Â鶹ԼÅÄ

Galwad i'r enwadau uno - cyn diflannu

Capel

31 Mawrth 2010

Gweinidog yn gweld Ymneilltuaeth yn marw oni ddaw yr enwadau ynghyd

Mae un o weinidogion blaenllaw y Presbyteriaid wedi rhybuddio bod amharodrwydd y gwahanol enwadau i ddod at ei gilydd i addoli yn peryglu dyfodol y traddodiad Cristnogol yng Nghymru.

"Os yda ni'n cario mlaen fel yda ni fydd yna ddim traddodiad i'w gadw, mi fydd wedi peidio a bod," meddai'r Parchedig Harri Owen Jones wrth annog yr enwadau i gydaddoli a rhannu adeiladau.

I weld y cynnwys hwn rhaid i chi alluogi Javascript a gosod Flash ar eich cyfrifiadur. Ewch i (Saesneg) am gyfarwyddiadau.

Yr oedd Mr Jones yn ymhelaethu ar rifyn Mawrth 28 2010 o Bwrw Golwg ar Â鶹ԼÅÄ Radio Cymru ar erthygl yr oedd wedi ei chyfrannu i'w bapur bro lleol ac â ailgyhoeddwyd yn rhai o'r papurau enwadol fel Y Tyst a'r Goleuad.

Disgrifiodd fel methiant fawr ei ddeugain mlynedd o weinidogaethau ei fethiant i berswadio'r enwadau i uno.

'Dim ond yn fy nghapel i'

Disgrifiodd yr amharodrwydd fel melltith fawr yr enwadau gan resynu bod llond llaw o addolwyr yn cyfarfod o fewn llathenni i'w gilydd, yn defnyddio'r un llyfr emynau, yn defnyddio'r un Beibl a'r un drefn gwasanaeth.

"Rhyw ddeg fan hyn ac ychydig lathenni i ffwrdd rhyw ddeg fan arall o enwad arall - a'r holl adnoddau yna; tri pregethwr, pedwar pregethwr, pedwar adeilad, twymo pob man a'r holl arian, yr holl adnoddau yn ymdrechu i gario mlaen hyd yr eithaf ac yn y diwedd yn gorfod rhoid i fyny," meddai wrth Bethan Jones Parry, cyflwynydd Bwrw Golwg.

"Teimlo ydw i pe bydden nhw'n dod at ei gilydd y bydden nhw, o dan yr unto, yn llawer iawn mwy effeithiol eu tystiolaeth ac, yn sicr, yn llawer mwy bywiog eu haddoliad," ychwanegodd gan rybuddio nad oes llawer o amser ar ôl i achub y dydd.

Yr oedd Harri Owain Jones, o Borthaethwy, wedi codi'r mater yn wreiddiol mewn erthygl ym Mhapur Menai

Yn yr erthygl honno dywedodd:

"Mewn trefi a phentrefi, ceir tair cynulleidfa o wahanol enwadau, o fewn llathenni i'w gilydd yn addoli'r un pryd, gan ddefnyddio'r un cyfryngau a'r un drefn, a thri phregethwr yn eu gwasanaethu.

"Mae hyn yn wastraff ar adnoddau dynol ac ynni - ac arian a fyddai'n bwydo miloedd o bobl newynog bob wythnos ac yn cyfrannu at leddfu angen y llesg a'r rhai ag anghenion arbennig ar stepen ein drws."

Ychwanegodd: "Flynyddoedd yn ôl dywedodd y diweddar Barchedig J P Davies, Porthmadog, mai afiechyd crefydd Cymru oedd, nid yn gymaint enwadaeth ond capelyddiaeth - a'r perygl o lynu wrth, ac addoli adeilad, heb addoli Duw mewn gwirionedd.

"Fel dywedodd un brawd ar Ynys Môn wrthyf wrth drafod uno dau gapel cyfagos, 'I mi, tydi Duw ond i'w gael yn fy nghapel i.'

'Yn waeth erbyn hyn'

"Fy mam i yw, bod y broblem yn waeth erbyn hyn. Unir oedfaon yn ystod mis Awst mewn rhai ardaloedd - a chynhwysir yr Eglwys yng Nghymru yn y trefniadau. Fy mam i yw, y dylai addoli ar y cyd ddigwydd fel patrwm arferol o Sul i Sul, ac o wythnos i wythnos ar hyd y flwyddyn, gan weithio at ddewis un ganolfan mewn ardaloedd i Gristnogion uno i addoli Duw ac i weithio a chenhadu yn enw Crist."

Dywedodd i hyn ddigwydd yn llwyddiannus yn rhai ardaloedd gyda bron "pob un fenter" yn llwyddo lle mae menter i arbrofi.

Methiant mawr

"Fy methiant mawr i fel gweinidog am fwy na deugain mlynedd oedd methu argyhoeddi pobl mai ewyllys Duw i'r enwadau Cymraeg yw dod yn un teulu, ac os na fyddwn yn ufuddhau yn fuan, y gwelir angladd Ymneilltuaeth Gymraeg yn gynt na'r disgwyl.

"Gweddïo a wnaf am dywalltiad o'r Ysbryd Glan a fydd yn ein tynnu at ein gilydd yn deulu Duw," meddai.


Llyfrnodi gyda:

Cylchgrawn

Sylwadau bachog am grefydd, bywyd a'r byd

Dysgu

Dysgu

Codi Cwestiwn

Dysgu am grefyddau'r byd. Gweithgarwch addysg grefyddol rhyngweithiol

Radio Cymru

John Roberts yn trafod materion crefyddol bob bore Sul

Hanes

Croes Geltaidd

Crefydd y Cymry

Sut aeth Cymru o fod yn wlad y Derwyddon i wlad y Diwygiad?

Cylchgrawn

Archif o holiaduron awduron, straeon ac adolygiadau llyfrau.

Â鶹ԼÅÄ iD

Llywio drwy’r Â鶹ԼÅÄ

Â鶹ԼÅÄ Â© 2014 Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.