'Ymfalchïwch mewn Cymreictod'
"Ymfalchïwch mewn bod yn Gymry ond byddwch yn agored i weddill y byd" - yw neges Dydd Gŵyl Dewi 2011 Archesgob Cymru.
Fore'r ŵyl cyhoeddodd y byddai yn dweud yn ei bregeth Gŵyl Dewi yng nghapel Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn Llanbedr Pont Steffan, mai'r her sy'n wynebu Cymru yw sut i ddiogelu ei hunaniaeth heb ddod yn genedlaetholgar gul.