Â鶹ԼÅÄ

The Hurt Locker

Rhan o boster y ffilm

08 Medi 2009

15Pedair seren

  • Y Sêr: Jeremy Renner, Anthony Mackie, Brian Geraghty, Guy Pearce a Ralph Fiennes .
  • Cyfarwyddo: Kathryn Bigelow.
  • Sgwennu: Mark Boal.
  • Hyd: 130 munud

Dan gysgod marwolaeth

Adolygiad Lowri Haf Cooke

Anaml iawn y mae ffilm am ryfel yn fy nenu i'r sinema ond nid ffilm ryfel gyffredin mo The Hurt Locker- cynhyrchiad a osodwyd yng nghanol y brwydro parhaol yn Iraq.

Yn wahanol iawn i ymdrechion diweddar fel Lions for Lambs, W. ac In The Valley of Elah - dydy'r ffilm hon ddim yn archwilio'r cymhlethdodau gwleidyddol a arweiniodd at fynd i ryfel yn y lle cyntaf, na phrofiadau teuluoedd y milwyr, na chwaith y tensiwn a geir rhwng y buddiannau cyfalafol a'r cwestiynau moesol dros barhau â'r brwydro.

Yn syml iawn, mae The Hurt Locker yn canolbwyntio'n llwyr ar y dynion hynny ar flaen y gad, gan egluro sut mae rhai milwyr yn byw o ddydd i ddydd dan gysgod parhaol marwolaeth.

Mae hi hefyd yn un o'r ffilmiau mwyaf cynhyrfus i mi ei gweld ers amser maith, sy'n adlewyrchiad o'r hyn roedd y gyfarwyddwraig, Kathryn Bigelow, ar dân i'w gyflwyno, sef bod rhai dynion yn gaeth i gynnwrf rhyfel a'u bod ar goll yn llwyr heb y cyffur hwnnw.

Sefydlu'r tensiwn

Sefydlir tensiwn trosgynnol y cynhyrchiad yn ystod ei golygfa gyntaf un, wrth gyflwyno tîm cyffredin yr olwg o filwyr Americanaidd yn cyflawni eu gorchwyl bob dydd o ddifa bomiau heb eu ffrwydro ar strydoedd chwilboeth Baghdad.

Wyneba'r tri milwr dan sylw - Thompson, Sanborn ac Eldridge - bwysau annioddefol y gwaith gyda hiwmor, proffesiynoldeb, a brawdgarwch di-gwestiwn, dan gysgod ansicrwydd mawr. Sut allan nhw fod yn sicr ai trigolion diniwed, ynteu aelodau o'r gwrthryfel, sy'n trigo ymhlith y gwylwyr o'r balconïau uwchben?

Daw'r cyfuniad rhyfeddol yma o ysgafner a thensiwn i ben, fodd bynnag, pan ffrwydra'r bom yn gwbl annisgwyl, gan ladd y Sarjant Thompson profiadol (a chwaraeir gan un o unig actorion cyfarwydd y cynhyrchiad, Guy Pearce) mewn chwinciad.

Cynnydd mewn cyffro

Yr hyn a ddilyna'r deg munud cyntaf yw cynnydd aruthrol yn y cyffro, a'r hiwmor tywyll, wrth i sarjant newydd, Will James (James Renner) - ddod i arwain Bravo Company am eu 38 diwrnod olaf.

Dyma ddyn ifanc sy'n poeni dim am brotocol, ac sy'n gwylltio'i gydweithwyr yn syth gydag agwedd ryfygus at ei waith sydd ar yr arwyneb o leiaf yn dangos dim parch at ei fywyd ei hun, nag at eraill.

Dyw'r ffaith fod y cowboi kamikaze hwn wedi difa bron i 900 o ffrwydron yn ei amser a'i fod yn arwr i'w uwch gapteiniaid yn golygu dim i Sanborn (Anthony Mackie) ac Eldridge (Brian Geraghty) - dau filwr sy'n awyddus iawn i gyrraedd adre mewn un darn - ac mae'r ffaith fod y ffilm yn cyfri'r dyddiau, fesul pob golygfa gyffrous, tan ddiwedd eu cyfnod diweddara ar faes y gad yn ychwanegu at brofiad gwylio annioddefol o gynhyrfus ar adegau.

Portread deallus

Serch y cyflwyniad llawn testosteron hwn, mae The Hurt Locker yn llwyddo hefyd i gyflwyno astudiaeth seicolegol a phortread deallus o fywyd y milwyr gan gynnwys golygfeydd dadlennol sy'n profi fod y dynion hyn yn brwydro cymaint â chwestiynau moesol ag ydynt â'r gwrthryfelwyr anhysbys.

Ceir hefyd eiliadau dirdynnol tu hwnt, sy'n cadarnhau nad peiriannau mewn lifrai mo milwyr cyffredin.

Nid ffilm ddogfen mo hon, ond arweiniodd nifer o benderfyniadau gan Kathryn Bigelow - gan gynnwys castio actorion anghyfarwydd, cyfarwyddo a golygu mewn steil pry ar wal, ac i ddefnyddio sgript gan newyddiadurwr dreuliodd gyfnod maith yng nghwmni tîm difa ffrwydron yn Iraq - at gynhyrchiad sy'n mynd ymhellach na'r un ffilm a welais i erioed i bortreadu realiti ar faes y gad.

Ydy'r cynhyrchiad felly yn mawrygu rhyfel? Nac ydy'n wir. I'r gwrthwyneb yn llwyr. Ond yr hyn a geir yn The Hurt Locker yw ymgais ystyriol - ac ystyrlon - i ddangos sut mae carfan o filwyr yn llwyddo i ddelio â chynnwrf ac erchylltra eu gwaith bob dydd.


Llyfrau

Matthew Rhys

Holi ac adolygu

Holi awduron ac adolygu'r llyfrau Cymraeg diweddaraf

Theatr

Llion Williams

Barn a gwybodaeth

Adolygiadau a straeon o fyd y theatr Gymraeg

Â鶹ԼÅÄ iD

Llywio drwy’r Â鶹ԼÅÄ

Â鶹ԼÅÄ Â© 2014 Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.