Â鶹ԼÅÄ

Explore the Â鶹ԼÅÄ
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Y Celtiaid

Â鶹ԼÅÄ Â鶹ԼÅÄpage
Cymru'r Byd
Addysg
Y Celtiaid

Gemau a storiau

Ffeil ffeithiau

Ble yng Nghymru

Eich Crefftau Celtaidd

Rhieni ac athrawon

English

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Gemau a storiauFfeil FfeithiauEich Crefftau CeltaiddBle yng NghymruRhieni ac athrawonEnglish

Garn Boduan

Mae Garn Boduan yn un o gyfres o fryniau folcanig sy'n ffurfio asgwrn cefn Penllyn. Caer bentir 10ha yw Garn Boduan lle gellir gweld lle bu llinellau'r tair wal amddiffynnol. Mae'n werth mynd yno ar ymweliad oherwydd bod dros 100 o strwythurau o waliau cerrig, tai crwn ac adeiladau crwn a phetryal yn dal i'w gweld hyd heddiw. Mae gweddillion 170 o gytiau crwn i'w gweld yno fel cylchoedd carreg wedi'u dymchwel tua 5-6cm mewn diamedr.

Nid oedd angen amddiffynfeydd cymhleth yma - roedd lleoliad naturiol Garn Boduan ar fryn serth anghysbell, yn ei wneud yn safle amddiffynnol da. Mae peth tystiolaeth o ddyblygu amddiffynfeydd y gellir eu gweld i gyfeiriad y gogledd-ddwyrain.

Y rhagfur carreg isaf yw'r amddiffynfa wreiddiol, tra bod y rhagfur uchaf wedi'i adeiladu'n well ac yn fwy. Gall fod y waliau amddiffynnol mewnol wedi'u adeiladu yn y canrifoedd yn syth ar ôl goresgyniad Rhufeinig. Ai hwn oedd 'castell' Buan, sy'n cael ei ystyried yn ffigwr pwysig yn 600O.C?

Mae'r brif fynedfa yn y gornel gogledd-ddwyreiniol. Gallai'r gaer fechan neu'r gaer ddinesig fod yn hÅ·n. Yn ogystal, mae dwy ffynnon dwr croyw ar y safle, oedd yn rhoi dwr i trigolion y gaer drwy'r flwyddyn.

Cyfarwyddiadau

Mae'r mynediad i'r safle ar y ffordd B4354, tua 300 metr o'r groesffordd gyda'r A497. Fe welwch fynedfa i'r goedwig ar y chwith. Mae lle i barcio ond rhaid cymryd gofal rhag creu rhwystr i'r fynedfa. Mae llwybr yn mynd â chi o fynedfa'r goedwigaeth i'r safle. Yn yr ail fachdro ar y trac, cymerwch y llwybr uchaf yn syth ymlaen. Byddwch yn ofalus ar y tir anwastad.



Map © Crown copyright. All rights reserved Â鶹ԼÅÄ AL100019855 2002


About the Â鶹ԼÅÄ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý