Â鶹ԼÅÄ

Explore the Â鶹ԼÅÄ
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Bywyd Bro

Â鶹ԼÅÄ Â鶹ԼÅÄpage
Â鶹ԼÅÄ Cymru
Â鶹ԼÅÄ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Â鶹ԼÅÄ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Nerys a Don Treialon Cŵn Defaid
Hanes Nerys Davies a'i chi Don, a gystadlodd yn Nhreialon Cŵn Defaid Llanllwni eleni.

Wrth edrych ar draws caeau gwyrddion Abernant, Llanllwni ar ŵyl banc hynod o braf, fe ddaeth pwl o nerfusrwydd drostaf wrth feddwl am y dasg oedd o'm blaen. Y dasg hon oedd cymryd rhan efo'm ci, Don, mewn digwyddiad blynyddol ac un o uchafwbyntiau calendar y clwb ffermwyr ifanc lleol, sef treialon cŵn defaid Llanllwni. Fe gafodd y treialon ei ail sefydlu gan y clwb yn yr wythdegau ac ers hyn wedi mynd o nerth i nerth. Rhaid cyfaddef fy mod erioed wedi bod mewn treialon cŵn o'r blaen ac yn sicr ddim wedi cymryd rhan.

Dw i wedi bod yn hoff o gŵn defaid ers yn blentyn ac fel merch fferm wedi cael cyfle i drin a thrafod cŵn efo gorchmynion sylfaenol. Ond rhaid cyfaddef taw un peth yw trafod ci ar eich fferm adref lle mae'r ci yn adnabod ei amgylchedd a'i ffordd o amgylch, ond, peth cwbl wahanol yw trafod ci mewn treialon cŵn defaid o flaen torf o bobl, defaid a thirwedd gwahanol, ac ar ben hyn cadw'r defaid o dan reolaeth ac yn symud yn y ffordd gywir o amgylch rhwystrau fel y 'maltese cross'.

Fe gefais Don, y ci defaid tri lliw, er mwyn gweithio ar y fferm adref. A rhaid dweud mae e'n gi sydd yn gwrando ar y gorchmynion yn astud. Ci tawel a swil yw, ond pan welith e ddefaid gallaf ddim ond ei gymharu ef â llewpart yn gwylio'i bryd nesaf a'i lygaid ddim yn symud oddi ar y defaid.

Fe floeddiodd yr uchelseinydd fy enw ac wrth gerdded tuag at glwyd y cwrs trwy'r dorf fe glywais ambell 'lwc dda' yn cael ei alw oddi wrth rhai trigolion lleol. Roedd dros 90 o bobl wedi cymryd rhan yn ystod y dydd, rhai yn gwneud yn dda a rhai eraill ddim yn gwneud cystled. Ond nawr, wrth gamu i'r cae fe wnaeth popeth oedd yn rasio o amgylch fy mhen yng nghynt ddiflannu, a fy meddwl i a'r ci ar y dasg o gael y defaid oedd ymhell o'm blaen trwy'r cwrs.

Fe ddiflannodd yr wyth munud i rywle rhwng chwibanu a gwaeddi 'come by' ac 'away' a'r defaid yn symud fel un ar draws y cae. Un yn trio'i lwc ar adegau ac yn mynd a'i phen yn yr aer ond Don yn ddigon o lanc i ddod â hi nol ar y trywydd iawn. Corn y 'landrover' yn twtian a'r amser wedi dod i ben.

Profiad arbennig o dda oedd cael rhedeg Don yn y treialon, ond sioc go iawn oedd cael dod adref efo'r chweched safle!

Edrychaf ymlaen yn frwdfrydig am ddechreuad i dymor newydd o dreialon cŵn defaid ym mis Ebrill y flwyddyn nesaf a chyfle arall i fi am ffrind cynffon hir i roi cynnig arall arni!

Gan: Nerys Davies

Cyhoeddwyd yr erthygl hon fel rhan o gynllun cyfrannu ar y cyd rhwng Â鶹ԼÅÄ Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Daeth y cynllun hwn i ben ar 31 Ionawr 2008.


Cyfrannwch

David Morgan o Aberteifi
Diddorol iawn oedd darllen am brofiad cymryd rhan mewn cystadleuaeth yn hytrach na bod yn wyliwr!

Catrin Jones o Llandysul
Da iawn ti Nerys a Don. Roedd yn bleser clywed dy fod wedi dod yn chweched allan o 90. Blwyddyn nesaf byddi di siwr o ennill.


Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Peidiwch â datgelu eich cyfenw os ydych o dan 16 oed.
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanymddyfri):

Sylw:




Mae'r Â鶹ԼÅÄ yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹ԼÅÄ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹ԼÅÄ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý