19 Rhagfyr 2011
Neges Nadolig y Presbyteriaid - nad yw Iesu wedi pellhau oddi wrth y rhai sydd mewn angen a thrafferthion
Hen, hen, neges bod Iesu wrth law o hyd i wrando cri yw neges Nadolig 2011 llywydd Eglwys Bresbyteraidd Cymru, Y Parchedig R O Roberts.
Yn wahanol i nifer o arweinyddion daearol nid yw Iesu Grist wedi ymbellhau oddi wrth bobl, hyd yn oed y dyddiau anodd presennol yn ol Mr Roberts.
"Tydi hwn, fel llawer i arweinydd yn ein byd, ddim wedi ymbellhau a chuddio oddi wrth y rhai sydd mewn angen. Daeth yn un ohonom; yn un y gallai'r cyfoethog a'r tlawd, yr enwog a'r mwyaf dinod ac anghenus gael ei sylw," meddai.
Dyma ei neges yn llawn:
Dan bwysau
"Mae goleuadau llachar y Nadolig i'w gweld eto eleni. Mae'r carolau yn cael eu canu, mae'r cyfryngau yn llawn hysbysebion am anrhegion deniadol a danteithion blasus.
"Clywir y cyfarchiad 'Nadolig Llawen' ymhobman, ond ynghanol y dathlu - o wrando'n ofalus - clywir lleisiau pryderus, gwelwn unigrwydd, a thywyllwch a rhyw hiraeth am i'r cyfan fod drosodd am flwyddyn arall.
"Pethau brau, dros dro, ydi'r tinsel a'r goleuadau lliwgar, y gwario a'r dathlu gwyllt.
"Ar ben hyn, argyfyngau, trais, ymgecru a rhyfeloedd ydy prif thema'r newyddion oni bai am hanes dihangfa ddramatig neu dro trwstan. Wrth i'r blynyddoedd basio, hawdd iawn anobeithio a meddwl fod y byd yn gwaethygu.
"Teimla rhai fod bywyd yn mynd yn galetach a'u bod wedi eu anghofio. Mae'r arweinwyr hwythau yn ymbalfalu am atebion i'r problemau hyn.
Daeth gobaith
"Ond - daeth gobaith i'r byd wrth i'r Arglwydd Iesu Grist gael ei eni ym Methlehem. Yn y babi yn y preseb cyflawnir addewid Duw ei fod yn dal i gofio am ei bobl. 'Y bobl oedd yn rhodio mewn tywyllwch a welodd oleuni mawr,' a ddywed pennod 9 o lyfr Eseia yn y Beibl, 'Canys bachgen a aned i ni, mab a roed i ni, a bydd yr awdurdod ar ei ysgwydd.'
"Byddai pob doethineb a gallu yn hwn, 'Fe'i gelwir, Cynghorwr rhyfeddol, Duw cadarn, Tad bythol, Tywysog heddychlon'.
"Dyma un a fyddai'n medru canfod atebion i broblemau dynion a merched. Dyma un sydd wedi wedi dod i'n byd i agor y ffordd at Dduw y Tad. Trwy yr Arglwydd Iesu cawn berthynas newydd ag ef, perthynas o ofal a chariad a gobaith gyda'r hwn sydd yn Frenin daear a nef.
"Tydi hwn, fel llawer i arweinydd yn ein byd, ddim wedi ymbellhau a chuddio oddi wrth y rhai sydd mewn angen. Daeth yn un ohonom; yn un y gallai'r cyfoethog a'r tlawd, yr enwog a'r mwyaf dinod ac anghenus gael ei sylw.
"Daeth nid i lys brenhinol ond i breseb ym Methlehem, i fan y gallai pawb ymweld ag ef a'i adnabod. Fel ei ddilynwyr, cyhoeddwn y Nadolig hwn fod Duw'r crewr a'r cynhaliwr, y Duw sy'n gwaredu, ar gael i bawb yn Iesu Grist.
I'n cyfnod ni
"Dyma ei neges yn ein cyfnod ni, cyfnod arwynebol a di ffydd ond cyfnod hefyd o boeni ac ofni. Ynghanol yr holl ansicrwydd, mae'n dal i ddweud; 'Peidiwch ag ofni ... yr wyf yn cyhoeddi i chwi y newydd da am lawenydd mawr a ddaw i'r holl bobl. Ganwyd i chwi waredwr...Meseia, yr Arglwydd'.
"Anogwn ein gilydd i ymuno gyda'r bugeiliaid gynt, 'Awn i Fethlehem i weld y peth yr hysbysodd yr Arglwydd ni amdano'.
"Y Nadolig yma, mae'r Iesu yn dal ar gael i bob un sy'n chwilio amdano," meddai'r neges.
- Brodor o LÅ·n, yw'r Parchedig R O Roberts. Bu'n astudio yn Coventry, Bangor ac Aberystwyth ac yn weinidog yn Nyffryn Conwy cyn dychwelyd i LÅ·n yn weinidog ar bum eglwys yn ardal Morfa Nefyn yn 1986. Mae'n gadeirydd Trobwynt - cenhadaeth leol i'r ifanc ac mae ganddo golofn yn y papur bro.