Nos Wener, Rhagfyr 18 2009
Mae hi wedi bod yn anodd blogio heddiw!
Diwrnod o ddatblygiadau a diffyg datblygiadau.
Mae'n anodd gwybod beth sy'n wir a beth sy'n sibrydion gwag. Weithiau mae'n ymddangos bod rhywbeth ar fin digwydd, dro arall mae'n teimlo fel bod yr holl drafodaethau am gwympo a gorffen mewn ffrae.
Cyrhaeddodd Obama a heno, mae wedi gohirio ei daith yn ôl i'r America.
Wrth imi ysgrifennu mae'r Unol Daleithiau a China mewn cyfarfod wyneb yn wyneb a sibrydion y bydd China'n cerdded allan. Mae cytundebau drafft yn chwyrlio o gwmpas y lle, ond y negydywr yn troi yn eu hunfan.
Mae sibrydion o obaith hefyd. Ydi, mae Copenhagen yn ddinas emosiynol ac ansicr heno.
Pob math o gwestiynau
Mae pob math o gwestiynau yn hofran:
- A yw unrhyw gytundeb yn well na dim cytundeb o gwbl?
- Ydi'r trafodaethau am ddymchwel?
- Ydyn nhw am barhau i srafod?
- Ai cytuno i barhau i drafod wnawn nhw?
- Ydyn nhw am daro bargen rad a rhoi addewid gwag inni?
Aros cyn hired ag sydd raid
Mae Cymorth Cristnogol wedi galw ar yr arweinyddion i aros yn Copenhagen cyn hired ag sydd raid er mwyn cael cytundeb cadarn. Mae Nelson Muffuh, Uwch-Ymgynghorydd Lobio Cymorth Cristnogol ar Newid Hinsawdd, yn galw ar yr arweinyddion i roi'r "anrheg orau erioed heddiw" i'r gwledydd tlotaf
"Arhoswch yn Copenhagen nes ichi gytuno ar gytundeb teg, uchelgeisiol ac un a fydd yn ymrwymo'r gwledydd yn gyfreithiol i ostwng eu hallyriadau carbon.
"Dyma'r amser i chi, arweinyddion cenhedloedd a llywodraethau'r byd, i ddangos inni beth yw arweinyddiaeth!" meddai.
Pwysleisia hefyd na ddylai gwledydd tlawd gael eu llwgrwobrwyo gan wledydd ac arweinyddion cyfoethog na chael eu gwthio i gornel cyfaddawdu.
Tactegau amheus?
Mae sawl si wedi codi yma am dactegau amheus. Nid wedi dod i chwarae gêm ddylai arweinyddion gwleidyddol ein byd.
Felly mae gan Nelson her ychwanegol i'r arweinyddion:
"Fydd pleidleiswyr ddim yn maddau ichi, fydd tlodion y byd ddim yn maddau ichi, fydd cenedlaethau'r dyfodol ddim yn maddau ichi os byddwch yn gwastraffu'r cyfle gwerthfawr yma sydd gennych i droi'r byd oddi ar y llwybr tuag at drychineb hinsawdd."
- Am y diweddaraf un gallwch ddilyn ein 'trydar' : @christian_aid@carbonmarch