Mae llais bâs-bariton Bryn Terfel Jones yn un o'r lleisiau opera mwyaf adnabyddus a llwyddiannus ar draws y byd i gyd.
Mae Bryn Terfel yn fab i Hefin a Nesta Jones ac fe'i magwyd ar fferm Nant Cyll Uchaf, Pant Glas ger Garndolbenmaen. Daeth ei ddoniau i'r amlwg yn fuan iawn a dechreuodd gael gwersi canu gan hen ffrind i'r teulu, Selyf Jones, yn bedair oed.
Erbyn iddo gyrraedd Ysgol Gerdd y Guildhall yn 1984 roedd eisoes wedi ennill cystadlaethau lu mewn eisteddfodau lleol a chenedlaethol. Yno dechreuodd weithio gyda'i athro llais presennol, Rudolf Piernay, gan ennill medal aur y Guildhall ac Ysgoloriaeth Kathleen Ferrier.
Yn ôl y beirniaid, cyfuniad o lais gwych, ynganu cywir, presenoldeb llwyfan a dawn actio sy'n ei wneud yn un o gantorion opera gorau ei ddydd. Mae wedi perfformio yn nhai opera mwya'r byd gan ganu gwaith cyfansoddwyr mor amrywiol â Mozart, Wagner, Puccini, Stravinsky, Verdi a Britten.
Ers iddo ennill y wobr Lieder yng nghystadleuaeth Canwr y Byd yng Nghaerdydd yn 1989, mae Bryn mynd ymlaen i ennill rhai o brif gystadlaethau'r byd opera ac wedi recordio sawl albwm o ganeuon gan Schubert, Schumman a Vaughan Williams. Mae hefyd wedi rhyddhau dwy CD o ganeuon sioe gerdd gan gynnwys gweithiau gan Rogers ac Hammerstein a Lerner a Loewe heb sôn am ei waith i gwmni Sain.
Rhoddodd Bryn ei berfformiad cerddorol proffesiynol cyntaf gyda Chwmni Opera Cenedlaethol Cymru fel Guglielmo yn Cosi Fan Tutte gan Mozart ym 1990 cyn cymryd un o'i rannau enwocaf, sef Figaro, yn ei ymddangosiad cyntaf yn America gyda Chwmni Opera Santa Fe. Ond fe ddaeth ei gyfle mawr fel Jochanaan yn Salome yng Ngwyl Salzburg yn Awstria.
Sefydlodd ei ŵyl gerddorol ei hun sef Gŵyl y Faenol ac wedi llwyddo i gael rhai o sêr amlycaf byd yr opera, pop a sioeau cerdd Llundain i deithio i Wynedd i ddiddanu'r torfeydd.
Fe wnaeth hefyd gefnogi'r ymgyrch i sicrhau cartref teilwng i Gwmni Opera Cenedlaethol Cymru a threfnwyd iddo chwarae'r brif ran yn The Flying Dutchman gyda'r cwmni yn 2006 yn Nghanolfan y Mileniwm yng Nghaerdydd, a agorodd yn 2004.
Yn ôl Bryn ei hun, un o brofiadau mwyaf ei fywyd oedd canu yn agoriad Cwpan Rygbi'r Byd yng Nghaerdydd efo Shirley Bassey a pherfformio Rule Britannia yn noson ola'r Proms yn Llundain gyda draig goch tegan dan ei gesail.
Hanes y bêl hirgron o'i gwreiddiau hyd at y Gamp Lawn