyn sydd yn fwyaf hysbys am A Single Man, ac sydd wedi denu sylw'r wasg yw mai dyma ffilm gyntaf Tom Ford - y cynllunydd dillad o Texas fu'n bennaf gyfrifol am atgyfodi cwmni Gucci, a'i drawsnewid o fod yn grair ceidwadol i fod yn bencadlys yr ethos sexy-luxe-glam oedd yn teyrnasu ar droad y Mileniwm.

Ers gadael y cwmni hwnnw sefydlodd Ford ei ymerodraeth lwyddiannus ei hun a gwariodd swm helaeth yn datblygu'r cynhyrchiad hwn sy'n seiliedig ar nofel o'r un enw gan Christopher Isherwood, yr awdur o Sais a dreuliodd ran helaeth o'i fywyd yn Berlin a Los Angeles.

Yn sicr, mae hi ymhlith y ffilmiau harddaf i mi ei gweld erioed gyda phob manylyn yn ei le o'r dillad trwsiadus i'r lliwiau llesmeiriol a'r gwaith camera cyfareddol.

I'r rheiny ohonoch sy'n mwynhau steil-gyda-sylwedd y gyfres deledu Americanaidd Mad Men - sy'n dilyn cymeriadau go debyg yn ystod yr un cyfnod - byddwch wrth eich boddau clywed mai'r un cynllunydd - Dan Bishop - sy'n gyfrifol am y ffilm hon hefyd.

Mae hefyd yn werth crybwyll cerddoriaeth wreiddiol y cyfansoddwr o Wlad Pwyl, Abel Korzeniowski, sy'n ychwanegu haenen emosiynol bellach i ffilm sydd yn gyforiog o bathos a thynerwch.

Actor gorau

Ond, yn sicr, mae na reswm mwy penodol fyth i fynd i weld A Single Man sef perfformiad didwyll a hynod deimladwy'r prif actor, Colin Firth a enillodd yn haeddiannol wobr Actor Gorau BAFTA 2010.

Rydw i'n amau'n gryf a aiff Firth â'r Oscar, o gofio ei fod mewn cystadleuaeth â Morgan Freeman fel Nelson Mandela, a Jeff Bridges - ffefryn y beirniaid a sefydliad Hollywood am chwarae'r canwr gwlad ffuglennol Bad Blake yn Crazy Heart- ac yn dilyn buddugoliaeth Sean Penn yn yr un categori y llynedd yn portreadu ffigwr hoyw arall, y gwleidydd a'r ymgyrchydd, Harvey Milk.

Serch hynny, mae'n berfformiad sy'n profi bod Firth yn medru treiddio i ddyfroedd tipyn dyfnach na Mr Darcy trwy gyflwyno cymeriad dynol iawn sy'n wynebu argyfwng aruthrol.

Anaml iawn yr ydw i'n gweld ffilm berffaith ond mae A Single Man yn dod yn agos iawn at hynny.


Llyfrau

Matthew Rhys

Holi ac adolygu

Holi awduron ac adolygu'r llyfrau Cymraeg diweddaraf

Theatr

Llion Williams

Barn a gwybodaeth

Adolygiadau a straeon o fyd y theatr Gymraeg

Â鶹ԼÅÄ iD

Llywio drwy’r Â鶹ԼÅÄ

Â鶹ԼÅÄ Â© 2014 Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.