Â鶹ԼÅÄ

District 9

Golygfa o'r ffilm

04 Medi 2009

15Pedair seren

  • Y Sêr: Sharlto Copley, David James, Jason Cope, Kenneth Nkosi, Louis Minnaar, Mandla Gaduka, Nathalie Boltt, Sylvaine Strike, Vanessa Haywood.
  • Cyfarwyddo: Neil Blomkamp. Cynhyrchiad Peter - Lord of the Rings - Jackson.
  • Sgrifennu: Neil Blomkamp a Terri Tatchell.
  • Hyd: 112 munud

Antur sy'n wers i bawb

Adolygiad Glyn Evans

Ar adeg pan fo hiliaeth, gwersylloedd ffoaduriaid, ceiswyr aseilam a senoffobia yn cael cymaint o sylw mae District 9 yn ffilm amserol dros ben.

Yn ddameg o ffilm achos er yn ffuglen wyddonol ffrwydrol a llawn cyffro ac antur am greaduriaid o bellafion y sêr byddai rhywun yn gwneud cam dybryd a'r gwneuthurwyr yn anwybyddu gwersi gwleidyddol, moesol a chymdeithasol ffilm sy'n barod yn cael ei disgrifio gan rai fel un orau 2009 hyd yn hyn.

Wedi costio £18 gall y stori o'i hailadrodd yn foel atgoffa rhywun o B Movies ddyddiau fu ond y mae mwy o sylwedd na hynny i District 9 ac o safbwynt technegol ac o ran actio hefyd y mae'n taro sawl deuddeg.

Y stori

Y stori'n gyntaf. Mae llong ofod enfawr yn dod i stop uwchben Johannesburg, De Affrica - wedi 'rhedeg allan o betrol' fel petai.

Oddi mewn iddi darganfyddir miliwn o fodau truenus o blaned arall ar eu cythlwng.

Fe'u cludir o'r llong a'u cartrefu mewn gwersyll mewnfudwyr, District 9, lle maen nhw'n sglyfaetha fel anifeiliaid mewn tlodi a sbwriel a gangsters yn manteisio arnyn nhw ac yn gwneud arian o'u hoffter adictaidd o fwyd cathod!

A hithau ugain mlynedd yn ddiweddarach a'r mewnfudwyr yn dra amhoblogaidd ymhlith y boblogaeth penderfynir fod yn rhaid eu symud - 1.8 miliwn ohonyn nhw erbyn hyn - yn bellach o'r ddinas i wersyll neu geto arall, District 10, yn groes i'w dymuniad.

Erbyh hyn mae'r creaduriaid heglog, ysgyrnog a'u hwynebau tagellog yn cael eu hadnabod wrth yr enw diraddiol prawns oherwydd eu lled debygrwydd i'r anifeiliaid hynny.

Yn gofalu am symudiad y prawns y mae Wikus Van der Merwe, (Sharlto Copley) gweinyddwr ddiddrwg ddidda, gyda chefnogaeth llu o filwyr arfog preifat sydd ar alw'r cwmni mae'n gweithio iddo.

A dyna pryd mae pethau'n mynd yn wirioneddol flêr.

Nid yn unig mae'n troi'n sefyllfa ymfflamychol ond ar ben hynny llethir Wikus gan firws sy'n effeithio ar ei DNA ac mae'r erlidiwr mewnfudwyr planedol yn awr ar ffo ei hun rhag yr union awdurdodau mae'n gweithio iddynt.

Os oes gennych ewinedd i'w cnoi . . .

Yn ffrwydrol

Yn amlwg mae rhywun yn cael ei sgubo gan y sefyllfa ymfflamychol sy'n datblygu wrth i Wikus orfod troi at un o'r creaduriaid a'i blentyn am gymorth gyda ei deulu ei hun wedi troi yn ei erbyn.

Ychwanegir at gyffro'r ffilm gyda golygfeydd yn nukll adroddiadau newyddion a chyfweliadau gydag 'arbenigwyr' ar faterion yn ymwneud a'r mewnfudwyr rhyngblanedol.

Mae'r hanner awr olaf yn llythrennol ffrwydrol gyda bwledi a thaflegrau yn tasgu i bob cyfeiriad gan wneud y ffilm yn gwbl dderbyniol i'r sawl sydd ond yn chwilio am antur, miri a thyndra.

Ond mae District 9 yn cyffwrdd a'r byd go iawn hefyd gyda'i darlun o'r cyflwr dynol a gallwn yn hawdd gredu y gallai'r hyn sy'n digwydd yn y ffilm ddigwydd yn y byd go iawn hefyd.

Ac nid ar ddamwain y gosodwyd y llong ofod i hofran yn ddisymud uwchben prifddinas gwald a fu dan iau aparteid.

Y byd go iawn

A'r lluniau sy'n aros gyda ni wrth adael y ffilm yw rhai o fyd go iawn y lleoliadau yn Soweto lle bu'r ffilmio a lle mae pobl y byd go iawn yn dal i fyw mewn tlodi enbyd sy'n golygu na fydd y rhan fwyaf ohonyn nhw yn gallu fforddio teithio i'r sinema agosaf i weld y ffilm a wnaed yn eu plith.

Ac maen nhw yn dal yno, wrth gwrs, ymhell wedi i'r actorion a'r technegwyr a'r propiau rhyfeddol ymadael. Yn byw mewn gobaith y bydd y ffilm mor llwyddiannus ag i dynnu sylw at eu hadfyd hwythau.

Os pwysleisir unrhyw beth yn District 9 annynoldeb dyn tuag at ddyn yw hynny. Ei anoddefgarwch tuag at y gwahanol. Ei draha lle dylai fod tosturi.

Mae'n stori ysgytwol a'r ffilm yn un gwerth ei gweld ar sawl cyfrif.

A pheidiwch synnu os bydd dilyniant. Mae'r hadau'n cael eu hau yn y golygfeydd olaf un ac addewid o ddatblygiadau pellach yn hynt y prawns a Wikus ymhen tair blynedd.


Llyfrau

Matthew Rhys

Holi ac adolygu

Holi awduron ac adolygu'r llyfrau Cymraeg diweddaraf

Theatr

Llion Williams

Barn a gwybodaeth

Adolygiadau a straeon o fyd y theatr Gymraeg

Â鶹ԼÅÄ iD

Llywio drwy’r Â鶹ԼÅÄ

Â鶹ԼÅÄ Â© 2014 Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.