Â鶹ԼÅÄ

Knight and Day

Golygfa o'r ffilm

11 Awst 2010

12ATair seren allan o bump

  • Y Sêr: Tom Cruise, Cameron Diaz
  • Cyfarwyddo: James Mangold.
  • Sgrifennu: Patrick O'Neill.
  • Hyd: 109 munud

Cynnig arall wedi 'Vanilla Sky'

Adolygiad Lowri Haf Cooke

Pryd welsoch chi ram-antur gomig rygwladol ddwetha?

Os maddeuwch chi imi am anghofio Killers gydag Ashton Kutcher a Katherine Heigl yn gynharach eleni - a byddai'n talu i chwithau wneud yr un peth - rhaid dychwelyd i 2005 pan ddaeth y siwpyrnofas sinematig, Brad Pitt ac Agelina Jolie, ynghyd i greu gwreichion godinebus yn y cynhyrchiad canolradd Mr & Mrs Smith.

Os gallwch chi gofio'r cyfnod CB (Cyn Brangelia) fe drigodd dau seren arall yn y ffurfafen oedd eto i'w heclipsio ar y pryd.

Cyn difetha ei yrfa gan Xenu a soffa Oprah, roedd Cruise yn dal mewn rheolaeth diolch i'r gyfres Mission Impossible a phrofodd ffilmiau fel There's Something About Mary a Charlie's Angels nad oedd na'r un ferch i gystadlu â Cameron Diaz am y cyfuniad o ysgafnder comig a bikini-bod.

Syniad da

Ni phrofodd yr un ohonynt lwyddiant ysgubol ers dechrau'r Dim-Dimau - pan rannodd y ddau'r sgrîn yn Vanilla Sky - ac felly, yn ddiweddar, dyma daro ar syniad o aduniad a fyddai'n debyg o ddangos y ddau ar eu gorau yn un o flocbysters mwyaf cwyrci 2010.

Dyna - yn ei hanfod - gefndir y cynhyrchiad Knight and Day, ac i fod yn deg, doedd o ddim yn syniad rhy ffôl. Ond byddai wedi elwa o barhau ar y berw

Mae'r ffilm yn agor wrth i ddau gymeriad daro ar ei gilydd ar ddamwain ym maes awyr Witchita, cyn cyfarfod eto ar awyren i Boston.

Adferwraig hen geir yw June Havens (Cameron Diaz) ac ar ras i gyrraedd adre ar gyfer paratoadau priodas ei chwaer.

Ond fel un sy'n ffoli ar ffawd, mae hi'n gwirioni ar ddoethinebau'r dieithryn enigmatig Roy Miller (Tom Cruise gan ddyheu am y cyfle i'w adnabod yn well.

Tra bo'r eneth eiddgar yn ymbincio yn y bathrwm, down i ddeall bod mwy i'r dieithryn hwn na llinellau slic a gwên gawslyd ond ei fod hefyd yn ysbïwr ar ffô rhag gelynion oherwydd bod yn ei feddiant declyn all achub y byd.

Gyda'r June ddiniwed mewn peryg, caiff Roy wared â'r dihirod mewn chwinciad chwannen ac erbyn iddi ddychwelyd i'w sedd yn barod am sws, mae yntau wrth lyw'r awyren yn paratoi i lanio mewn cae o ŷd.

O hynny mlaen, datblyga'r ffilm yn helfa ryngwladol, wrth i Roy hudo June i gyfres o leoedd yn Awstria, Sbaen a'r Azores er ei diogelwch ei hun.

Does dim llawer o bwrpas datgelu rhagor rhag sbwylio'r stori i'r rheiny sy'n mwynhau'r saga hyd yma .

Digon yw dweud i'r ffilm fynd ar chwâl ar ôl cychwyn mor gadarn ond ei bod yn parhau i adlonni, os nad ein gwefreiddio, tan y diwedd un.

Mae'r pwynt ola ma'n peri dryswch llwyr ag ystyried uchelgais- a chyllid - cynhyrchiad mawr o'r fath.

Yr hyn sydd o blaid Knight and Day ydy dau brif actor sy'n cael llond trol o hwyl am ben eu delweddau eu hunain - y naill fel Control-Freak a'r llall fel y ditz - a chawn ninnau'n diddanu heb gael ein diflasu'n ormodol am ychydig dan ddwyawr.

Rhaid dweud bod yr hiwmor swreal a geir drwyddi draw yn llwyddo i gydbwyso'r ffrwydradau ffantastig, wrth i Cruise chwarae psycho gor-ystyriol sy'n cymryd pob cyfle i ganmol 'rhen June rhwng pob cyflafan.

Ond yn dilyn cynyrchiadau antur fel Casino Royale a thrioleg Bourn - sy'n cyfuno gorddos o adrenalin â chwistrelliad o chwant - rhaid gofyn i ba raddau y gall ffilm fel hon ychwanegu hiwmor swreal at y potes heb golli'i momentwm yn llwyr, yn arbennig pan nad oes dihiryn amlwg i'w ofni.

Un llwyddiant

Dim ond un cynhyrchiad y galla i feddwl amdano lwyddodd i gyfuno'r cynhwysion hyn oll mewn ffordd gynnil a meistrolgar, a Grosse Pointe Blank (1997) oedd hwnnw, comedi dywyll lawer llai uchelgeisiol, am hitman sy'n cyfuno ymweliad â'i aduniad ysgol gydag "un swydd olaf".

Y gyfrinach y tro hwnnw - fel ag yn achos pob ffilm lwyddiannus - yw sgript gadarn, a pherfformiadau cofiadwy, gan ddau actor ag iddynt gemeg cwyrci ond hoffus, John Cusack a Minie Driver.

Rwy'n tybio nad cyd-ddigwyddiad yw'r ffaith fod sgript Knight and Day yn eiddo i Patrick O'Neill- cyw-awdur actiodd ran fechan yn y cynhyrchiad cynharach hwnnw- ac i'w brofiad ei ysbrydoli i sgwennu teyrnged o fath.

Wel, os oes amser gennych i blymio i dwll du anobaith sêr difflach, gwyliwch Knight and Day ar bob cyfri - ond fy nghyngor i fyddai ichi brofi seren wib go sbesial sydd wedi llwyddo i gadw'i sglein.


Llyfrau

Matthew Rhys

Holi ac adolygu

Holi awduron ac adolygu'r llyfrau Cymraeg diweddaraf

Theatr

Llion Williams

Barn a gwybodaeth

Adolygiadau a straeon o fyd y theatr Gymraeg

Â鶹ԼÅÄ iD

Llywio drwy’r Â鶹ԼÅÄ

Â鶹ԼÅÄ Â© 2014 Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.