Â鶹ԼÅÄ

Doctor William Price

William Price

Derwydd, gwrthryfelwr, noethlymunwr a chorfflosgwr.

Derwydd, gwrthryfelwr, noethlymunwr a chorfflosgwr

Cyn bod sôn am yr un hipi'n credu mewn cariad dilyffethair, yn addoli'r haul ac yn prancio'n noethlymun ymhlith y blodau, roedd dyn hynod o Lantrisant yn tarfu ar drigolion parchus ei fro trwy fyw bywyd a allai berthyn i Los Angeles dros ganrif yn ddiweddarach.

Roedd y Doctor William Price yn hipi o flaen ei amser.

Dyma ddyn a geisiodd newid ein ffordd o fyw, ond dyma hefyd un a geisiodd newid ein ffordd o farw, neu o leiaf ein ffordd o waredu â chyrff marw.

Ganwyd William Price yn Rhydri ger Caerffili yn 1800. Hyfforddwyd ef fel meddyg yng Nghaerffili ac yna yn Llundain cyn iddo ddychwelyd i dde Cymru i wasanaethu'r cymunedau glofaol.

Roedd ganddo syniadau pendant am batrwm byw. Roedd yn casáu'r arfer o smygu, i'r graddau y gwrthodai drin unrhyw un oedd yn sugno mwg sigarét, sigâr neu getyn.

Byddai'n paratoi ei foddion ei hun ar gyfer gwahanol anhwylderau ac, er mwyn prysuro a hybu'r feddyginiaeth, arferai lafarganu ymadroddion derwyddol uwchben y claf.

Oedd, roedd William Price yn Archdderwydd yn ogystal â bod yn ddoctor. Pwy a'i hurddodd yn Archdderwydd? Neb llai nag ef ei hun, ac i William Price cwacs diwerth oedd meddygon eraill ei gyfnod.

Yn ogystal ag ymddwyn yn anghyffredin, gwisgai'n wahanol hefyd. Neu'n hytrach, dadwisgai. Gwisgai het o groen llwynog ar ei ben bob amser, ond o ddyddiau ei ieuenctid cynnar arferai grwydro'n noeth ar fynydd Llantrisant.

Cefnogi'r tlodion

Serch hynny, roedd ochr ddifrifol i'r Doctor Price hefyd. Credai'n gryf yn achos y dyn cyffredin a choleddai syniadau'r Siartwyr. Yn dilyn trafferthion Merthyr Tudful yn 1831, lledodd yr adwaith yn erbyn cyfyngiadau Deddf Diwygio 1832 a'r modd y câi Deddf Newydd y Tlodion 1834 ei gweithredu trwy weddill de Cymru.

Lledaenwyd yr alwad i godi yn erbyn yr awdurdodau gan Hugh Williams, cyfreithiwr o Gaerfyrddin, ac ym mis Ebrill 1839 bu terfysg yn Llanidloes fel ymateb i'r dirwasgiad yn y diwydiant gwlân. Bu'n rhaid danfon milwyr yno i dawelu'r ffrwgwd.

Yna trefnwyd gwrthdystiad enfawr yng Nghasnewydd ar 3 a 4 Tachwedd. Yn anffodus i'r Siartwyr, sef yr enw a roddwyd ar y protestwyr, tarfodd storm ar y trefniadau, a bu hynny'n gymorth i'r awdurdodau.

Saethwyd deg o ddynion yn farw o flaen Gwesty'r Westgate yng nghanol y dref. O ganlyniad i'r terfysg alltudiwyd tri o arweinwyr y brotest, sef John Frost, Zephaniah Williams a William Jones. Mae'n rhaid bod William Price ymhlith yr arweinwyr yn rhywle gan iddo orfod ffoi i Baris am gyfnod, ond ni newidiodd hynny ei agwedd tuag at berchenogion y gweithfeydd glo.

Ei agwedd at ferched

Ac yntau yn ei wythdegau, cyfarfu â merch ifanc, Gwenllian Llewelyn. Ni wnaeth y ddau briodi gan y credai Price fod priodas yn caethiwo menywod, ac er gwaetha'i henaint ganwyd iddynt blentyn pan oedd Price yn 83 mlwydd oed.

Bedyddiwyd eu mab yn Iesu Grist, a chredir iddo enwi'r plentyn felly er mwyn cythruddo Cristnogion parchus yr ardal. Fel petai hynny ddim yn ddigon, pan fu farw'r plentyn yn ei fabandod, penderfynodd Price ei gorfflosgi.

