Â鶹ԼÅÄ

LlÅ·r Williams

Llyr Williams

Pianydd ifanc o Wrecsam sy'n cael ei gyfrif ymhlith goreuon y byd.

Cerddor aml-dalentog

Mae LlÅ·r Williams wedi derbyn clod aruchel fel pianydd unigol, cyfeilydd a cherddor siambr.

Bu'n perfformio yn un o gyngherddau'r Eisteddfod Genedlaethol am y tro cyntaf pan y ddaeth y Brifwyl i'w ardal enedigol yn 2007.

Mae'r pianydd ifanc a anwyd yn 1976 ym Mhentre Bychan, Wrecsam, wedi cyfareddu cynulleidfaoedd yng Ngŵyl Caeredin, Neuadd Albert, Neuadd Wigmore, Neuadd Steinway, yr Academi Frenhinol, Neuadd Dewi Sant, St Martin-in-the-Fields a llawer mwy.

Pan chwaraeodd yng Ngŵyl Caeredin am y tro cyntaf yn 2002, dywedodd un adolygydd ar y pryd: "What's Williams got that's special? Everything." Mae wedi perfformio yn yr ŵyl bob blwyddyn ers hynny.

Pianydd y Proms

Ers 2002, mae hefyd wedi bod yn un o gyfeilyddion swyddogol cystadleuaeth Â鶹ԼÅÄ Canwr y Byd Caerdydd.

Gwnaeth ei ymddangosiad yn y Proms am y tro cyntaf yn 2005 gyda Cherddorfa Symffoni'r Â鶹ԼÅÄ, dan arweiniad Jiri Belohlavek. Y flwyddyn honno hefyd derbyniodd LlÅ·r Williams Wobr Artist Ifanc Neilltuol MIDEM Classique ac International Artist Managers' Association.

Mewn rhaglen ddogfen ar S4C yn 2006, Y Pianydd, datgelodd LlÅ·r Williams ei fod eisoes yn dipyn o ffan o opera erbyn iddo gael ei wers biano gyntaf yn saith oed: "Roedd dad yn hoffi gwrando ar opera ac mi roeddan ni'n mynd i Landudno i weld perfformiadau gan y WNO, ac i Fanceinion. Mi ro'n i'n mwynhau gwaith Verdi i ddechrau ac yna yn hwyrach ymlaen pan o'n i'n tua 10 oed ro'n i'n cael fy nenu at Wagner," meddai.

Yn 11 mlwydd oed, roedd wedi pasio ei arholiadau piano Gradd 1-8 gydag Anrhydedd.

Ar ôl gadael Ysgol Morgan Llwyd, astudiodd gerddoriaeth yng Ngholeg Queens, Rhydychen gan raddio â dosbarth cyntaf ym 1998. Aeth ymlaen wedyn i astudio yn yr Academi Gerdd Frenhinol gan ennill cymhwyster uchaf yr academi, y DipRAM, yn 2002. Enillodd Gymrodoriaeth Shinn yr Academi (2000-2002) pan y bu'n astudio hyfforddi cantorion ac arwain cerddorfeydd yn ystod y ddwy flynedd.

Ennill Enwogrwydd

Ers ymuno â chynllun New Generation Artists Â鶹ԼÅÄ Radio3 yn 2003 mae wedi ymddangos fel pianydd unigol gyda Cherddorfa Symffoni'r Â鶹ԼÅÄ, Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y Â鶹ԼÅÄ, a Cherddorfa Ffilarmonig y Â鶹ԼÅÄ.

Roedd ei lun ar glawr CD rhifyn Mehefin 2005 cylchgrawn Â鶹ԼÅÄ Music Magazine o weithiau gan Beethoven, Lizt a Schubert.

Rhyddhaodd ei CD masnachol cyntaf o waith Chopin, Préludes, yn 2006 ar label Quartz.

Ar ddechrau 2007, perfformiodd yn yr Unol Daleithiau am y tro cyntaf tra ar daith gyda Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y Â鶹ԼÅÄ.

Mae wedi perfformio'n rheolaidd gyda Sinfonia Cymru a chynllun Live Music Now! Yn 2004 enillodd wobr o £20,000 gan y Borletti Buitoni Trust.

I Bendraw'r Byd

Ymddangosodd yn Proms y Â鶹ԼÅÄ yn Llundain ac yn 2009/10 perfformiodd yn Salzburg gyda Cherddorfa Mozarteum ac Ivor Bolton. Yna ymddangosodd gyda'r LPO a Jukka-Pekka Saraste gyda pherfformiadau yn Perth, Awstralia a gyda'r Pomeriggi Musicali ym Milan.

Trwy gydol 2010 perfformiodd LlÅ·r 'gylch' sonata Beethoven ledled y DU gan berfformio'n Neuadd Wigmore ac yn ninas Ghent. Rhyddhaodd C2 o weithiau gan Mussorgsky, Debussy a Liszt yn yr un flwyddyn. Roedd hefyd yn destun dwy ffilm a gynhyrchwyd gan S4C; enillodd un ohonynt BAFTA Cymru am y raglen gerddoriaeth orau, a ffocysodd yr ail ar ei 'debut' yn Neuadd Carnegie yn yr UD.


Llyfrnodi gyda:

Cerddoriaeth

Cerddoriaeth

Artistiaid

A-Z o gerddorion ar wefan Â鶹ԼÅÄ Cymru.

Blwyddyn Gron

Calendr

Misoedd

Calendr yn llawn dyddiadau nodedig ac arferion Cymreig.

Hanes y bêl hirgron o'i gwreiddiau hyd at y Gamp Lawn

Â鶹ԼÅÄ iD

Llywio drwy’r Â鶹ԼÅÄ

Â鶹ԼÅÄ Â© 2014 Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.