Â鶹ԼÅÄ

The Hangover (2009)

Golygfa o'r ffilm

15Tair  seren - a hanner
a hanner!

  • Y Sêr: Bradley Cooper, Ed Helms, Zach Galifianakis, Heather Graham.
  • Cyfarwyddo: Todd Phillips.
  • Sgwennu: John Lucas a Scott Moore.
  • Hyd: 100 munud

Tri mewn trwbwl

Adolygiad Lowri Haf Cooke

Dros y blynyddoedd dwetha mae'r Bromantic Comedy bondigrybwyll wedi llwyddo i ddenu - a chlodfori - carfan sy'n weddol ddiarth i'r sinema, y slacyrs metro-rywiol.

Yn naturiol, term newydd am fformiwla gyfarwydd yw hwn yn y bôn yn canolbwyntio ar gyfeillgarwch clos criwiau o ddynion ifanc, a gellid cynnwys clasuron frat-house yr Wythdegau fel Animal House, cynnyrch diweddar Frat-Pack Will Ferrell, Vince Vaughan a'r brodyr Wilson, a The 40 Year Old Virgin a Knocked Up gan y cyfarwyddwr Judd Apatow fel rhai o bigion y genre.

Mae The Hangover, yn ticio pob bocs posib er mwyn ennill ei le ym mhantheon y mawrion hyn ac yn llwyddo i hoelio sylw'r gynulleidfa o fewn y deg munud cyntaf, diolch i argyfwng diddorol y bore sy'n dilyn stag-night yn Vegas.

Ar goll!

Yn fras, mae Doug (Justin Bartha) - y priodfab - ar goll. A diolch i ddôs anesboniadwy o amnesia, yr unig ddarnau o jigsô'r noson flaenorol sydd gan y tri gwas Phil (Bradley Cooper), Stu (Ed Helms) ac Alan (Zach Galifianakis) yw'r ffeithiau canlynol;

  • Mae un ohonynt un dant yn brin, a bellach yn briod â stripper o'r enw Jade (Heather Graham);
  • Mae yna fabi bach yn y cwpwrdd a theigr Mike Tyson yn y stafell molchi;
  • Mae ganddynt oll gur pen diawledig a diwrnod yn unig i ddarganfod Doug!

Yn yr un cwch a'r cymeriadau

Yr hyn sy'n ymddangos yn rhwystredig ar y cychwyn, ond sydd mewn gwirionedd yn ffordd glyfar o gyflwyno haenau pellach o hiwmor i'r sefyllfa, yw'r ffaith nad ydym yn gwybod beth ddigwyddodd yn ystod y noson. Rydym ninnau'n rhannu rhyfeddod y triawd wrth iddynt ddarganfod gwir ddyfnderoedd y drygioni dan sylw.

Un peth braf am y ffilm hon - ac sy'n cyfri am lwyddiannau nifer o gynyrchiadau diweddar go debyg - yw bod y sêr yn actorion gweddol ddiarth a'u perfformiadau ffres yn cyfrannu cryn dipyn at ein mwynhad.

Mae cemeg arbennig rhwng y triawd trwstan, ond efallai mai Zach Galifianakis fel Alan - darpar frawd-yng-nghyfraith Doug - sydd yn creu'r argraff fwyaf.

Mewn ffilm sy'n dychanu delwedd ystrydebol rhai dynion o stag-night go iawn dyma gymeriad sy'n cynrychioli popeth ond hynny:
Cymeriad barfog, boliog, sydd yn ymylu ar y sinistr, ond sydd yn ddigon annwyl inni ymhyfrydu yn ei lwyddiant fel arwr terfynol y stori.

Lluniau trawiadol

Mae'r ffilm hefyd yn cynnig ffotograffiaeth drawiadol o Brifddinas y Pechodau, a thrac sain eclectig sy'n gyfuniad o anthemau cawslyd - Who Let the Dogs Out a pherfformiad gwahanol o Candy Shop 50 Cent - a fersiynau eironig o themâu priodasol.

Ceir hefyd sawl perfformiad hynod gofiadwy gan actorion cynorthwyol, gan gynnwys Kim Cheong fel Mr Chow y gangstyr swreal o seicotig - a Mike Tyson fel Mike Tyson.

Sgript ffraeth

Ond sgript ffraeth sydd yn sail i'r cyfan, a dwi'n falch iawn gweld partneriaeth sgwennu John Lucas a Scott Moore yn cynhyrchu comedi o sylwedd o'r diwedd, yn dilyn ymdrechion tila Four Christmases a Ghosts of Girlfriends Past.

Beth am rywbeth cystal - os nad gwell - am ferched y tro nesa bois?


Llyfrau

Matthew Rhys

Holi ac adolygu

Holi awduron ac adolygu'r llyfrau Cymraeg diweddaraf

Theatr

Llion Williams

Barn a gwybodaeth

Adolygiadau a straeon o fyd y theatr Gymraeg

Â鶹ԼÅÄ iD

Llywio drwy’r Â鶹ԼÅÄ

Â鶹ԼÅÄ Â© 2014 Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.