Â鶹ԼÅÄ

Dafydd ap Gwilym

Cofeb Dafydd ap Gwilym yn Ystrad Fflur

Dyma gymeriad sy'n enwog hyd heddiw. Adnabyddwyd ef fel y 'Chaucer' Cymreig ac un o feirdd mwya Ewrop yn y Canol Oesoedd. Roedd ei ddefnydd o ddeialog awgrymog a hiwmor ysgafn yn newydd iawn ym marddoniaeth Cymru.

Dyddiau Cynnar

Ychydig iawn a wyddom, mewn gwirionedd, am fywyd y bardd canoloesol Dafydd ap Gwilym. Ond awgrymir yn bendant iddo gael ei eni ym Mrogynin, Penrhyncoch, tua pum milltir i'r dwyrain o Aberystwyth tua 1320.

Yn ifanc iawn, fe symudodd gyda'i rieni i Lanbadarn Fawr, Aberystwyth a thybir iddo dreulio peth amser yng Nghastell Newydd Emlyn gyda pherthnasau.

Yn uchelwr, roedd ganddo ddigon o arian i deithio ar draws Cymru, yn ymweld â thafarndai yn y bwrdeisdrefi Normanaidd ac â phlasdai'r uchelwyr i'w diddori wrth adrodd ei gywyddau.

Dengys ei gerddi iddo gael ei hyfforddi yn nhraddodiad barddol ei genedl a gellir cysylltu ef â Beirdd y Tywysogion a fyddai'n canmol eu noddwyr tywysogaidd.

Arloeswr ei ddydd

Wedi cysgu, tru tremyn, o bawb eithr myfi a bun, profais yn hyfedr fedru ar wely'r ferch; alar fu.

Dafydd ap Gwilym

Fe ddylanwadodd rhai o ysgolheigion crwydrol Profens a Ffrainc sef y Glêr arno ac fe ddefnyddiodd eu themâu hwy yn ei waith megis natur a serch gan sôn am ddwy wraig yn arbennig sef Morfudd, bryd golau, a Dyddgu dywyll.

Mae ei ddefnydd o ddeialog awgrymog a hiwmor ysgafn yn newydd iawn ym marddoniaeth Cymru fel y dengys cerddi fel Merched Llanbadarn:

Plygu rhag llid yr ydwyf, Pla ar holl ferched y plwyf! Am na chefais, drais drawsoed, Onaddun yr un erioed, na morwyn fwyn ofynaig, na merch fach, na gwrach, na gwraig. Py rusiant, py ddireidi, py fethiant, na fynnant fi? Py ddrwg i riain feinael Yng nghoed tywylldew fy nghael? Nid oedd gywilydd iddi, yng ngwâl dail fy ngweled i.

Tipyn o Gymeriad

Mae cynnwys Dafydd ap Gwilym a'i dechneg barddol ystwyth yn rhoi dimensiwn newydd i'r traddodiad barddol yng Nghymru. Mae'r undod hwn o draddodiad barddol a dylanwadau mwy cyfoes yn sicr yn gosod barddoniaeth Cymru o fewn y traddodiad Ewropeaidd a hynny cyn y cofnodwyd gwaith Chaucer hyd yn oed.

Fe fu farw tua 1380 ac fe gredir yn gyffredinol iddo gael ei gladdu yn Abaty Ystrad Fflur ger Ponrhydfendigaid yng Ngheredigion. Mae'r abaty bellach yn adfail ond gosodwyd llechen goffa yno i'r gŵr a gaiff ei gydnabod yn un o feirdd mwyaf Cymru.

Gyda llaw, mae Dafydd yn enwog hefyd am ei helyntion caru. Nid bardd yn unig mo Dafydd ap Gwilym! Mae cerddi fel 'Trafferth mewn Tafarn' yn llawn slapstic a throeon trwston carwriaethol Dafydd. Roedd, yn sicr, yn dipyn o gymeriad!


Llyfrnodi gyda:

Hanes

Croes Geltaidd

Crefydd y Cymry

Sut aeth Cymru o fod yn wlad y Derwyddon i wlad y Diwygiad?

Digwyddiadur

Beth sy' mlaen

Digwyddiadau mawr a bach yng Nghymru.

Â鶹ԼÅÄ iD

Llywio drwy’r Â鶹ԼÅÄ

Â鶹ԼÅÄ Â© 2014 Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.