Â鶹ԼÅÄ

Explore the Â鶹ԼÅÄ
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Trefi

Â鶹ԼÅÄ Â鶹ԼÅÄpage
Â鶹ԼÅÄ Cymru
Â鶹ԼÅÄ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Â鶹ԼÅÄ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Pontrhydfendigaid
Pafiliwn Bont Ffair Ceffylau Bont
Bron i hanner canrif ers iddi ddod i ben, atgyfodwyd ffair hanesyddol ym Mhontrhydfendigaid ar 29 Medi, 2007 gyda cheffylau yn mynd o dan y morthwyl unwaith eto.

Cynhaliwyd yr arwerthiant ym Mhafiliwn Bont ar 29 Medi, 2007 gyda ffair bleser a noson o reslo ac atyniadau cerddorol gyda Caryl a'r Band a Bryn Fôn fin nos.

Hanes y ffair
Roedd y ffair, a enwid yn Ffair Gŵyl y Grog, yn un o bedair a gynhelid gan fynachod Mynachlog Ystrad Fflur mor bell yn ôl â'r ddeuddegfed ganrif. Fe'i cynhaliwyd i gychwyn ar lan afon Fflur, lle safai'r fynachlog cyn iddi gael ei symud i'w safle presennol ar lan afon Teifi. Dyna pryd y symudwyd y ffair i fyny i Ffair Rhos ac yn ddiweddarach i lawr gwlad ym Mhontrhydfendigaid. Yn y ffeiriau hyn y byddai'r mynachod yn gwerthu eu cynnyrch, sef da byw a gwlân.

Erbyn diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg dim ond ffair Gŵyl y Grog o'r pedair ffair flynyddol oedd yn aros. Fe'i cynhelid ar 25 Medi. Newidiodd yn raddol o fod yn ffair anifeiliaid i fod yn ffair bleser. Daeth y ffair i ben yn llwyr ar ddechrau'r 1960au.

Adfer y ffair
Syniad dau o bobl leol oedd adfer y ffair. Mae Non Jones yn ffermwr lleol a Henry Bulman yn adeiladydd o ardal Tregaron. Trefnwyd y digwyddiad mewn cydweithrediad â Digwyddiadau MP, cwmni cysylltiadau cyhoeddus o Gaernarfon.

Cyn y diwgyddiad, roedd Non Jones yn ffyddiog y byddai'r ffair yn llwyddiannus ar ei newydd wedd. "Eisoes mae Rasys Trotian Tregaron, a gynhelir filltir o'r Bont, wedi troi'r ardal hon yn ganolfan geffylau sy'n enwog drwy Ewrop a Gogledd America," meddai. "Mae hyn yn ddatblygiad naturiol felly. Mae ffeiriau gwerthu fel hyn wedi profi i fod yn boblogaidd iawn yng Ngogledd America a gobeithiwn y bydd hwn yn ddigwyddiad blynyddol."

Disgwyliwyd pob math o geffylau, o rai gwedd i'r ceffylau Shetland, o ferlod mynydd i geffylau trotian ac, wrth gwrs, cobiau Cymreig. Yn wir, derbynnir unrhyw fath o geffyl, dim ond ei fod yn geffyl arwain. Roedd cyfleusterau i stablo'r ceffylau dros nos mewn stablau symudol a chost cofnodi yn cynnwys cost stablo. Cynhaliwyd yr arwerthiant ei hun o fewn i'r Pafiliwn, gydag arwerthwr lleol, D A G Jones o Dregaron.

  • Adolygiad o gig Bryn Fôn ym Mhafiliwn Bont yr un noson


  • Trefi
    Radio Cymru
    Bws Â鶹ԼÅÄ Cymru
    Lluniau


    About the Â鶹ԼÅÄ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý