Â鶹ԼÅÄ

The Damned United

Golygfa o'r ffilm

15Pedair  seren

  • Y Sêr: Michael Sheen, Timothy Spall, Colm Meaney, Jim Broadbent.
  • Cyfarwyddo: Tom Hooper.
  • Sgwennu: Peter Morgan yn dilyn nofel David Peace.
  • Hyd: 93 munud

Sheen yw Clough

Adolygiad Lowri Haf Cooke

Beth ar wyneb y ddaear wnaeth dynnu merch â llai na dim diddordeb mewn pêl-droed i weld ffilm am un o reolwyr mwyaf dadleuol - a dadleugar - yr ugeinfed ganrif?

Yr ateb syml ydy Michael Sheen. Yr actor amryddawn o Bort Talbot a lwyddodd i ddarbwyllo'n llwyr nid yn unig fel Tony Blair - yn The Deal ar Sianel 4 a The Queen yn y sinema - ond hefyd fel Kenneth Williams yn Fantabulosa! ar Â鶹ԼÅÄ4 ac, yn fwyaf diweddar, fel y cyflwynydd David Frost yn Frost/Nixon ar y llwyfan a'r sgrin fawr.

Ond beth, yn y lle cyntaf, a lwyddodd i ddenu'r un ferch i ddarllen y 'nofel ffeithiol' o'r un enw gan David Peace y mae'r ffilm hon yn seiliedig arni? Wel, yn symlach fyth; Brian Howard Clough.

Dwi'n falch dweud fod cyfuno'r ddau ddyn wedi profi'n llwyddiant ysgubol. Mae'r ffilm, The Damned United, yn gyfuniad o nostalgia-trip chwerwfelys i oes aur y gêm brydferth ac, yn rhyfedd ddigon, yn rom-com cwbl annisgwyl.

Gyrfa lwyddiannus

I'r rhai hynny sy'n cofio dawn y dyn dosbarth gweithiol o Middlesborough ar y cae chwarae, cyn i anaf cas ei arwain at yrfa lwyddiannus yn rheolwr - a rentagob - o'r radd flaenaf, does ddim angen ymhelaethu.

Ond i'r rhai hynny sydd efallai'n rhy ifanc i gofio'r dyddie pan oedd pêl-droed yn dal i fod yn gêm oedd yn eiddo'r bobol yn hytrach na'r biliwnyddion dyma gymeriad trasig o gomig o statws Shakespeareaidd sydd yn dal i hawlio lle yng nghalonnau dilynwyr timau y bu'n eu rheoli dros y blynyddoedd.

Yr hyn sy'n ddifyr ydy fod yr awdur gwreididol - a gwneuthurwyr y ffilm hon - wedi penderfynu canolbwyntio ar gyfnod anodweddiadol o aflwyddiannus yng ngyrfa Clough, y 44 diwrnod trychinebus y bu'n reolwr Leeds United yn dilyn penderfyniad y cyn reolwr - a'i brif elyn - Don Revie, i dderbyn gwahoddiad i reoli tîm Lloegr.

Dewisodd yr awdur David Peace gyfosod y cyfnod hwn gyda'r blynyddoedd llwyddiannus cynharach o arwain tîm Derby County o waelodion Ail Adran y cyfnod i frig Adran Un mewn cwta bum mlynedd gan dorri rhwng cyfnodau a geir yn y ffilm.

O ganlyniad down i ddeall gwreiddiau casineb pathalegol bron Clough o'r Revie carismataidd a steil hyll o chwarae ei feibion sanctaidd fel Billy Bremner, Peter Lorimer a Terry "Taff" Yorath a etifeddodd Clough ar ei apwyntiad i Leeds ym 1974.

Down i ddeall hefyd pam nad ymunodd dirprwy dibynadwy a dylanwadol Clough, Peter Taylor (Timothy Spall), ag ef yn Leeds yn dilyn blynyddoedd lawer o lwyddiant gyda'i gilydd.

Yn ysgafnach

Y prif wahaniaeth rhwng y 'nofel ffeithiol' a'r ffilm yw bod y cynhyrchiad dipyn ysgafnach nag astudiaeth lled-seicolegol y llyfr o feddwl ac ofnau cyfrin y dyn a ddaeth yn adnabyddus fel "Old Big 'ead".

Ac er mor ddifyr a darllenadwy yw'r nofel, mae perfformiad Michael Sheen fel y dyn ei hun yn gwbl drydanol ac yn llwyddo i ennill cydymdeimlad y gwyliwr o'r cychwyn cyntaf.

Actor o bwys

Mae adegau bychain sydd yn dwyn i gôf rhai o'i gymeriadau blaenorol; ffroenau Kenneth Williams, er enghraifft, gwên-giât Blair a llais trwynol David Frost - ond, fel gyda'r ffigurau eraill, mae'r actor yn llwyddo i'n hudo gyda pherfformiad hynod ddynol o arch-gymeriad adnabyddus.

Dyma actor o bwys. Y pwysicaf, yn fy marn i, o'r genhedlaeth ifanc o actorion o Gymru sydd i gyd, yn eu ffordd eu hunain, wrthi'n creu argraff y tu hwnt i Glawdd Offa.

Hyd yma, mae Sheen wedi chwarae rhannau sydd yn ddarostyngedig i amgylchiadau neu i gymeriad arall ond yma, does na neb i ddwyn ei goron, hyd yn oed Don Revie, a chwareir yn gyfrwys a chofiadwy gan yr Americanwr Gwyddelig Colm Meaney.

Yn ogystal â pherfformiadau cryfion gan yr holl actorion cynorthwyol, gan gynnwys Jim Broadbent fel Sam Longson (Cadeirydd traddodiadol Derby County a phrif noddwr Clough nes iddo wthio'i lwc) a Timothy Spall fel y dirprwy Peter Taylor. Ac er nad yw'n edrych nac yn ymddwyn ddim byd tebyg iddo, yn ôl y puryddion, mae perfformiad hoffus Spall yn wrthbwynt defnyddiol i Sheen fel Clough ar ei waethaf.

Manion o bwys

Rhaid hefyd dalu teyrnged i'r cyfarwyddwyr celfyddydol gan iddynt gyflwyno gwledd i'r llygaid a fyddai'n cymharu â Sain Ffagan o ran manylder y cywirdeb! Mae yma fyrdd o fanylion bychain sydd yn gofnod o gyfnod ac sy'n llwyddo i gynnal gwên gynnes ar wyneb y gwyliwr gydol y ffilm - gormod o lawer i'w rhestru yma ond rhaid dweud i'r olygfa hyfryd lle gosododd Clough flwch llwch ac oren yn ddestlus ger pob tywel yn ystafell newid yr ymwelwyr cyn un gêm dyngedfennol aros yn fy nghof i'n arbennig.

Ffilm cymharol fer yw hi ac yn un sy'n symud yn gyflym diolch i olygfeydd byrion a deialog fachog ac mae'n braf gweld plethiad celfydd o archif sy'n gynnwys coda annisgwyl sy'n caniatau cameo o'r dyn ei hun ac yn cynnig diweddglo boddhaol iawn.

O ble felly y daw yr elfen o gomedi rhamantaidd a grybwyllais? Yn sicr, does braidd ddim sôn am ferched, heblaw'r golygfeydd prin hynny yn y cartre - sydd wrth gwrs yn dweud cyfrolau am flaenoriaethau Clough a'i debyg.

Llond trol o emosiwn

Wel, ag ystyried mai bloke movie go iawn yw hon ceir llond trol o emosiwn diolch i'r ymdriniaeth angerddol o'r "gêm wirion 'na" ond, yn ddifyr iawn, mae'r modd y caiff perthynas cyd-ddibynnol Clough a'i lefftenant Taylor ei chyflwyno y nesaf peth at ddatganiad o serch wedi'i sgriptio gan Richard Curtis ar ei fwya cawslyd - yn enwedig y ffordd tafod-mewn-boch y caiff y ddau eu haduno erbyn diwedd y ffilm.

Wrth lwc, roeddwn i wrth fy modd, ac rwy'n annog unrhyw un - o ddilynwyr mwya pybyr y bêl gron, i'w "gweddwon" dioddefus - fynd i weld y ffilm am noson o adloniant yng nghwmni cymeriad go iawn.


Mwy

Llyfrau

Matthew Rhys

Holi ac adolygu

Holi awduron ac adolygu'r llyfrau Cymraeg diweddaraf

Theatr

Llion Williams

Barn a gwybodaeth

Adolygiadau a straeon o fyd y theatr Gymraeg

Â鶹ԼÅÄ iD

Llywio drwy’r Â鶹ԼÅÄ

Â鶹ԼÅÄ Â© 2014 Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.