Â鶹ԼÅÄ

Coco Before Chanel

Coco Chanel

12APedair   seren

  • Y Sêr: Audrey Tautou, Alessandro Nivola, Benoît Poelvoorde.
  • Cyfarwyddo: Anne Fontaine.
  • Sgwennu: Addasiad Anne Fontaine a Camille Fontaine o'r bywgraffiad Chanel and her World gan Edmonde Charles-Roux.
  • Hyd: 110 munud

Camp fawr Audrey Tautou

Adolygiad Lowri Haf Cooke

Cymerwch gip ar gwpwrdd dillad unrhyw ferch ac fe welwch chi ddylanwad Gabrielle 'Coco' Chanel ar ei chynnwys - o'r trowsusau trwsiadus, y crys Breton eiconig hyd at y rhes syml o berlau a'r ffrog fach ddu.

Roedd Chanel yn allweddol wrth ryddhau merched troad y ganrif ddwethaf o ormes y staes a'r frou-frou ffuantus.

Ers ei marwolaeth ym 1971 cafodd ei gweledigaeth bendant, minimalistaidd o fodern, ei hailgylchu'n flynyddol a gwelir olion ei hathrylith ar ferched o bob oed a chefndir cymdeithasol.

Eleni rhyddheir dau biopic am fywyd y Ffrances ac fel yr awgryma teitl y cyntaf, mae Coco Before Chanel yn canolbwyntio'n bennaf ar ei dyddiau cynnar gan archwilio'r dylanwadau arni cyn iddi sefydlu un o dai couture mwyaf llwyddiannus y byd ffasiwn.

Synhwyrus a thelynegol

Mae'n gynhyrchiad synhwyrus a thelynegol, wedi'i leoli'n bennaf yng nghefn gwlad Ffrainc, ymhell o ruthr y brifddinas, gan mai magwraeth hynod ddifreintiedig gafodd Gabrielle a'i chwaer Adrienne.

Ar ddechrau'r ffilm, gwelwn y ddwy ferch fach yn cael eu gadael mewn cartref plant gan eu tad, yn dilyn marwolaeth eu mam.

Yma, nodwn ddylanwad lliwiau monochrome trawiadol y lleianod a'r lleoliad ar y cyw gynllunydd, cyn symud i mlaen rhyw ddegawd i adeg amryliw ei harddegau hwyr, a chyfnod cynharaf ei gyrfa - yn gwnïo gyda'r dydd a chanu mewn nosweithiau cabaret fin nos a chwrdd ag amrywiaeth o ddynion dylanwadol yn y gynulleidfa.

Un o'r rhain oedd Étienne Balsan (Benoît Poelvoorde) - mewnforiwr cyfoethog a chariad a noddwr cynharaf Gabrielle.

Diolch i'w gysylltiadau cymdeithasol ef, dechreuodd Coco dderbyn comisiynau i gynhyrchu ei chynlluniau modern, bachgennaidd bron, gan greu argraff ar ferched oedd yn dechrau blino ar eu dillad crand, rhwystredig.

Trwyddo ef hefyd y cyfarfu â dyn arall, Arthur "Boy" Chapel (Alessandro Nivola) - Sais priod, ond cyfoethog - ac ef, yn ôl y ffilm, fu'n gyfrifol am feirioli ei chalon galed a rhoi'r rhyddid ariannol iddi sefydlu ei busnes ei hun.

Mewnblyg a phenderfynol

Cyflwynir Coco ei hun fel merch fewnblyg ond hynod benderfynol, yn Fachiavelli o Fademoiselle, wrth ddefnyddio dynion i'w phwrpasau ei hun, yn hytrach na derbyn confensiynau mistresi'r cyfnod.

Pwysleisir yma mai 'Boy' oedd gwir gariad ei bywyd ac, yn wir, caiff eu perthynas fyrhoedlog ei phortreadu fel cyfnod o ryddid artistig a deffroad i'r synhwyrau wrth i Coco ddechrau dod â'i dylanwadau ynghyd, cyn i ddigwyddiad trychinebus roi taw ar eu rhamant a'i gorfodi i agor ei chwys ei hun.

Mae pob elfen o'r ffilm hon, o'r darn piano syml sy'n gefnlen gerddorol i'r gwaith ffotograffiaeth hudolus gan Christophe Beaucarne, a'r dillad hyfryd gan Catherine Leterrier yn cyfuno i greu cyfanwaith gyfareddol.

Mae'n amlwg i'r gyfarwyddwraig, Anne Fontaine, blesio'r gwybodusion, gan i Karl Lagerfeld ei hun - prif gynllunydd a churadur yr enw Chanel ers ei marwolaeth - agor archifau'r cwmni ar gyfer yr arddangosfa anhygoel o wisgoedd sy'n cynrychioli gyrfa gyfan a welir yn y coda trawiadol ar ddiwedd y ffilm.

Un enw yn disgleirio

Ond rhaid dweud bod un enw sy'n disgleirio gymaint â Coco Chanel ei hun - Audrey Tautou.

Mae'r actores bron iawn yn llwyddo i olchi yn llwyr o'r cof ei pherfformiad mwyaf eiconig hyd yn hyn - sef Amélie, yr ±õ²Ô²µÃ©²Ô³Ü±ð annwyl o Baris - a hudodd filiynau ar droad y mileniwm.

Ar sail ei pherfformiad yma, cafodd Audrey Tautou ei geni i chwarae'r gynllunwraig gymhleth, ac mae'n bleser cael gweld yr actores yn serennu mewn chwip o ran, ac yn meddiannu'r sgrîn fel merch gadarn ar ôl chwarae ail feiolin go druenus i Tom Hanks yn The Da Vinci Code.
Bravo!


Llyfrau

Matthew Rhys

Holi ac adolygu

Holi awduron ac adolygu'r llyfrau Cymraeg diweddaraf

Theatr

Llion Williams

Barn a gwybodaeth

Adolygiadau a straeon o fyd y theatr Gymraeg

Â鶹ԼÅÄ iD

Llywio drwy’r Â鶹ԼÅÄ

Â鶹ԼÅÄ Â© 2014 Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.