Βι¶ΉΤΌΕΔ

Aneurin Barnard

Aneurin Barnard

Hanes y seren ifanc o Fro Morgannwg, Aneurin Barnard, enillydd Gwobr Olivier a seren 'We'll Take Manhattan', ar Βι¶ΉΤΌΕΔ 4.

Seren newydd

Mae'r ddrama (Spring Awakening) yn cael ei pherfformio'n hyfryd gan y cast ifanc Prydeinig. Mae Aneurin Barnard... yn ei bortread o Melchior yn deimladwy iawn...

Michael Billingdon (y Guardian 2009)

Mae Aneurin Barnard yn seren ifanc o Gymro sy'n ennill ei blwy ar lwyfan cenedlaethol. O Gwm Ogwr yn wreiddiol, ganwyd ef ar Fai 8 1987 a graddiodd o Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yn 2008.

Yn ystod ei amser yn y Coleg, cymrodd rannau blaenllaw mewn cynhyrchiadau fel 'West Side Story', 'Caucasian Chalk Circle', 'Hobson's Choice', 'The Importance Of Being Earnest' a 'Dawns Y Cynhaeaf'.

Cafodd rannau mewn nifer o gyfresi teledu yn cynnwys 'Casualty', 'Shameless' ac 'Y Pris'. Ymddangosodd hefyd mewn ffilmiau byrion fel 'The Big Day', 'Owl Creek Bridge' a 'Night On The Tiles.'

Yn Chwefror 2010 cafodd ei enwebu am Wobr Olivier yn y categori 'Yr Actor Gorau mewn Sioe Gerdd neu Adloniant' am ei bortread o gymeriad Melchior Gabor yn 'Spring Awakening'. Roedd hwn yn addasiad o ddrama ddadleuol y dramodydd Almaenig, Frank Wedekind (1890-1).

Gwobr Olivier

Aneurin Barnard a Karen Gillan
Aneurin Barnard a Karen Gillan

Enillodd y Wobr nodedig yma yn erbyn cystadleuaeth tanbaid gan actorion profiadol fel Rowan Atkinson, Bob Golding, Tony Sheldon ac Alexander Hanson. Derbyniodd y wobr mewn seremoni arbennig yng Ngwesty'r Grosvenor House Hotel ar Fawrth 21 2010.

Fe enillodd ei gyd-actor yn 'Spring Awakening' a'r Cymro ifanc, Iwan Rheon wobr Olivier hefyd yn y categori perfformiad cefnogol gorau.

Wedi hyn daeth y rhannau yn fwy sylweddol gydag Aneurin yn ennill rhan yn ffilm Hollywood, 'Ironclad' yng nghwmni actorion blaenllaw fel James Purefoy, Derek Jacobi a Brian Cox. Cafodd y ffilm ei saethu yn Stiwdio Dragon International - neu 'Valleywood' - yn Llanilid ger Penybont-ar-Ogwr.

Cafodd rannau hefyd yn fersiwn ffilm y llyfr, 'Powder' gan Kevin Sampson; 'Guinea Pigs', ffilm am wirfoddolwyr yn ymladd am eu bywydau pan mae treial cyffuriau yn methu; cynnig diweddara'r cynhyrchydd Cymreig, Marc Evans sef 'Hunky Dory' a ffilm arswyd Ciaran Foy, 'Citadel'.

Cipio Manhattan

Hoffwn yn fawr petai'r cyfle yn dod i fi bortreadu James Bond. Pan yn blentyn, roeddwn yn gwylio'r ffilmiau gyda dad a thadcu a byddai chwarae'r rhan yn ffordd i dalu teyrnged iddyn nhw...

Aneurin Barnard

Ar ddechrau 2012, cyhoeddwyd bod Aneurin wedi ennill y brif ran yn nrama newydd Βι¶ΉΤΌΕΔ 4, 'We'll Take Manhattan' gyda Karen Gillan (Dr Who) yn gyd-seren. Mae'r ddrama sy'n cael ei darlledu ar Chwefror 26, 2012, yn edrych ar stori serch y ffotograffydd enwog David Bailey, (Aneurin Barnard) a'r fodel enwog o'r 60gau Jean Shrimpton (Gillan).

Wedi'i seilio yn 1962 mae'r ddrama yn ffocysu ar sesiwn ffotograffiaeth o wythnos ar gyfer y cylchgrawn 'Vogue' a fynychodd Bailey a Shrimpton yn Manhattan, Efrog Newydd. Roedd yn gyfarfyddiad a ddechreuodd y garwriaeth dadleuol rhwng y Bailey priod oedd yn 23 oed ar y pryd a'r fodel ifanc 18 oed.


Llyfrnodi gyda:

Llyfrau

Matthew Rhys

Holi ac adolygu

Holi awduron ac adolygu'r llyfrau Cymraeg diweddaraf

Theatr

Llion Williams

Barn a gwybodaeth

Adolygiadau a straeon o fyd y theatr Gymraeg

Ffilm

Rhys Ifans

Pobl y sgrin

Adolygiadau a gwybodaeth am actorion a phobl ffilm

Βι¶ΉΤΌΕΔ iD

Llywio drwy’r Βι¶ΉΤΌΕΔ

Βι¶ΉΤΌΕΔ Β© 2014 Nid yw'r Βι¶ΉΤΌΕΔ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.