Â鶹ԼÅÄ

Explore the Â鶹ԼÅÄ
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Y Celtiaid

Â鶹ԼÅÄ Â鶹ԼÅÄpage
Cymru'r Byd
Addysg
Y Celtiaid

Gemau a storiau

Ffeil ffeithiau

Ble yng Nghymru

Eich Crefftau Celtaidd

Rhieni ac athrawon

English

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Gemau a storiauFfeil FfeithiauEich Crefftau CeltaiddBle yng NghymruRhieni ac athrawonEnglish

Llyn Cerrig Bach

Llyn Dyma safle pwysig iawn o Oes yr Haearn. Mae Llyn Cerrig Bach wedi bod yn ffynhonnell i'r casgliad mwyaf o ddeunyddiau Oes Haearn i'w darganfod hyd yn hyn yng Nghymru.

Dargafnuwyd y casgliad anhygoel yn ystod yr Ail Ryfel Byd yn ystod adeiladu maes awyr yr RAF. Darganfu gweithwyr dros 150 o wrthrychau efydd a haearn o'r mawn a oedd wedi ffurfio mewn llyn oedd yno ers talwm.

Mae'r casgliad yn cynnwys cleddyf haearn, darnau o darian, gwaywffyn, tresi ceffylau, plac efydd, olwynion cerbyd rhyfel haearn, darnau o grochan a dwy dorfgadwyni haearn (mae nifer o'r rhain i'w gweld yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru yng Nghaerdydd heddiw). Credir i'r gwrthrychau gwerthfawr yma gael eu taflu i'r llyn fel offrwm i dduwies y llwyth.

Mae nifer bychan o esgyrn anifeiliaid a gasglwyd gan y gweithwyr yn arwydd efallai o offrymau ychwanegol. Roedd arferiad Oes yr Haearn o aberthu eitemau gwerthfawr, yn ogystal ag anifeiliaid a bodau dynol, ynghlwm â defod arwyddocaol. Roedd rhai o'r gwrthrychau metel wedi'u difrodi'n bwrpasol. Roedd y cleddyfau haearn wedi'u plygu ac o ganlyniad yn ei gwneud yn amhosibl iddynt gael eu defnyddio fyth eto.

Mae'r darganfyddiadau wedi'u dyddio rhwng yr 2il ganrif CC a 60OC sy'n awgrymu fod y llyn yn fan pwysig i gynnig offrymau i'r duwiau. Credir i'r datblygiad hwn ddigwydd yn ail hanner Oes yr Haearn.

Nid ydym yn gwybod pam i'r llyn yma gael ei ddewis fel man i aberthu ond mae archeolegwyr wedi dyfalu ei bod hi'n bosib fod rhywbeth pwysig wedi digwydd yma. A allai'r digwyddiad yma fod wedi digwydd ar drothwy ymosodiad y Rhufeiniaid ar Lyn Cerrig Bach?

Credir hefyd fod Llyn Cerrig Bach wedi bod yn brif ganolfan i weithgareddau defodol. Disgrifiodd yr hanesydd Rhufeinig, Tactius, Mona (Ynys Môn) fel canolfan pwer derwyddol, gan ddisgrifio'r llwyni derw cysegredig sydd ar yr ynys.

Mae darganfyddiadau tebyg i Lyn Cerrig Bach wedi'u gwneud ar y cyfandir ac yn dystiolaeth o batrwm o weithgaredd defodol a oedd yn gyffredin yn ystod Oes yr Haearn. Wrth ymweld â'r safle heddiw yr hyn sy'n weddill o'r llyn yw hydoedd bychain o ddwr. Mae plac ar y safle i ddynodi darganfyddiadau'r Ail Ryfel Byd.

Cyfarwyddiadau

Yn awr ar dir yr RAF. Dilynwch yr A5 i Gaergeiliog. O ochr orllewinol y pentref, trowch i'r chwith wrth y Tollborth. Ar ôl croesi'r bont reilffordd, cymerwch y chwith nesaf tuag at faes awyr yr RAF. Mae'r safle wedi'i farcio gan glogfaen fawr.

© y Goron: CBHC



Map © Crown copyright. All rights reserved Â鶹ԼÅÄ AL100019855 2002


About the Â鶹ԼÅÄ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý