Â鶹ԼÅÄ

Myfanwy Talog

Myfanwy Talog

Roedd Myfanwy Talog Williams yn un o actoresau mwyaf poblogaidd ei hoes ac yn gyfarwydd i genhedlaeth newydd o blant fel llais y gyfres gartŵn, Wil Cwac Cwac.

I Myf, gan John Ogwen
Heddiw yw un o'r dyddiau - er y gwae
I roi gwên mewn geiriau
I gân. Mae drwy'r cof yn gwau
Lawenydd rhyw hen luniau.

A dylem rodio'n dalog - nid yn drist
Ond yn driw, doreithiog:
Y gân fel hen gân y gog
A hithau'n haf cyfoethog.

Cawn nerth wrth ei chofio'n chwerthin - yn floedd,
Myf lond ei chynefin,
Y sgrech fyddai'n llenwi'r sgrîn
Yn ffrydiau anghyffredin.
Brenhines y cymdeithasu - mor rhwydd
Mor hael. Pawb yn deulu.
Hithau'n byw ei heddiw hy
A'i ferw. Doedd dim fory.

Yr un na wyddai'i ffrwyno - un yn mynd
Yn mynd mwy, mynd eto:
Licio byw, a byw tra bo,
Ni hunodd y Myf honno.

Darllenwyd yng ngwasanaeth coffa Myfanwy Talog gan Gwen Ellis

Ganwyd Myfanwy Talog yng Ngaerwys, Sir y Fflint ar 31 o Fawrth 1945.

Ymddangosodd mewn cyfresi teledu Cymraeg a Saesneg gan dueddu i gael ei chastio mewn comedïau.

Yng nghyflwyniad i gomedi y Â鶹ԼÅÄ ar y we mae'n cael ei chysylltu â thair rhaglen - Ryan a Ronnie, rhaglen Gymraeg a gyfieithwyd yn ddiweddarach i'r Saesneg; Teliffant, rhaglen sgets i blant a The Magnificent Evans gyda Ronnie Barker.

Ymddangosodd hefyd yn yr opera sebon Cymraeg, Dinas, ac mewn rhai penodau cynnar o Bread.

Yn ogystal â Wil Cwac Cwac, lle'r oedd hi'n lleisio'r holl gymeriadau, defnyddiwyd ei llais hefyd yn y cartŵn Saesneg, The BFG.

Bu farw o gancr y fron yn 49 oed ym 1995. Roedd ei phartner, Sir David Jason, wedi cymryd cyfnod i ffwrdd o'i waith actio er mwyn gofalu amdani yn ystod ei salwch.

Cafodd Myfanwy Talog ei hyfforddi fel athrawes yng Ngholeg Morgannwg, y Barri, cyn symud i fyd y cyfryngau.

Yn ôl ei brawd, Gwilym Williams, dechreuodd ei gyrfa actio ar ôl iddi ymddangos mewn drama ysgol ar ddiwedd ei chyfnod o ymarfer dysgu.

Yn ôl y sôn, fe'i gwelwyd yn perfformio gan aelod o gwmni teledu.

"Esboniodd y byddai'n hoffi i Myfanwy wneud gwaith ar y teledu," meddai Mr Williams.

"Dywedodd fy nhad wrthi, 'os na fyddwch chi'n ei hoffi allwch chi fynd yn ôl i ddysgu'," ychwanegodd.

Yn Eisteddfod Sir y Fflint a'r Cyffiniau 2007, cafwyd cyfarfod i gofio am Myfanwy Talog yn Theatr y Maes yng nghwmni ei chyfeillion agos ym myd y ddrama yng Nghymru - Gaynor Morgan Rees, Christine Pritchard, Olwen Rees, Richard Morris Jones, Gwen Ellis a John Ogwen.

Disgrifiodd Richard Morris Jones, cyd-fyfyriwr iddi yng Ngholeg Morgannwg, y profiad o gyd-actio â hi fel profiad 'peryglus' - roedd bob amser ddireidi yn ei llygaid ar lwyfan ac ychwanegodd bod ei 'bwrlwm, ei hafiaith a'i hwyl yn ysbrydoliaeth inni i gyd'.

Soniwyd am ei haelioni, ei chynhesrwydd, ei hiwmor a'i harabedd, ei hurddas ar lwyfan a'i chreadigrwydd er i'r actores Christine Pritchard nodi fod y ffaith na chafodd ei chastio mewn llawer o roliau difrifol wedi peri loes iddi.

Ar nodyn trist, cyhoeddwyd yn y cyfarfod fod brawd Myfanwy, Gwilym, hefyd wedi marw ychydig ddyddiau cyn yr eisteddfod, yntau hefyd yn ifanc, yn 52 oed.

Ar Fawrth 31, 2006 - roedd Gwilym Williams wedi dadorchuddio plac llechen i'w chwaer ar wal y bwthyn lle cafodd yr actores ei geni yng Nghaerwys, a oedd yn cynnwys dwy linell o un o hoff ddramâu Ms Talog, O Dan y Wenallt gan Dylan Thomas: "And to the sun we all will bow and say goodbye but just for now."


  • Llyfrnodi gyda:

    Cylchgrawn

    Archif o holiaduron awduron, straeon ac adolygiadau llyfrau.

    Cerddoriaeth

    Cerddoriaeth

    Artistiaid

    A-Z o gerddorion ar wefan Â鶹ԼÅÄ Cymru.

    Hanes y bêl hirgron o'i gwreiddiau hyd at y Gamp Lawn

    Hanes

    Croes Geltaidd

    Crefydd y Cymry

    Sut aeth Cymru o fod yn wlad y Derwyddon i wlad y Diwygiad?

    Â鶹ԼÅÄ iD

    Llywio drwy’r Â鶹ԼÅÄ

    Â鶹ԼÅÄ Â© 2014 Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

    Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.