Â鶹ԼÅÄ

Tom Pryce

Tom Pryce

Rasiwr ceir a laddwyd mewn Grand Prix Fformiwla Un yn 1977.

Fe ruodd y gyrrwr tawel, diymhongar ond athrylithgar yma i mewn i fyd Fformiwla Un yn 1974 ond cyn cyrraedd uchelfannau Pencampwriaethau'r Byd, daeth ei fywyd i ben yn gynnar mewn damwain tra'n rasio yn 1977.

Ganwyd Thomas Maldwyn Pryce yn Rhuthin a bu farw ar drac Kyalami, De Affrica ar 5 Mawrth 1977.

Yn ei 27 mlynedd rhoddodd Gymru ar fap y byd rasio ceir rhyngwladol ac mae nifer yn grediniol y byddai wedi dod yn Bencampwr Fformiwla Un y Byd.

Dri deg mlynedd wedi ei farwolaeth, mae'n dal i gael ei gofio fel un o hoff feibion Rhuthun ac mae cynlluniau ar droed i greu cofeb iddo yn y dref, fel yr adroddodd Newyddion Ar-lein y Â鶹ԼÅÄ.

Gyda cheir hynod bwerus, diffygion diogelwch ac agwedd ddi-hid at gadw'r dorf a'r swyddogion draw oddi wrth y trac, roedd rasio ceir cyflym yn chwaraeon peryglus iawn yn y 1970au.

Damwain

Lladdwyd Pryce yn un o ddamweiniau mwyaf bisâr y gamp. Tra'n rasio ar hyd y trac yn Kyalami, methodd â llywio heibio i swyddog ifanc oedd yn rhedeg dros y trac i ddiffodd tân ar gar cyd aelod i Pryce yn nhîm Shadow, Renzo Zorzi.

Lladdwyd y swyddog 19 oed, Jansen van Vuuren, yn syth. Trawyd Pryce ar ei ben gan y diffoddwr tân trwm roedd van Vuuren yn ei gario, ac fe'i lladdwyd yntau yn y fan a'r lle hefyd.

Parhaodd ei gar i lithro ar hyd y trac at y gornel nesaf, gan daro Ligier Jacques Laffites allan o'r ras cyn dod i stop.

Bu'r ddamwain yn gysgod anffodus dros yrfa fer Tom Pryce, ond roedd wedi llwyddo i ennill enw da yn y byd Fformiwla 1 a denu sylw timau mwya'r byd ar y pryd.

Cofio

Roedd ffrind bore oes iddo, Cledwyn Ashford, yn ei gwmni pan gafodd un o'i fuddugoliaethau enwoca yn 1975.

Mewn cyfweliad gyda Newyddion Ar-lein, dywedodd: "Y peth gora weles i oedd fo'n ennill Ras y Pencampwyr yn Brands Hatch.

"Roeddwn i yno, yn y pit efo'i dad. Diwrnod bendigedig. Daeth o allan o'r car fel tasa fo'n unrhyw ddiwrnod arall, doedd na ddim ffws efo fo.

"Pan wnaeth o ennill y ras roedd o wir yn bencampwr. Petai wedi cael byw fe fyddai'n bencampwr byd. Does dim dwywaith" meddai am Pryce - yr unig Gymro i ennill Grand Prix Fformiwla Un.

"Yn ei gyfnod o'r dechrau roedd yn cael ei gyfri fel un o'r goreuon yn y maes," meddai Dewi Rogers sy'n ysgrifennu cyfrol amdano.

"O fewn tair blynedd a hanner mi aeth o o'i ras gyntaf i rasio Fformiwla 1. Ar y pryd hwn oedd y cyfnod cyflyma."

Mab i blismon oedd Pryce ac roedd yn 21 oed cyn iddo ddechrau o ddifri ar rasio ceir ond, wedi dechrau gyda Formula Ford yn 1970, cododd drwy'r rhengoedd yn gyflym iawn, gan ymuno gyda Shadow F1 yn 1974.


Llyfrnodi gyda:

Cylchgrawn

Archif o holiaduron awduron, straeon ac adolygiadau llyfrau.

Cerddoriaeth

Cerddoriaeth

Artistiaid

A-Z o gerddorion ar wefan Â鶹ԼÅÄ Cymru.

Hanes y bêl hirgron o'i gwreiddiau hyd at y Gamp Lawn

Hanes

Croes Geltaidd

Crefydd y Cymry

Sut aeth Cymru o fod yn wlad y Derwyddon i wlad y Diwygiad?

Â鶹ԼÅÄ iD

Llywio drwy’r Â鶹ԼÅÄ

Â鶹ԼÅÄ Â© 2014 Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.