Â鶹ԼÅÄ

Explore the Â鶹ԼÅÄ
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Bywyd Bro

Â鶹ԼÅÄ Â鶹ԼÅÄpage
Â鶹ԼÅÄ Cymru
Â鶹ԼÅÄ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Â鶹ԼÅÄ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Dwy o'r cymeriadau Dyrchafu Diwylliant y Cymdogaethau Cymraeg
Mae Clod y Cledd yn wahanol i Miss Saigon neu Phantom of the Opera. Nid yn unig am ei bod hi yn y Gymraeg, ond hefyd am ei bod hi'n Gymreig.

Gyda Eisteddfod yr Urdd a'r Genedlaethol yn dyrchafu caneuon y West End, mae Theatr Gydweithredol Troed-y-rhiw wedi troi at waith sydd nid yn unig wedi'i gyfansoddi yng Nghymru ond sydd hefyd wedi'i wreiddio yn y profiad Cymreig.

Medd Gareth Ioan, awdur Clod y Cledd: "Mae digon o sioeau o Lundain ac Efrog Newydd wedi'u trosi i'r Gymraeg ar hyd y blynyddoedd. Ond yr hyn sy'n bwysig i barhad a thŵf ein diwylliant yw mynegiant o'r profiad Cymreig - ein golwg ni ar y byd, yn hytrach na chyfieithiad o brofiad pobol eraill.

"Yng Nghlod y Cledd, nid y geiriau yn unig sydd yn y Gymraeg ond yr holl synthesis o ddrama a cherddoriaeth Gymreig - y pethe hynny sy'n mynegi'n ffordd arbennig o fyw."

ActorionComisiynwyd Clod y Cledd gan CIC! (Cwmni Ieuenctid Ceredigion), a pherfformiwyd hi gyntaf ym 1989. Gan ddefnyddio caneuon newydd gan Gerallt Lewis a Richard Jones ochr-yn-ochr ag emynau traddodiadol, grymus, mae'r sioe yn adrodd stori Gwilym, crwt di-dad sy'n ymateb yn frwdfrydig i'r cyfle y mae'r Ail Ryfel Byd yn ei gynnig iddo 'ehangu ei orwelion' a 'dianc' oddi wrth gefn gwlad Ceredigion.

Mae e'n troi clust byddar tuag at apêl daer ei fam er iddo sefyll gatre - nes i'r gwir y tu cefn i'w phryderon ddod i'r amlwg mewn modd poenus a dirdynnol.

Asgwrn cefn y sioe yw cyfraniad Côr Cardi-gân - côr pobol ifainc sydd â'i gartref yn Theatr Felin-fach ac sy'n canolbwyntio ar ddiddori cynulleidfaoedd ar hyd a lled cymdogaethau'r gorllewin.

Y côr dan arweiniad Rhian DafyddMedd Rhian Dafydd, arweinydd y côr a Chyfarwyddwr Cerdd y sioe: "Mi o'n i'n rhan o'r cwmni a berfformiodd Clod y Cledd y tro cyntaf, ymron i 20 mlynedd yn ôl. Mae llawer oedd yn rhannu llwyfan â mi'r bryd hynny yn enwau cyfarwydd ledled Cymru bellach; pobol fel Ryland Teifi, Ioan Evans, Eleri a Meilyr Siôn a Lowri Steffan.

"Ond rhan o wefr y cynhyrchiad hwn i mi yw mai eraill o blith y cyn-aelodau yw'r tîm cynhyrchu bellach, gan gynnwys Dwynwen Lloyd Evans (y Cyfarwyddwr gwâdd) a'r gantores Caryl Glyn. Mae'r naill ffaith a'r llall yn arwyddocaol o bwysigrwydd y ddrama Gymraeg i barhad a datblygiad ein diwylliant cynhenid."

CLOD Y CLEDD - THEATR GYDWEITHREDOL TROED-Y-RHIW, MEWN CYDWEITHREDIAD Â THEATR FELIN-FACH A CHÔR CARDI-GÂN
LLWYFAN THEATR FELIN-FACH,
NOS IAU A NOS WENER, MAWRTH 30/31, 2006.

  • Cliciwch yma i ddarllen adolygiad o Clod y Cledd

  • Cyfrannwch
    Cyfrannwch i'r dudalen hon!

    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanymddyfri):

    Sylw:




    Mae'r Â鶹ԼÅÄ yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


    0
    C2 0
    Pobol y Cwm 0
    Learn Welsh 0
    Â鶹ԼÅÄ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


    About the Â鶹ԼÅÄ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý