Â鶹ԼÅÄ

The Invention of Lying

Rhan o boster y ffilm

12 Hydref 2009

12ADwy seren

  • Y Sêr: Ricky Gervais, Jennifer Garner, Rob Lowe Jonah Hill, Tina Fey, Jason Bateman.
  • Cyfarwyddo: Ricky Gervais a Matthew Robinson.
  • Sgrifennu: Ricky Gervais a Matthew Robinson.
  • Hyd: 100 munud

A dweud y gwir - dyw hi fawr o ffilm . . .

Adolygiad Lowri Haf Cooke

Er bod chwe blynedd ers i Ricky Gervais ryddhau David Brent o'i swyddfa bu'r cymeriad hwnnw yn ysbrydoliaeth barhaol i bob rhan a chwaraeodd Gervais ers hynny - ac yn abwyd defnyddiol i ddenu mawrion Hollywood i gydweithio ag ef.

Yn wir, mae safon y cast cynorthwyol a geir yn y gomedi ramantaidd The Invention of Lying yn rhyfeddol ac yn adlewyrchiad o allu magnetig Gervais ers llwyddiant rhyngwladol The Office i ddenu sêr mawr.

Hufen comedi

Yn eu plith mae hufen y byd comedi Americanaidd gan gynnwys Tina Fey (30 Rock) Jason Bateman (Arrested Developement) a Jeffrey Tambor (The Larry Sanders Show), ac mae'n deg dweud mai profiad swreal yw gweld y sêr slic hyn mewn rhannau bychain o gymharu â Gervais, sydd wedi castio'i hun fel prif gymeriad ei ffilm ddiweddaraf.

Mark Bellinson yw'r cymeriad hwnnw. Sais cyffredin sy'n byw mewn dinas Americanaidd anhysbys ac yn awdur sgriptiau i Lecture Films

Mae e hefyd yn byw mewn dimensiwn lle mae pawb yn dweud y gwir.

Dim ond y gwir

I chi gael deall beth mae hynny'n i feddwl yn y byd hwn, mae cwmni Coca-Cola yn hyrwyddo'u diod fel dŵr siwgr brown a Pepsi'n ymffrostio mai eu diod nhw yw'r hylif i yfed pan nad oes Coke ar gael, ac mae cymydog pruddglwyfus Mark, Frank (Jonah Hill), yn ateb ei gyfarchiad boreuol gyda disgrifiad gorfanwl o'r ffordd geisiodd e wneud amdano'i hun y noson cynt.

Yn wir, does na neb yn y byd hwn erioed wedi yngan yr un gair o gelwydd a hynny'n gwneud byw bob dydd yn reit anodd i ddyn cyffredin fel Mark.

Yn un peth, mae e'n bennaeth Tîm Pedwaredd Ganrif ar Ddeg y cwmni cynhyrchu, a chan i'r Pla dra-arglwyddiaethu'r ganrif honno does na ddim llawer o sgôp ar gyfer llawer o ffilmiau difyr yn crisialu'r cyfnod sy'n golygu bod ei swydd yn y fantol ac o'r herwydd mae ail ddêt gyda merch ei freuddwydion, Anna McDoogles (Jennifer Garner) yn edrych yn bur annhebygol.

Tro yn y gynffon

Daw tro yn y gynffon ar ôl iddo gael ei ddiswyddo a darganfod mai mond $300 sydd ganddo yn y banc. Mewn panig llwyr ar ôl methu talu ei rent dywed y celwydd cyntaf erioed a hynny'n arwain at ganlyniad buddiol tu hwnt.

Tyfu wnaiff y gaseg eira hon yn ystod y ffilm wrth iddo ddarganfod fod dweud celwydd yn talu mewn sawl ffordd - nes iddo wynebu penbleth ddadleuol ar farwolaeth ei fam gan arwain at argyfwng rhyngwladol a chymhlethdodau rhamantaidd pellach diolch i bresenoldeb bygythiol ei arch elyn gor-olygus, Brad Kessler (Rob Lowe).

Heb ddatgelu rhagor, rhaid dweud i mi fwynhau deg munud cynta'r ffilm yn fawr, wrth i Gervais a'i gyd sgwennwr-gyfarwyddwr, Matthew Robinson, droi'r celwyddau golau a leisiwn yn ddyddiol ben i waered.

Estyniad un dimensiwn

Yn anffodus, yr hyn â geir am weddill y cynhyrchiad yw estyniad un dimensiwn o'r hyn sydd, yn ei hanfod, yn syniad gwych am gyfres o sgetsus ond nid am ffilm awr a deugain munud.

Daw'n amlwg yn ystod y ffilm i'r tîm cynhyrchu geisio'i orau i gyfuno elfennau uwch-naturiol a chwyrci y clasur Groundhog Day gyda dameg ddychanol The Life of Brian.

Er bod Gervais yn feistr ar yr arddull deadpan sy'n addas iawn i'r cymeriad dan sylw mae'n methu'n lan â chystadlu â Bill Murray a Graham Chapman yn y golygfeydd tyner hynny sy'n mynnu bach o bathos.

Dyma, felly, enghraifft o ffilm sy'n orlawn o sêr ac elfennau bach clyfar sy'n digon i'ch difyrru am ychydig ond, heb galon, does dim llawer o bwynt iddi yn y pendraw.


Llyfrau

Matthew Rhys

Holi ac adolygu

Holi awduron ac adolygu'r llyfrau Cymraeg diweddaraf

Theatr

Llion Williams

Barn a gwybodaeth

Adolygiadau a straeon o fyd y theatr Gymraeg

Â鶹ԼÅÄ iD

Llywio drwy’r Â鶹ԼÅÄ

Â鶹ԼÅÄ Â© 2014 Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.