Â鶹ԼÅÄ

Dydd y Farn - rhagdybio diwedd y byd

Dydd y Farn?

29 Mehefin 2010

Dydd y Farn a darlun Llyfr Y Datguddiad

Wedi i arolwg yn yr Unol Daleithiau ddangos bod 40% o'r rhai a holwyd yn disgwyl ail ddyfodiad Iesu Grist yn y flwyddyn 2050 bu Bwrw Golwg yn holi dau Gristion o Gymru beth mae'r syniad o ddydd y Farn yn ei olygu iddyn nhw.

Mae'r syniad o Ddydd y Farn yn cael ei gyfleu ar ei fwyaf dramatig yn llyfr olaf y Testament Newydd, y Datguddiad , lle darlunnir diwedd popeth fel rydym yn ei adnabod a chreu byd newydd, nefoedd newydd ac atgyfodiad y meirw.

Holodd John Roberts, cyflwynydd Bwrw Golwg Arfon Jones a Guto Prys ap Gwynfor ai digwyddiad naturiol ynteu digwyddiad goruwch naturiol yw hwn yn eu golwg hwy.

I weld y cynnwys hwn rhaid i chi alluogi Javascript a gosod Flash ar eich cyfrifiadur. Ewch i (Saesneg) am gyfarwyddiadau.

Goruwchnaturiol

"Digwyddiad goruwch naturiol ydi o," meddai Arfon Jones.

"Hynny yw, rydym yn credu fod Duw wedi creu y byd yma, rydym ni'n gweld canlyniadau y ffaith fod y ddynoliaeth wedi troi cefn ar Dduw ac yna ryda ni'n credu fod Iesu Grist wedi ymyrryd ym mherson Iesu Grist yn ei farwolaeth a'i atgyfodiad ond mae'r Beibl yn dysgu yn glir iawn bod y deyrnas y mae Iesu Grist wedi dod i'w sefydlu nid yn unig yn rhywbeth yn y presennol ond yn mynd i gael ei chyflawni yn y dyfodol ac mae o'n disgrifio - Iesu Grist ei hun yn disgrifio ei hun yn dod yn ôl i sefydlu'r deyrnas.

"Ond sut yn union y bydd hynny'n digwydd dydy ni ddim yn gwybod oherwydd mae'r Beibl yn hyn o beth yn llawn o ddarluniau symbolaidd, proffwydol, a'r peryg bob amser ydi mynd i'w dehongli nhw yn rhy llythrennol ac mae tuedd fawr i wneud hynny yn yr America lle maen nhw'n rhannu hanes y byd yn wahanol gyfnodau ac yn trio gweithio allan y manion; pryd a be yn union sy'n mynd i ddigwydd.

"Ond dydw i ddim yn credu fod gennym ni hawl i wneud hynny. Mae Iesu Grist wedi dweud yn glir does yna neb yn gwybod pryd y bydd o'n digwydd ond pan fydd o'n digwydd bydd pawb yn gwybod ei fod o wedi digwydd."

Cytunodd Guto Prys ap Gwynfor mai digwyddiad goruwch naturiol fyddai hwn gyda Duw yn dod "a'i drefnen newydd i fodolaeth" .

"Ac mae Duw yn gweithio tuag at y drefen honno ac yn gofyn inni gydweithio ag ef i brysuro ei ddyfodiad."

Pwysleisiodd yntau nad darlun llythrennol sydd yn yr ysgrythurau ond delweddau "i gyfleu digwyddiad aruthrol o fawr".

"Mae nod a phwrpas i waith Duw ac mae e'n gofyn inni gydweithio ag ef i gyflawni hynny trwy sicrhau bod ei drefn ef a'i ffordd ef yn cael ei mynegi yn eglur ac i ddilyn y ffordd honno yn ein bywydau ac adeiladu cymunedau - sef yr eglwysi - sydd yn byw yn unol â'r ffordd honno," meddai.

