Â鶹ԼÅÄ

Explore the Â鶹ԼÅÄ
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Y Celtiaid

Â鶹ԼÅÄ Â鶹ԼÅÄpage
Cymru'r Byd
Addysg
Y Celtiaid

Gemau a storiau

Ffeil ffeithiau

Ble yng Nghymru

Eich Crefftau Celtaidd

Rhieni ac athrawon

English

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Gemau a storiauFfeil FfeithiauEich Crefftau CeltaiddBle yng NghymruRhieni ac athrawonEnglish

Bryngaer Tre Ceiri

Trer Os ydych ond yn ymweld ag un safle Oes Haearn yng Nghymru, efallai mai hwnnw fyddai bryngaer ysblennydd Tre Ceiri, sy'n golygu "Tref o Gewri". Yn aml cyfeirir ato fel y fryngaer fwyaf trawiadol yng Ngogledd Cymru. Ceir rhagfuriau carreg pwysig yn amgylchynu'r gylched cyfan, ac mewn mannau mae'n dal i sefyll dros 3 metr mewn uchder.

Mae'r golygfeydd yn anhygoel. Hefyd mae'r gaer yn sefyll ar un o gopaon Eifl. Mae'r mewndir yn llawn adeiladau wedi'u gwneud o wal gerrig a gellir gweld weddillion 150 o gytiau gyda rhai o'r waliau yn dal i sefyll dros 1 metr o uchder. Mae rhai yn dai crwn, eraill yn betryal neu'n hirgrwn. Mae'r cytiau yma mewn grwpiau o bedwar neu bump cylch ar draws y gaer. Maent yn amrywio mewn maint a siâp - mae rhai o'r rhai crwn yn 8 metr ar draws, eraill yn llai na 3 metr.

Wedi'i osod ar y copa cul o'r bryn, mae'r safle yn amgylchynu tua 2.5ha gyda'r brif fynedfa wrth y pen gorllewinol isaf. Gellir dod o hyd i fynedfa arall ar yr ochr ogleddol ac mae'r ddwy fynedfa wedi'u hamddiffyn. Mae carnedd Oes Efydd ar frig y safle.

Cyfarwyddiadau

Cymerwch yr A499 i'r gogledd o Bwllheli. Yn Llanaelhaearn, cymerwch y B4417 tuag at Nefyn. Llai na milltir o'r groesffordd i'r B4417, mae llwybr ar y dde, sy'n mynd â chi fyny'r bryn am Tre Ceiri. Byddwch yn ymwybodol fod safleoedd parcio yn brin iawn. Byddwch yn ofalus i beidio â symud unrhyw gerrig ar y safle.

© y Goron: CBHC



Map © Crown copyright. All rights reserved Â鶹ԼÅÄ AL100019855 2002


About the Â鶹ԼÅÄ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý