Â鶹ԼÅÄ

Harry Potter and The Deathly Hallows. Rhan 1

Rhys Ifans

22 Tachwedd 2010

12ATair seren allan o bump

  • Y Sêr: Daniel Radcliffe, Emma Watson, Rupert Grint, Ralph Fiennes, Alan Rickman, Bill Nighy, Robbie Coltrane, Julie Walters, Michael Gambon, Brendan Gleeson, Helena Bonham-Carter, Timothy Spall, David Thewlis, Imelda Staunton, Rhys Ifans a Steffan Rhodri.
  • Cyfarwyddo: David Yates.
  • Sgrifennu: Steve Kloves.
  • Hyd: 146 munud

Cymry, Cymru, Cymhlethdod ac acen Gymreig

Adolygiad Lowri Haf Cooke

I'r rhai hynny ohonoch gafodd flas ar Mr Nice ac sydd am gael ffics bach arall o Rhys Ifans tra'n aros am Neverland - y ffilm ar Sky Movies yn 2011 sy'n egluro cefndir Peter - byddai'n werth ystyried gweld y seithfed ffilm yng nghyfres lwyddiannus Harry Potter.

Ynddi mae e'n chwarae Xenophilius Lovegood - dewin dwl sy'n dad i un o gyd-ddisgyblion Harry Potter (Daniel Radcliffe) yn ysgol Hogwarts ac yn datblygu'n gymeriad blaenllaw yn y stori sy'n pontio'r ffilm olaf-ond-un gyda'r dilyniant ddaw â'r gyfres i ben ym mis Gorffennaf 2011.

Peidiwch, fodd bynnag, a disgwyl clywed yr acen Gymreig ganddo ef, na chwaith o enau Steffan Rhodri, yr actor o Dreforys sy'n chwarae Reg Scattermole - dyn a gaiff ei feddiannu gan enaid Ron Weasley (Rupert Grint) mewn golygfa estynedig yn y Weinyddiaeth Hud.

Nighy Cymreig

Yn gwbl annisgwyl, Bill Nighy ydy'r actor i wrando arno, gan mai ei gymeriad e - Rufus Scrimgeour, penaeth y Weinyddiaeth Hud - sydd yn adrodd geiriau cynta'r ffilm sy'n ein rhybuddio am ddyfodiad oes go dywyll yn hanes Dewinyddiaeth , a hynny mewn acen Gymreig.

Mewn cyfweliad â'r cylchgrawn Premiere, eglurodd yr actor o Loegr pam y dewisodd acen Gymreig; "It's a really sweet accent, really exquisite. For me, it's the sign of an intelligent spirit, calm and strong at the same time."

A phwy allai ddadlau â hynny?

Yr ateb i'r cwestiwn hwnnw ydy, "Grymoedd go dywyll" ac, yn anffodus, caiff y cadeirydd cymedrol ei lofruddio'n go gynnar yn y cynhyrchiad, er mwyn i Yaxley (Peter Mullan), gwâs bach yr anghenfil Voldermort (Ralph Fiennes) -gelyn pennaf Harry Potter - gymryd ei le a thrawsnewid y Weinyddiaeth yn uffern Orwellaidd.

Dianc am eu bywydau

Cyhoeddiad cynta'r arweinydd newydd ydy galw am arestio'r Crochenydd bach, sy'n sbarduno Harry a'i ffrindiau, Hermione a Ron, i ddianc am eu bywydau, a cheisio darganfod ffordd o ddiddymu Voldermort unwaith ac am byth.

Dianc ar y beic

Cyn mynd ddim pellach, gwell sefydlu un peth - os nad ydych yn gyfarwydd â'r saith nofel neu'r ffilmiau sy'n rhagflaenu'r ffilm hon, disgwyliwch dros ddwyawr o ddryswch pur.

Bum yn ddigon diniwed i feddwl y gallwn i ddilyn rhan gynta Harry Potter and The Deathly Hallows heb fod yn gwybod ond yr ychydig enwau a thermau sydd wedi treiddio i'r isymwybod ers dechrau'r ffenomenon hon dros ddegawd yn ôl.

