Â鶹ԼÅÄ

Tony ac Aloma

Tony ac Aloma

Un o ddeuawdau canu ysgafn mwyaf poblogaidd Cymru.

Mae'n debyg mai Tony ac Aloma yw un o'r deuawdau mwyaf poblogaidd ym myd adloniant ysgafn Cymru erioed, ond roedd eu perthynas oddi ar y llwyfan yn rhan annatod o'r gerddoriaeth ei hun.

Dillad a Delwedd

Mae Aloma'n cael ei chofio gan rai am ei bŵts gwyn cymaint ag y mae am ganu am y Tri Mochyn Bach! Daeth ei delwedd lwyfan yn rhan bwysig o'i pherfformiad, yn enwedig pan ddechreuodd weithio dramor ar longau criws pan oedd ei ffrogiau hir a glitsi mor bwysig â'r canu.

"Roedd gennym ni reolwr a fyddai pob amser yn dweud, 'You're only as good as you look', a pha mor bwysig oedd 'first impressions'. Pan es i ganu i Loegr doeddwn i'n neb, wedyn roedd yr argraff yn bwysicach," meddai ar raglen y Cwpwrdd Dillad ar S4C.

Daeth â'r sbarcl a'r secwins yn ôl i Gymru pan ddaeth hi a Tony nôl at ei gilydd i ganu ym 1984 pan roedd rhaid perswadio Tony i wisgo'n fwy trwsiadus a, chyda dyfodiad S4C, daeth cyfle i genhedlaeth newydd fwynhau hud a lledrith eu canu.

    Oedden nhw'n gariadon go iawn, ynteu sioe ar gyfer y gynulleidfa oedd y cyfan?

    Does dim amheuaeth bod y chwilfrydedd am eu perthynas wedi cyfrannu at boblogrwydd mawr y ddau Fonwysyn ers diwedd y 1960au, yn ogystal â sensitifrwydd syml y caneuon. Prin bod arlliw o densiwn gwleidyddol a diwylliannol yr oes wedi treiddio i'r gerddoriaeth, ond ni fennodd hynny ddim ar eu hapêl.

    Cyfarfu'r ddau mewn siop sglodion yn Llannerchymedd, Ynys Môn. Hogan ysgol oedd Aloma a Tony yntau yn gweithio ar ffermydd ar hyd a lled y wlad. Tarodd y ddau sgwrs â'i gilydd, dychwelodd Tony draw i'w thŷ am baned, cododd y gitâr, dechreuodd Aloma ganu ... ac mae'r gweddill yn hanes. Dyna un fersiwn o'r chwedl, p'run bynnag, ond roedd digon o fersiynau eraill. Roedd y myth sentimental, wrth gwrs, yn rhan ô'r apêl. Doedd fawr o dro nes eu bod yn perfformio ar lwyfannau cyngherddau a nosweithiau llawen o Fôn i Fynwy, a chymaint oedd y galw amdanynt gan drefnwyr a chynhyrchwyr teledu nes trodd y ddau yn ddeuawd broffesiynol.

    Roedd y ddelwedd o'r ferch benfelen swynol a Tony yn barhaol glaf o'i chariad wedi taro tant yn nychymyg miloedd o'u cynulleidfa, ac roedd yn amlwg bod breuder a'r dirgelwch am eu perthynas yn elfennau y gallai llawer uniaethu â hwy.

    Rhyddhawyd casgliad o'u caneuon mwyaf poblogaidd gan Sain o'r enw Goreuon ac yn eu mysg mae Tri Mochyn Bach, Caffi Gaerwen a Wedi colli Rhywbeth Sy'n Annwyl.

    Bellach, mae Aloma yn rhedeg Gwesty'r Gresham yn Blackpool gyda'i gŵr, Roy, ond mae Tony hefyd yn byw yn y gwesty fel preswylydd parhaol. Mae'r gwesty yn gyrchfan poblogaidd i ymwelwyr o'r Gogledd, a bydd y ddau yn perfformio yn aml i'r rhai sydd wedi teithio i'w gweld.

    Efallai dylid gadael y gair olaf am natur perthynas y ddeuawd ryfeddol yma i un o'r rhai a gyfrannodd at lywio eu gyrfa, Idris Williams:

    "Roedd o'n gariad unigryw, doedd o ddim yn gariad brawd a chwaer, doedd o ddim yn gariad mab a merch...ac mae o'n dal i fod".

    Shon Williams


    Llyfrnodi gyda:

    Cylchgrawn

    Archif o holiaduron awduron, straeon ac adolygiadau llyfrau.

    Cerddoriaeth

    Cerddoriaeth

    Artistiaid

    A-Z o gerddorion ar wefan Â鶹ԼÅÄ Cymru.

    Hanes y bêl hirgron o'i gwreiddiau hyd at y Gamp Lawn

    Hanes

    Croes Geltaidd

    Crefydd y Cymry

    Sut aeth Cymru o fod yn wlad y Derwyddon i wlad y Diwygiad?

    Â鶹ԼÅÄ iD

    Llywio drwy’r Â鶹ԼÅÄ

    Â鶹ԼÅÄ Â© 2014 Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

    Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.