In order to see this content you need to have both enabled and installed. Visit for full instructions
Mae Alex Jones yn hanu o Rydaman yn Sir Gaerfyrddin. Ar hyn o bryd mae hi'n cyd gyflwyno'r rhaglen The One Show ar Â鶹ԼÅÄ One gyda Matt Baker a Chris Evans.
Cyn gweithio ar The One Show , bu'n cyflwyno nifer o raglenni ar S4C gan gynnwys y gyfres deithio Tocyn, rhaglen chwaraeon eithafol Chwa a Salon, sef cyfres yn trafod ffasiwn.
Ymddangosodd Alex ar Mastermind Cymru yn 2008 a'i phwnc arbenigol oedd bywyd a gwaith Madonna.
Yn 2010 bu'n rhan o dîm sy'n cyflwyno Jonathan, rhaglen sydd yn cyd-fynd â Phencampwriaeth y Chwe Gwlad. Y flwyddyn honno hefyd cyflwynodd rhaglen Plant Mewn Angen yn fyw o Stadiwm y Mileniwm yn ystod hanner amser gêm rhwng Cymru a Fiji.
Cafodd Alex Jones ei henwebu gan y Western Mail fel y fenyw fwyaf rhywiol Cymru 2010.
Yn ei hamser sbâr, mae Alex yn hoff o farchogaeth, ffotograffiaeth a sgïo.
Hanes y bêl hirgron o'i gwreiddiau hyd at y Gamp Lawn