Yn ei ddydd, roedd Neville Southall yn un o gôl-geidwaid gorau'r gêm ac yn un o hoelion wyth timau Everton a Chymru am dros ddeng mlynedd cyn dod yn rheolwr.
Ganwyd Southall ar 16 Medi 1958 a fe'i magwyd yn Llandudno. Chwaraeodd gyntaf yng nghanol y cae i dîm yr ysgol ac i'r Llandudno Swifts efo Joey Jones. Cafodd ei addysg yn Ysgol John Bright.
Yn ei arddegau, aeth ar brawf ddwy waith i Crewe Alexander a Bolton, ond bu'n aflwyddiannus y ddau dro, felly aeth i weithio fel adeiladwr a chwarae i dimau Conwy, Dinas Bangor a Winsford cyn cael ei brynu gan Bury am £6,000. Ond un diwrnod fe gafodd ei weld yn chwarae gan Howard Kendall, un o reolwyr mwyaf llwyddiannus Everton, ac fe gynigiodd £150,000 amdano yn 1981. Dipyn o dro ar fyd i un oedd yn gweithio ar safle adeiladu ychydig ynghynt!
Digon simsan fu ei yrfa i ddechrau ac aeth ar fenthyg i Port Vale am ychydig o fisoedd, cyn hawlio crys rhif un Everton iddo fo'i hun a neb arall. Enillodd y gleision bencampwriaeth y Gynghrair yn 1985 a 1987, Cwpan yr FA yn 1984 a 1995 a chwpan Enillwyr Cwpan Ewrop yn 1985. Yn y flwyddyn honno hefyd, dewiswyd Southall yn chwaraewr y flwyddyn gan y Football Writers Association a chanmolwyd yn arbennig ei allu i symud yn reddfol a'i bresenoldeb eofn yn y gôl.
Pan chwaraeodd ei gêm olaf i Everton yn Nhachwedd 1997, roedd wedi torri record y clwb drwy chwarae mewn 750 o gemau a record Cymru ar ôl chwarae 93 o weithiau dros ei wlad yn ystod wythdegau a nawdegau'r ganrif diwethaf.
Ers hynny mae Southall wedi chwarae i Southend, Torquay United, Bradford ac Amwythig fel hyfforddwr a gôl-geidwad pan fo angen. Bu Southall yn hyfforddi tîm dan 19 Cymru am gyfnod.
Hanes y bêl hirgron o'i gwreiddiau hyd at y Gamp Lawn