Â鶹ԼÅÄ

Endaf Emlyn

Endaf Emlyn

Athrylith o gyfansoddwr sydd â gyrfa'n ymestyn o'r 60au hyd heddiw.

Mae termau fel "seren" neu "athrylith" yn cael eu defnyddio'n aml iawn y dyddiau yma, yn rhy aml os rhywbeth. Ond mae ambell i berfformiwr neu gyfansoddwr yn wir haeddu'r clod. Mae Endaf Emlyn yn un o'r bobl yna, yn ganwr, cyfansoddwr a chyfarwyddwr ffilmiau.

Wedi'i eni yn un o feibion Pen LlÅ·n, bu Endaf yn "canu o'r crud", ond fe ddaeth i olwg y cyhoedd am y tro cynta pan yn fachgen 18 oed yn canu gyda band mewn cystadleuaeth i Glybiau Ieuenctid Môn. I can't help falling in love with you oedd y gân, a'r beirniad oedd Mered - Meredydd Evans, pennaeth adran adloniant Â鶹ԼÅÄ Cymru ar y pryd.

Pan yn yr ysgol fe fu'n aelod o Gerddorfa Cenedlaethol Ieuenctid Cymru gyda Karl Jenkins a John Cale, ac er iddo hyfforddi i fod yn athro, ar ddiwedd y 60au roedd Endaf yn wyneb adnabyddus yng Nghymru wedi iddo gael swydd fel cyhoeddwr teledu gyda HTV.

Tua'r un adeg ymunodd â M&M, cwmni cyhoeddi Tony Hatch, (a ddaeth yn enwog am gyfansoddi arwyddgan Neighbours). Yno cyfarfu â'r cerddor Mike Parker ac mae eu cyfeillgarwch wedi para hyd heddiw.

Ym 1967/8 fe gyhoeddodd ei record gyntaf, Paper Chains ar label Parlophone, yr un label â'r Beatles. Fe ddewiswyd y gân yn record yr wythnos gan Tony Blackburn ar Radio 1. Ar ail ochr y record sengl yna oedd Madryn a chafodd ei recordio yn stiwdio'r Beatles yn Abbey Road.

Cyhoeddodd Endaf ddwy record sengl arall ar label Parlophone, All My Life a Cherry Hill, a Starshine a Where were You?. Y grŵp cyntaf iddo fod yn aelod ohonno oedd Yr Eiddoch Yn Gywir, gyda'r diweddar John Boots a Hywel Gwynfryn.

Y record hir gyntaf iddo gyhoeddi yn yr iaith Gymraeg oedd Hiraeth ym 1973. Roedd yr albwm yn cynnwys wyth o ganeuon wedi eu hysgrifennu gan Endaf a Mike Parker. Roedd un gân draddodiadol, Lisa Lân, wedi ei threfnu gan Endaf, a'r brif gân Hiraeth gyda geiriau Endaf a cherddoriaeth Randy Newman.

Blwyddyn yn ddiweddarach ymddangosodd LP Salem, yr albwm gysyniadol gyntaf yn yr iaith Gymraeg, yn seiliedig ar y cymeriadau yn y darlun enwog gan Vosper. Recordiwyd Salem gan Endaf a Mike Parker ar beiriant recordio ym mharlwr Endaf. Gyda chaneuon bythgofiadwy fel Evan Edward Lloyd, Sian Owen TÅ·'n y Fawnog ac Aderyn Du, fe aeth Salem yn syth i galon y genedl.

Aeth dwy flynedd heibio cyn i'r LP nesaf ddod i'r fei. Roedd Syrffio yn gasgliad o ganeuon dipyn yn wahanol, ac yn cynnwys y bytholwyrdd Macrall wedi Ffrio. Roedd yn albwm llawn o ganeuon sŵn yr haf, a chyhoeddwyd yn ystod haf crasboeth 1976, a set o ganeuon sy'n boblogaidd dros ben hyd heddiw.

Aeth pum mlynedd heibio cyn i Endaf gyhoeddi ei albwm olaf, Dawnsionara ym 1981. Yn y cyfamser fe ysgrifennodd Endaf sioe gerdd gyda Hywel Gwynfryn, Melltith ar y Nyth. Bu'n aelod o'r supergroup Cymraeg Injaroc. Cyhoeddodd y band un albwm ym 1977 oedd yn cynnwys un arall o glasuron Endaf Emlyn, Swllt a Naw.

Yn ystod blynyddoedd olaf y 70au bu Endaf yn gweithio gyda nifer o gerddorion eraill, a chafodd ei gyflwyno i nifer o wahanol fathau o gerddoriaeth. Cynnyrch y cyfnod hwn oedd y band Jip, yn cynnwys Endaf, Myfyr Isaac, John Gwyn ac Arun Ahmun. Dylanwad y cerddorion yma, ac eraill a fu'n weithgar yn y byd roc o gwmpas Caerdydd - pobl fel Richard Dunn, Pino Paladino ac eraill - arweiniodd at yr amrywiaeth diddorol o ganeuon sydd yn y casgliad ar Dawnsionara. Pwy all anghofio Paranoia, Aros am y Dyn, a Saff yn y Fro?

Ond nid diwedd y gân oedd Dawnsionara. Yn dilyn perfformiad byw gwefreiddiol yn Sesiwn Fawr Dolgellau 2008, mae Endaf yn gobeithio cyhoeddi CD o ganeuon newydd rhywbryd yn ystod 2009. Dwi'n edrych ymlaen yn eiddgar.

Richard Rees

Newyddion

Sesiwn Fawr Dolgellau 2008

17 Mawrth 2008

Pnawn dydd Sul ar raglen Lisa Gwilym, fe gyhoeddwyd pwy fydd yn chwarae yn Sesiwn Fawr Dolgellau eleni!

Eraill

Jeni Lyn ar C2

Y newyddion cerddorol diweddaraf, gan gynnwys newyddion am raglen Ysgol Roc, albym a thaith Richard James, Gwyl Bae Cemaes a llawer mwy...


Llyfrnodi gyda:

[an error occurred while processing this directive]

C2

C2 - gigs

Rhestr gigs

Pwy sydd yn chwarae lle a pryd? Rhestr gigs C2

Â鶹ԼÅÄ Wales Music

Sian Evans

More Music by Welsh artists

Take at look at our musical profiles of all kinds of artists from across the country.

Â鶹ԼÅÄ iD

Llywio drwy’r Â鶹ԼÅÄ

Â鶹ԼÅÄ Â© 2014 Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.