Â鶹ԼÅÄ

Ivor Novello

Ivor Novello

Actor llwyfan a ffilm, dramodydd a chyfansoddwr chwedlonol. Ef oedd seren y West End adeg y Rhyfel Byd Cyntaf gan gyfansoddi caneuon poblogaidd y cyfnod fel, 'We'll Keep The Â鶹ԼÅÄ Fires Burning.'

Y Rhyfeddod Cymreig

I Novello mae'r diolch am y linell anfarwol, "Me Tarzan, you Jane," pan wnaeth gamgymeriad mewn ymarfer ar gyfer y sioe gerdd, 'Tarzan'!

Cysylltir Novello bellach â'r wobr i Gerddorion a Chyfansoddwyr o'r un enw, ond roedd Ivor Novello ei hun yn llawer mwy na hynny.

Ganwyd ef ar 15 Ionawr, 1893 yn Llwyn-yr-eos, Cowbridge Road East yng Nghaerdydd i'r casglwr trethi David Ivor Davies a Dame Clara Novello Davies. Fe gafodd ei enw proffesiynol gan fam-fedydd o'r Eidal.

Cafodd Novello wersi cerddoriaeth yn fuan iawn gan ei fam ac enillodd ysgoloriaeth i Ysgol Gorawl Magdalen yn Rhydychen ac yno cafodd yr enw 'Welsh Prodigy' yn fuan iawn am ei dalent ysgrifennu.

Ar ôl gadael yr ysgol, symudodd y teulu i Lundain. Ei lwyddiant mawr cyntaf oedd y gân 'Keep the Â鶹ԼÅÄ Fires Burning' yn 1914 a oedd yn boblogaidd ymhlith y milwyr Prydeinig dramor. Enillodd y gân y swm aruthrol am y dydd o £15,000 iddo! Arweiniodd hyn at lwyddiant fel diddanwr yn ystod y rhyfel a chafodd wahoddiad i gyfansoddi ar gyfer nifer o sioeau cerdd yn y West End yn Llundain.

Efrog Newydd

Yn 1916 daeth Bobby Andrews, actor ifanc 21 oed i'w fywyd. Daeth y ddau yn gariadon gan aros gyda'i gilydd am 35 mlynedd. Perfformiodd y ddau gyda'i gilydd droeon yn Sioeau Cerdd a dramau Novello.

Lledodd enwogrwydd Novello i Broadway. Ar y daith long adref ar ôl pum mis yn Efrog Newydd yn 1919, derbyniodd Novello neges yn ei wahodd i gymryd rhan yn y ffilm, 'Call of the Blood'. Yn fuan iawn, ef oedd seren ffilmiau mwyaf Prydain ac fe fu'n llwyddiannus yn ddiweddarach mewn ffilmiau sain hefyd.

Un ffilm ddiddorol iawn lle'r oedd tystiolaeth y gallai Ivor wedi cael llwyddiant fel actor fwy 'tywyll' a heriol oedd ei bortread effeithiol iawn o'r 'Lodger' yn y ffilm o'r un enw. Cyfarwyddwyd 'The Lodger' (1927) gan y dewin ei hun, Alfred Hitchcock. Ac yn debyg i ffilmiau mwy diweddar Hitchcock, fel 'Suspicion', roedd yna amwysder yn perthyn i gymeriad Novello. Oedd e'n lofrudd neu beidio?

Gwrthododd y stiwdio adael i'w 'matinee idol' gael ei bardduo trwy bortreadu llofrudd. Ac o ganlyniad bu'n rhaid i Hitchcock newid y sgript i bwysleisio bod cymeriad Novello yn ddieuog.

Hollywood yn galw

Digon aflwyddiannus oedd ei symudiad i Hollywood yn y 1930gau am fod gan Novello hiraeth am Lundain a'r theatr. Yn ôl y sôn, roedd ganddo bresenoldeb llwyfan trydanol. Ysgrifennodd 24 o ddramâu ac ymddangos mewn 14 gan gynnwys 'Henry V'. Ei foment fawr oedd yn 1935, pan ysgrifennodd, cyfansoddodd a pherfformiodd yn sioe hynod lwyddianus, 'Glamorous Night', yn y Theatr Royal yn Drury Lane.

Yn 1944 carcharwyd Novello am wyth wythnos am gamddefnyddio cŵpons petrol, trosedd ddifrifol yn ystod y rhyfel. Fe geisiodd lwgrwobrwyo'r heddwas oedd yn ei arestio a thalodd hynny ddim iddo.

Oherwydd yr helynt hwn a'r ffaith ei fod yn hoyw mewn cyfnod mor rhagfarnllyd, ni chafodd Novello deitl brenhinol er ei holl waith arloesol yn y Theatr.

Wedi Wormwood

Diddanwr ydw i. 'Dyw seddau gwag ac adolygiadau da yn golygu dim i mi.

Ivor Novello

Fe ddaeth allan o Wormwood Scrubs mor boblogaidd ag erioed, gan ddiddanu'r lluoedd yn Ffrainc a Gwlad Belg a llwyddo unwaith eto efo'r gân 'We'll Gather Lilacs'.

Bu farw Novello ar 6 Mawrth 1951, yn ei fflat yn Aldwych o thrombosis y galon, rhai oriau yn unig ar ôl ymddangos ar y llwyfan ym mhrif rhan ei gynhyrchiad, 'A King's Rhapsody'. Sefydlwyd Gwobr Ivor Novello yn y 1950gau i anrhydeddu talentau awduron a chyfansoddwyr caneuon.

Heidiodd 7,000 o bobl i'w angladd (roedd y nifer o fenywod i ddynion yn 50 i un). Daeth ei gartref gwledig, 'Redroofs' yn Maidenhead, yn Ysgol Theatr. Gosodwyd blac glas i nodi man ei eni yn Nhreganna, Caerdydd a cheir cerflun ohono tu allan i Ganolfan Mileniwm Cymru.


Llyfrnodi gyda:

Llyfrau

Matthew Rhys

Holi ac adolygu

Holi awduron ac adolygu'r llyfrau Cymraeg diweddaraf

Theatr

Llion Williams

Barn a gwybodaeth

Adolygiadau a straeon o fyd y theatr Gymraeg

Ffilm

Rhys Ifans

Pobl y sgrin

Adolygiadau a gwybodaeth am actorion a phobl ffilm

Â鶹ԼÅÄ iD

Llywio drwy’r Â鶹ԼÅÄ

Â鶹ԼÅÄ Â© 2014 Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.