Â鶹ԼÅÄ

Dorian Gray (2009)

11 Medi 2009

15Pedair seren

  • Y Sêr: Ben Barnes, Colin Firth, Rachel Hurd-Wood, Rebecca Hall a Ben Chaplin. .
  • Cyfarwyddo: Oliver Parker.
  • Sgwennu: Toby Finlay.
  • Hyd: 120 munud

Rhyw lun o fywyd

Adolygiad Glyn Evans

Mae'r nofel The Picture of Dorian Gray gan Oscar Wilde - am ŵr ifanc sy'n aros yn fythol ifanc tra bo peintiad ohono y mae'n ei guddio mewn croglofft yn heneiddio ac yn hagru gyda'r blynyddoedd - yn un o straeon mwyaf adnabyddus llenyddiaeth Saesneg

Ers cyhoeddi'r nofel yn 1891 - wedi iddi gychwyn fel stori gyfres anorffenedig yn Lippincott's Magazine y flwyddyn cynt - gwnaed oddeutu ugain o ffilmiau ohoni ac ymddangosodd y prif gymeriad yn The League of Extraordinary Gentlemen enbydus yn 2003.

Ac, yn wir rhwng 2004 ac eleni bu chwe fersiwn ffilm gan gyfrif un diweddaraf Oliver Parkes.

Heb amheuaeth mae hon yn stori sydd wedi cydio yn nychymyg y sinema gyda'r ffilm gyntaf, Dorian Grays Portraet yn dyddio'n ôl i 1910.

Ac yn y pumegau argraffwyd fersiwn comic lluniau ohoni!

Rhan o boster y ffilm

Wrth gwrs, dydi lluosogrwydd o'r fath byth yn rhwystr i rywun feddwl bod lle i un fersiwn arall derfynol - ganddo ef!

Gellir maddau i Oliver Parker am feddwl felly achos yn ystod y blynyddoedd diwethaf 'ma cafodd ei addasiadau ef o ddwy o ddramâu Oscar Wilde gryn groeso - The Importance of Being Earnest ac An Ideal Husband.

Corlannodd nifer o actorion o bwys ar gyfer ei Dorian gan gynnwys Colin Firth sy'n cael cryn hwyl ar chwarae y temtiwr afrad a hudwr dynion ifanc, Lord Henry Wotton.

Mae o'n cyfarfod y Dorian Gray (Ben Barnes) ifanc a diniwed pan ddychwel Gray i Lundain i feddiannu cartref gothig, mawreddog, a etifeddodd gan ei daid. Buan iawn y cymer Wotton y gwr ifanc yn ei ugeiniau cynnar dan ei adain a'i dywys hyd llwybrau pob math o oferedd yn amrywio o hel merched, puteinio, hel dynion, smocio opiwm, meddwi, mwrdro a lladd wrth ufuddhau i un o wirebau'r Arglwydd mai'r "unig ffordd i gael gwared â themtasiwn yw ildio iddi" un o amryw o epigramau ffraeth glyfar Wilde sy'n cael eu diogelu yn y ffilm.

Erbyn y diwedd, fodd bynnag, rhaid i Gray gydnabod nad ydi "pleser ddim yr un peth â hapusrwydd" ac er bod llawnder o bleserau yn ei fywyd . . . wel da chi'n gwybod.

Yn ystod y misoedd cynnar yna yn Llundain, ac yntau yn ddyn hynod o olygus a glandeg tynnodd Gray sylw yr arlunydd Basil Hallward (Ben Chaplin) sy'n cwblhau portread ohono sy'n adlewyrchu ei holl harddwch naturiol nodedig.

Mor hardd y llun mae Gray yn tyngu'n Ffawstaidd y rhoddai bopeth am gael aros am byth fel ag y mae yn y llun hwnnw ac osgoi heneiddio.

Caiff ei ddymuniad ac er gwaethaf ei holl drachwant ac oferedd erys yn fythol ifanc - tra bo'r llun, sy'n cynrychioli ei enaid - yn heneiddio yn ei le.

Y lun sy'n dwyn cleisiau marwolaeth mwrdwr cariad Gray, Sybil Wood (Rachel Hurd-Wood), er enghraifft a'r llun yn troi'n symbol o hagrwg enaid cudd y gŵr ifanc sydd modd hawddgar ei wedd.

Does dim angen arlunydd i dynnu llun y foeswers mwy nag oes angen dweud bod y cyfan yn diweddu mewn trychineb.

Ac, wrth gwrs, eirioni mawr y stori yw mai'r ferch y mae Gray yn gwir ymserchu ynddi ac sy'n syrthio mewn cariad ag ef yw Emily (Rebecca Hall) merch Henry Wotton y temtiwr a roddodd gychwyn i'r holl bechod ac oferedd!

Er ein bod yn gwybod y stori . . .

O ystyried ein bod yn gwybod y stori mae ffilm Oliver Parker yn dra gafaelgar gyda sawl golygfa sy'n brawychu er yn ein hatgoffa o ffilmiau gwaed a dychryn Hammer gan roi gwedd braidd yn hen-ffasiwn i'r agwedd honno o'r ffilm o ystyried yr hyn mae ffilmiau eraill yn ei gynnig y dyddiau hyn.

Ond mae yna olygyfeydd trawiadol megis lladd Basil Hallward ac mae rhywbeth yn iasol iawn mewn golygfa lle mae Dorian yn ymuno â hen gyfeillion - hwy wedi heneiddio'n ddybryd ond ef heb newid dim.

Ond o ystyried mai ef yw'r prif gymeriad bach yw gafael Dorian Gray arnom mewn gwirionedd ac er i ymdrech gael ei gwneud i greu plentyndod o gael ei guro a'i gam-drin iddo dydi hynny ddim mewn gwirionedd yn ennyn ein cydymdeimlad fel y bwriedir - yn wir mae'n tanseilio byrdwn y stori mewn gwirionedd trwy greu esgus am ei ymddygiad.

Disgrifiodd un adolygydd Ben Barnes yn y ffilm fel, "tall, dull and handsome tra mewn gwirionedd yr ydym yn chwilio am rywun y gallwn ninnau fynd i wewyr ynglŷn â'i wewyr yntau.

Ond dwedwch a ddwedwch, mae Dorian Gray yn noson iawn yn y pictiwrs er i rywun gael ei ddyfynnu'n dweud iddo heneiddio ugain mlynedd yn ystod y perfformiad.

Ond bod yn glyfar oedd hwnnw - trwy ddweud y math o beth y gallai Oscar Wilde fod wedi ei ddweud - ond yn well!


Llyfrau

Matthew Rhys

Holi ac adolygu

Holi awduron ac adolygu'r llyfrau Cymraeg diweddaraf

Theatr

Llion Williams

Barn a gwybodaeth

Adolygiadau a straeon o fyd y theatr Gymraeg

Â鶹ԼÅÄ iD

Llywio drwy’r Â鶹ԼÅÄ

Â鶹ԼÅÄ Â© 2014 Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.