Cytunodd mai dydd o farn fydd e - dydd o brysur bwyso:

"Yr ydym yn atebol am yr hyn ydym yn ei wneud yn ein bywydau ar y ddaear yma ac mae'r atebolrwydd hwnnw yn allweddol bwysig . Yr ydym ni yn gorfod mynd i ateb dros yr hyn ydym ni yn ei wneud gerbron yr Arlwydd Iesu a diolch i Dduw mai yr Arglwydd Iesu yw ein barnwr ni," meddai.

Iesu Grist wedi ei anfon

Ac meddai Arfon Jones:
"Mae yna ddarluniau poblogaidd o'r Farn ac o Dduw yn y cyd-destun yna sydd yn bitw iawn ond Duw glân, sanctaidd, Duw cariad ydi o.

"Yr hyn ydym ni'n ei weld yn y Beibl yw bod Duw wedi anfon Iesu Grist i ddangos ffordd wahanol . . . un ffaith amlwg yw fod Duw yn llawer uwch ac yn llawer mwy nag ydym ni ond sut mae'r ddau beth, sancteiddrwydd Duw ei lendid o a'i gariad o'n dod at ei gilydd ydi ei fod o mor lân fedrith o ddim dioddef anghyfiawnder a chasineb neb na drygioni na phechod ac eto mae o wedi cymryd y drygioni a'r pechod yna i gyd arno'i hun yn Iesu Grist a'i alwad o'n syml iawn ydi am i bobl droi at Iesu Grist," meddai.

O ddrwg i waeth

Ond cytunodd bod cosb hefyd "yn ôl mae'r Beibl yn ddweud".

"O ran unigolion mae'r Beibl yn dweud bod pob un ohonom ni yn gorfod ateb gerbron brawdle Crist ond cenhedloedd hefyd am yr hyn maen nhw'n i wneud . Mae Cristnogion wedi cael eu galw yn nerth yr Ysbryd Glân sydd wedi cael ei roid yn barod i fyw gwerthoedd y deyrnas sydd i ddod, gwerthoedd Duw yn y presennol. Mae'r Beibl fe petai yn dweud bod y byd am fynd o ddrwg i waeth," meddai.

Dywedodd Guto Rhys ap Gwynfor fod yr hyn a ddisgrifiwyd fel "Y Frwydr Fawr" yn mynd rhagddi ers y cwymp rhwng da a drwg.

"Mae'n rhaid inni gymryd ochr . . . a ffordd Iesu yw ffordd Duw," meddai.

Ond pwysleisiodd mai delweddau yw y rhai o frwydrau a byddinoedd yn y Beibl i'w dehongli a'u priodoli i'r hyn sy'n digwydd yn awr.

Dywedodd Arfon Jones, yntau, mai'r hyn a welir yn llyfr Y Datguddiad yw perthynas Cristnogion oedd yn cael eu herlid â threfn Rhufain a'u perthynas â'r system economaidd ar y pryd.

"Mae eilunaddoliaeth, perygl imperialaeth, peidio cyfaddawdu efo Rhufain mae hyn i gyd yn dod i mewn i'r llyfr hynod gyfoethog yma ac ,mae'n bwysig cael y drafodaeth yma wrth gwrs," meddai.

Trefnwyd yr arolwg yn yr Unol Daleithiau gan Ganolfan Ymchwil Pew.

Beth yw eich syniadau chi am Ddydd y Farn ac ail ddyfodiad Iesu Grist?

Pa mor resymol yw dyfalu dyddiad ar gyfer y fath ddigwyddiad?

Anfonwch i ddweud.


Llyfrnodi gyda:

Cylchgrawn

Sylwadau bachog am grefydd, bywyd a'r byd

Dysgu

Dysgu

Codi Cwestiwn

Dysgu am grefyddau'r byd. Gweithgarwch addysg grefyddol rhyngweithiol

Radio Cymru

John Roberts yn trafod materion crefyddol bob bore Sul

Hanes

Croes Geltaidd

Crefydd y Cymry

Sut aeth Cymru o fod yn wlad y Derwyddon i wlad y Diwygiad?

Cylchgrawn

Archif o holiaduron awduron, straeon ac adolygiadau llyfrau.

Â鶹ԼÅÄ iD

Llywio drwy’r Â鶹ԼÅÄ

Â鶹ԼÅÄ Â© 2014 Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.