Camgymeriad ar ran yr Eglwys Presbyteraidd oedd cau ei choleg diwinyddol yn ôl llywydd ymadawol yr enwad, Y Parchedig Gwenda Richards.
Werth gael ei holi ar y rhaglen radio Bwrw Golwg ddydd Sul Medi 12 2010 disgrifiodd gael gwared a'r Coleg Diwinyddol fel "un o gamgymeriadau y Presbyteriaid".
I weld y cynnwys hwn rhaid i chi alluogi Javascript a gosod Flash ar eich cyfrifiadur. Ewch i (Saesneg) am gyfarwyddiadau.
Rhoddodd y coleg iddi hi ac eraill "sbectrwm eang o fywyd" meddai heb sôn am yr addysg a gafodd yno gyda rhai o ddiwinyddiaeth gwahanol iawn i'w gilydd "yn cyd fyw yn hapus gan barchu barn ei gilydd".
"Y peryg rŵan ydi ein bod ni'n pegynnu a dwi'n poeni'n arw bod un garfan sy efallai'n credu mai [addysg] ydi dim ond bod efo gweinidog am hyn a hyn a chael 'chydig bach o ddarlithoedd a bod hynny'n eu cymhwyso nhw i ddod i'r weinidogaeth . . . dwi yn pryderu am ein hyfforddiant ni," meddai wrth gyflwynydd Bwrw Golwg, John Roberts.
Dywedodd ei bod yn poeni hefyd am gulni a methiant i bontio rhwng yr hen a'r newydd heb anghofio am y traddodiadol.