Darganfyddais yn go gyflym y byddai wedi bod o fudd mawr dod â geiriadur Hogwarts gyda mi.

I'r ffans

Ffilm i'r ffans go iawn yw hon, y rhai sy'n deall ystyr geiriau fel Horcrux, Muggles a Death Eaters.

Does na ddim eiliad sbâr i egluro ambell derm neu gymeriad i newydd ddyfodiaid niwsansllyd ac yn hynny o beth dwi'n derbyn mai fi oedd ar fai am beidio a gwneud fy ngwaith cartref.

Serch hynny, mi ydw i'n cwestiynu i ba raddau y mae'r addasiad hwn yn gwneud "ffilm" dda ac oni fyddai wedi bod yn gynhyrchiad gwell ar ffurf dwy bennod mewn cyfres deledu safonol iawn?

Rydw i ymhell o fod yn gaeth i gonfensiwn, ond i fod yn blwmp ac yn blaen does na ddim dechrau na diweddglo cadarn i ran gynta Harry Potter and the Deathly Hallows, dim ond un "canol" hirfaith ac, o gymryd cam yn ôl, sylwais na ches i hyd yn oed eglurhad digonol am y teitl brawychus.

Syrffedus mewn mannau

Yr argraff a geir wrth wylio'r cynhyrchiad hwn yw ei fod yn paratoi ar gyfer diweddglo aruthrol o gyffrous, sy'n golygu fod y ffilm hon, er yn dywyll a chyffrous ar adegau, ac yn cynnwys perfformiadau bywiog gan yr hufen o actorion Prydeinig, yn reit syrffedus mewn mannau eraill .

Hyd y gwela i, dydy'r plantos ddim mymryn yn nes at eu cyrchfan nag oedden nhw ar ddechrau'r ffilm.

Wedi dweud hyn oll ac er gwaetha fy anwybodaeth enbyd, mwynheais rannau helaeth ohoni'n fawr gan gynnwys y gwisgoedd, y gerddoriaeth, y gwaith camera a'r golygu ac, yn achos un rhan sy'n adrodd dameg ddadlennol, gwaith animeiddio bendigedig.

Ac os ydy cymhlethdodau'r stori ei hun yn tueddu i ddieithrio'r newydd ddyfodwr ymhellach yna mae'r triawd canolog yn llwyddo i groesawu'r gwyliwr i'w giang ac felly'n sicrhau teyrngarwch o'r cychwyn cynta - gydag Emma Watson yn creu argraff dda iawn fel yr Hermione herfeiddiol.

Yng Nghymru

Roedd na un rheswm arall pam imi fentro'n hwyr i fyd hud Harry Potter; yn ogystal ag acen annisgwyl Bill Nighy a phresenoldeb y Cymry Rhys Ifans a Steffan Rhodri, caiff Cymru ei hun ei chynrychioli yn y ffilm gan i'r criw cynhyrchu fod yn ffilmio ar draeth Freshwater West yn ne Sir Benfro y llynedd a minnau'n awyddus iawn i weld y cartre o gregyn fu'n dwyn penawdau'r wasg Gymreig yr haf diwethaf.

Wel, o gofio i Ridley Scott a'i griw osod golygfa frwydr dyngedfennol ar yr un traeth yn Robin Hood eleni, rhaid dweud imi gael fy siomi braidd gan y ffaith i'r olygfa fach hyfryd tua diwedd y ffilm gael ei thraflyncu'n llwyr gan olygfeydd dipyn mwy epig ym mryniau Swydd Efrog.

Serch hynny, braf yw adrodd i'r criw cynhyrchu gael tywydd rhagorol, ac i'r triawd mewn trybini ganfod llygedyn o oleuni mewn saga mor dywyll.


Llyfrau

Matthew Rhys

Holi ac adolygu

Holi awduron ac adolygu'r llyfrau Cymraeg diweddaraf

Theatr

Llion Williams

Barn a gwybodaeth

Adolygiadau a straeon o fyd y theatr Gymraeg

Â鶹ԼÅÄ iD

Llywio drwy’r Â鶹ԼÅÄ

Â鶹ԼÅÄ Â© 2014 Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.