Ar 18 Ionawr 1884, ar ôl cyhoeddi ei fwriad i'r byd a'r betws, gosododd gorff ei fab pum mis oed ar goelcerth o lo ar fryn uwchlaw Llantrisant. Daeth torf ynghyd i wylio'r seremoni tra safai Price gerllaw'r goelcerth yn llafarganu'n dderwyddol. Ond tarfwyd ar y seremoni, tynnwyd y corff o'r tân ac arestiwyd Price a'i gyhuddo o waredu corff yn anghyfreithlon.

Ym Mrawdlys Caerdydd, ymladdodd Price yr achos yn ei erbyn a phenderfynodd y Barnwr nad oedd y doctor wedi gweithredu'n anghyfreithlon wedi'r cyfan. Mae'n debyg na allai'r weithred fod yn anghyfreithlon o fewn cyfraith Lloegr a Chymru, a hynny gan nad oedd yn waharddedig. Gosododd hyn seiliau Deddf Corfflosgiad 1902.

Nid y cyntaf i gorfflosgi

Dadl Price dros gorfflosgi oedd bod claddu cyrff yn halogi'r ddaear. Roedd hyn yn rhan o'i gredo fel Archdderwydd, ac roedd ganddo gynsail i'w gred gan fod corfflosgi'n arferiad a âi'n ôl mor bell ag Oes y Cerrig.

Yn wir, roedd Cymdeithas Gorfflosgi Lloegr wedi ei sefydlu yn 1874 a'r amlosgfeydd cyntaf yn Ewrop wedi eu hadeiladu yn 1878 yn Woking ac yn Gotha yn yr Almaen. Golyga hyn nad Price oedd y cyntaf i weithredu corfflosgiad ym Mhrydain, fel y dywed rhai haneswyr.

Bu William Price fyw nes yr oedd yn 93 mlwydd oed, a ganwyd ail fab iddo ef a Gwenllian cyn ei farwolaeth. Wrth gwrs, llosgwyd corff William Price, yn yr union fan lle llosgwyd corff ei fab flynyddoedd cyn hynny. Dywedir i gymaint ag ugain mil o bobl ddod i wylio'r olygfa ac adroddwyd yr hanes yn y Times y diwrnod canlynol.

Adroddiad y wasg

Ceir pamffled yn cyhoeddi baled amdano ac yn disgrifio'i gorfflosgiad o dan y pennawd 'Golygfa Ryfedd': 'Wedi hir oes o 93 mlynedd, bu farw yr enwog Archdderwydd Doctor William Price, Llantrisant ar Nos Lun, Ionawr 23, 1893.

"Efe oedd un o'r cymeriadau mwyaf adnabyddus yng Nghymru, a bu yn hysbys iawn o'i febyd. Bu yn un o'r Chartists mwyaf selog, a gorfu iddo ffoi i Ffrainc oherwydd hynny rhag iddo gael ei ddal gan yr awdurdodau.

"Daeth i gryn enwogrwydd drwy losgi corff ei blentyn yn y flwyddyn 1884.

"Un o ddymuniadau pwysicaf y Doctor cyn iddo farw oedd am i'w gorff gael ei losgi yn yr un modd, yn hytrach na chael ei gladdu yn ôl yr arferiad cyffredin.

"Yn unol â hynny, paratowyd goelcerth fawr o lo a choed ar gae o'r enw Caerlan, ger Llantrisant, ac yn gynnar fore dydd Mawrth, Ionawr 31ain, cariwyd allan y seremoni.

"Darllenwyd y gwasanaeth angladdol gan gurad y lle, a rhoddwyd y corff, mewn arch haearn, ar ben y goelcerth. Gosodwyd tân ynddo gan ei was Daniel Richards, a hen gyfaill o'r enw Anderson, o Gaerfyrddin.

"Mewn byr amser yr oedd y pentwr yn un fflam, a chadwyd y tân i fyny hyd tri o'r gloch y prynhawn.

"Erbyn hynny gwelwyd fod y corff wedi ei losgi yn ulw mân. Ymgasglodd torf fawr i weled yr olygfa, a bu nifer o heddgeidwaid yn bresennol i gadw heddwch a threfn."

Lyn Ebenezer


Llyfrnodi gyda:

Cylchgrawn

Archif o holiaduron awduron, straeon ac adolygiadau llyfrau.

Cerddoriaeth

Cerddoriaeth

Artistiaid

A-Z o gerddorion ar wefan Â鶹ԼÅÄ Cymru.

Hanes y bêl hirgron o'i gwreiddiau hyd at y Gamp Lawn

Hanes

Croes Geltaidd

Crefydd y Cymry

Sut aeth Cymru o fod yn wlad y Derwyddon i wlad y Diwygiad?

Â鶹ԼÅÄ iD

Llywio drwy’r Â鶹ԼÅÄ

Â鶹ԼÅÄ Â© 2014 Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.