Â鶹ԼÅÄ

Explore the Â鶹ԼÅÄ
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Trefi

Â鶹ԼÅÄ Â鶹ԼÅÄpage
Â鶹ԼÅÄ Cymru
Â鶹ԼÅÄ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Â鶹ԼÅÄ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Llanbedr Pont Steffan
Ysgol Gyfun Llambed Eisteddfod Ysgol
Chwefror 2007
Siwan Davies, o flwyddyn 12 a Chapten llys Creuddyn yn Ysgol Gyfun Llambed yn sôn am y paratoi, y straen, y panic, yr hwyl a'r chwerthin wrth baratoi at Eisteddfod flynyddol yr ysgol.
Eisteddfod ysgol! Ymarferion di-ri yn torri ar draws y gwasanaeth boreol, amser brêc ac amser cinio, dysgu geiriau, mo'yn neud hyn, dim mo'yn neud llall. Ond pan chi'n cyrraedd blwyddyn 12, mae'r cyfrifoldeb yn nwylo'r capteiniaid. Ac roeddwn i yn un ohonynt!

Does neb llawer yn gweld yr holl waith y mae'r capteiniaid yn rhoi mewn i sicrhau eisteddfod lwyddiannus. Roedd fy myd bach i a'm ffrindiau yn troi o amgylch ymarfer eisteddfod, gwersi, cael cinio, a mynd adref i wneud pentwr o gystadlaethau gwaith cartre'. Rhaid sortio pob dim allan a rhoi cic lan ambell ben-ôl pan mae hi'n ddydd Gwener, y prelims yn dechrau fore Llun a'r Eisteddfod go iawn yn dechrau p'nawn ddydd Mawrth!

Mae'r lefelau o stress yn dechrau codi pan nad yw'r bois yn gwybod llinell y baswyr yn y côr, a hyd yn oed yn waeth pan maent wedi dod yn gyfarwydd â'r nodau wnaethom ni eu dysgu, fod rhywun arall yn eu newid! Druan â'r bois! Fel wedodd un bachgen, "bob tro fi'n dod 'ma, ma'r gân yn wahanol!"

Rhaid aros ar ôl yr ysgol tan fod y gofalwr yn cloi lan a dod mewn bore Sadwrn i ddod â'r grŵp pop, y meimio a'r cyflwyniad llafar ynghyd. Www ie, a gorffen ysgrifennu'r sgets!! Hwyr, ond sdim ots! "Everything will be alright on the day" fel wedodd y capten! Mynd adre wedi blino'n shwps i ddysgu llinellau!!

Eisteddfod = dewis darnau, dewis cân grŵp pop a meimio, mynd i sgïo am wythnos, ysgrifennu cyflwyniad llafar a sgets, mynychu pob ymarfer, tempar yn codi, neb yn gwybod can y côr wythnos cyn yr eisteddfod, gweiddi, colli llais, cael y ffliw. Dyna fel yr oedd yr eisteddfod yn teimlo wythnos cyn y diwrnod mawr.

Eisteddfod = hwyl a sbri, clapio nes i'm dwylo rhoi dolur, gweiddi nes i mi golli llais (eto!), chwerthin, ennill (a cholli), gweld ffrindiau yn ennill, mwynhau mas draw, ennill y meimo, dod yn ail yn y gadair, rhedeg ambiti fel headless chicken a chael hwyl mas draw!

Ie, dyna fel yr oedd yr eisteddfod yn teimlo ar y diwrnod mawr.

Mynd i'r Indian noswaith yr Eisteddfod. Cael mwynhau yng nghwmni cyd-gapteiniaid a'r helpwyr, heb orfod meddwl am ddim un ymarfer arall, dim ond cael straeon sgets Teifi a meimio Creuddyn! Roedd pawb wedi blino, ac yn hanner gweddïo am eira'r diwrnod wedyn, i bawb gael lie-in haeddiannol!

A dyna ddigwyddodd - fe ddaeth blanced o'r stwff gwyn, ac roedd yr ysgol ar gau. Golyga hyn nad o'dd cyngerdd Pigion yr Å´yl yn bosib - a finne wedi edrych ymlaen at berfformio'r meim unwaith yn rhagor!

Profiad wna i fyth anghofio oedd Eisteddfod 2007. Daeth Creuddyn yn ail am y tro cyntaf ers blynyddoedd! Roedd pawb wedi plesio! Edrych ymlaen at steddfod 2008 yn barod, gydag arweinwyr newydd wrth y llyw!!

Gan: Siwan Davies

Cyhoeddwyd yr erthygl hon fel rhan o gynllun cyfrannu ar y cyd rhwng Â鶹ԼÅÄ Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Daeth y cynllun hwn i ben ar 31 Ionawr 2008.


Cyfrannwch

Anna, Llangrannog
Os dw'in cofio'n iawn ma' Creuddyn wedi ennill yn y 6 mlynedd diwethaf felly, nage sori, dim y tro cyntaf!!!!!!

Lowri Davies, Llanybydder
Aaaaa! Sian vn lyvor erthygl! "Everything will be alright on the day" - ife v wedodd hwnna? lol man swno fel ni! a onin iawn ath popeth n brill ar y diwrnod, diolch i help y capteiniaid eraill a'r bobl nath helpu!! Eisteddfod i'w gofio! Creuddyn yn dod yn ail! y tro cyntaf mewn 6 mlynedd!!! iee!!


Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Peidiwch â datgelu eich cyfenw os ydych o dan 16 oed.
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanymddyfri):

Sylw:




Mae'r Â鶹ԼÅÄ yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.



Trefi
Radio Cymru
Papurau Bro
Bws Â鶹ԼÅÄ Cymru


About the Â鶹ԼÅÄ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý