Â鶹ԼÅÄ

Made in Dagenham

Merched Dagenham

04 Hydref 2010

15Tair seren allan o bump

  • Y Sêr: Sally Hawkins, Bob Hoskins, Geraldine Chapman, Jaime Winstone, Daniel Mays, Andrea Riseborough, Rupert Graves a Rosamund Pike.
  • Cyfarwyddo: Nigel Cole.
  • Sgrifennu: William Ivory.
  • Hyd: 117 munud

I Ferthyr i wneud Made in Dagenham

Adolygiad Lowri Haf Cooke

Misoedd yn unig ar ôl cau ffatri eiconig Hoover ym Merthyr Tudfil yn 2009, roedd y lleoliad yn ferw o weithgaredd, diolch i benderfyniad gwneuthurwyr y ffilm Calendar Girls i ffilmio cynhyrchiad o'r un natur am griw o ferched penderfynol ond y tro hwn mewn ffatri - debyg i'r un ym Merthyr.

Er mai'r teitl Made in Merthyr fyddai'n dechnegol gywir, ffilm am safiad gwleidyddol criw o weithwragedd yn ffatri Ford ger Llundain ym 1968 ydy Made in Dagenham a chan i'r ffatri wreiddiol honno orffen cynhyrchu ceir yn 2002, a phwerdy yno yn ei lle ers hynny, bu'n rhaid canfod lleoliad fyddai'n addas ar gyfer ffilm gyfnod am streic fawr dros hawliau gweithwyr.

Lle gwell na Chymru fach i ddod o hyd i ffatri wedi'i chau gan gwmni rhyngwladol?

Mi adawa i'r adleisio eironig am y tro, gan adrodd i'r ffilm ei hun lwyddo ar y cyfan i ddiddanu ac i ddadlennu - er iddi fethu mewn mannau trwy adael i ffuglen ffuantus ffrwyno'r ffeithiau.

Cychwyn mewn gwres

Cychwyn y stori yw ddiwrnod tanbaid o haf pan fo merched y ffatri chwyslyd yn Dagenham yn darganfod bod eu swyddi gwnïo seddi Cortinas a Zephyrs i'w hisraddio i fod yn rhai 'di-sgil' gan olygu cwtogi eu cyflogau.

Does gan y rhan fwyaf o'r mamau prysur yn eu plith ddim math o ddiddordeb mewn gwleidyddiaeth ond gan iddynt orfod sefyll tri arholiad i brofi eu gallu cyn sicrhau'r swyddi yn y lle cyntaf, penderfyna'r merched ddangos eu hanfodlonrwydd â'r penderfyniad trwy fynd ar streic - a hynny dan arweiniad Rita (Sally Hawkins) a Connie (Geraldine Chapman), ac anogaeth eu stiward, Albert (Bob Hoskins).

Mewn trafodaethau pellach, sylweddola'r merched fod y dynion sydd mewn grym yn benderfynol o dawelu'r anfodlonrwydd er mwyn canolbwyntio ar densiynau "pwysicach" rhwng yr Undeb a phencadlys Ford yn yr Unol Daleithiau.

Diolch i'r agwedd nawddoglyd hon, aiff y merched â'r achos ymhellach trwy fynnu cyflog cyfartal i ddynion a merched.

Wrth eu boddau - i ddechrau

Ar y dechrau, mae eu gwÅ·r yn gefnogol a'r wasg wrth ei bodd gyda lluniau deniadol o'r picedwyr benywaidd ar y tudalennau blaen yn tynnu sylw'r gwleidyddion sy'n cynnwys neb llai na Gweinidog Cyflogaeth y cyfnod, Barbra Castle.

Ond wrth i'r ffatri gyfan ddod i stop cynydda'r tensiynau yn y cartrefi a'r pwysau ar y merched "i gallio" a dychwelyd yn dawel at eu peiriannau gwnïo.

A'i dyfalbarhau ynteu plygu i'r drefn wna nhw?

Dyna gnewyllyn y stori a glywodd cyfarwyddwr Calendar Girls, Nigel Cole, pan ddaeth Radio 4 â'r merched at ei gilydd ddeugain mlynedd yn ddiweddarach a thybiodd y byddai ffilm am y digwyddiad yn denu'r un gynulleidfa â'r Full Monty a Billy Elliot.

Ond yn wahanol i'r ffilmiau hynny oedd â streic aflwyddiannus y Glowyr yn gefndir iddynt arweiniodd y streic fechan hon gan ferched at newid yn y gyfraith gyflogaeth, diolch i arwyddo'r Ddeddf Cyflog Cyfartal ym 1970.

Ceisio doniolwch

Yn sicr, mae'r hanes yn haeddu triniaeth sy'n driw i'r hanes ond, oherwydd i Coles benderfynu ei gwneud yn ffilm ysgafn, boblogaidd yn hytrach na drama annibynnol kitchen-sink yn null Ken Loach, bu'n rhaid creu nifer o gymeriadau ffuglennol - gan gynnwys sawl cymeriad tipyn iau na'r merched ffatri gwreiddiol, fel y good time gals Sandra (Jaime Winstone) a Brenda (Andre Riseborough) - a llewni'r ffilm â golygfeydd "digri", i wneud y mwyaf o gefndir dosbarth gweithiol y merched cyffredin hyn.

Yn anffodus, ar adegau, dydy'r ffilm ddim yn ddigon doniol i fod yn gomedi nac yn ddigon difrifol i bwysleisio safiad aruthrol yr arwresau hyn.

Ond ar y cyfan, diolch yn bennaf i berfformiadau gwych gan gast cadarn, mae'r cynhyrchiad yn gweithio diolch i ambell olygfa go emosiynol.

Dewis da

Ymhlith y perfformiadau mwyaf nodedig y mae un Sally Hawkins, a ddisgleiriodd yn Happy Go Lucky gan Mike Leigh yn 2008, sy'n ddewis da fel yr arweinydd annwyl a diymhongar, Rita O'Grady, a Miranda Richardson mewn cameo estynedig fel y Barbara Castle danllyd.

Yn ogystal, yn dilyn perfformiad go debyg yn An Education y llynedd, mae Rosamund Pike yn ardderchog fel cefnogwraig annisgwyl i'r gweithredu gwleidyddol, Lisa, gwraig i reolwr y ffatri sydd â gradd Dosbarth Cyntaf o Brifysgol Caergrawnt ac sy'n ei thrin fel dinesydd ail ddosbarth yn ei chartref ei hun.

Trueni, fodd bynnag, i'r tîm cynhyrchu deimlo'r angen i symleiddio rhannau helaeth o'r stori er mwyn ei gwneud hi'n fwy hygyrch a "dealladwy" i gynulleidfa dorfol. Fy nheimlad i yw bod cynulleidfaoedd yn llawer iawn mwy deallus nag a dybia cynhyrchwyr ffilmiau - ond, fel ag mewn gwleidyddiaeth mae'n debyg, rhaid cyfaddawdu er mwyn cyflawni dim.

Hynt Merthyr

A beth am Ferthyr?

Ydyn ni'n gweld twf adain newydd o Valleywood yma gyda phosibiliadau di-ri am gynyrchiadau Cymreig?

Wel, oni bai ichi weithio yn y ffatri ei hun does dim ffordd o ddweud mai yn ne Cymru ydych chi gan i'r tîm cynhyrchu sicrhau bod digonedd o archif o Dagenham i leoli'r ffilm yn iawn gan wneud Made in Dagenham yn gynhyrchiad arall sy'n manteisio ar Gymru fel lleoliad yn hytrach na ffocws ffilm.

Fel ddwedodd Mr Hoover unwaith, wrth ddisgrifio'i gampwaith ef, "It sucks".


Llyfrau

Matthew Rhys

Holi ac adolygu

Holi awduron ac adolygu'r llyfrau Cymraeg diweddaraf

Theatr

Llion Williams

Barn a gwybodaeth

Adolygiadau a straeon o fyd y theatr Gymraeg

Â鶹ԼÅÄ iD

Llywio drwy’r Â鶹ԼÅÄ

Â鶹ԼÅÄ Â© 2014 Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.