Â鶹ԼÅÄ

Teyrnged i feiciwr fu farw

Jeff Williams

Last updated: 18 Rhagfyr 2009

Jeff Williams yn sgrifennu o'r Uwchgynhadledd Newid Hinsawdd yn Copenahagen

Nos Iau, Rhagfyr 17 - Y Cwestiwn Mawr, A ddaw Obama?
Anhrefn, ansicrwydd, drwgdybiaeth a diffyg ymddiriedaeth -rhai o'r geiriau i ddisgrifio'r awyrgylch y bore 'ma.

Dwedodd Gweinidog Amgylchedd yr India ar y newyddion ein bod mewn sefyllfa NATO; "No Action Talk Only". .

Mae prif arweinwyr y cenhedloedd, un ar ôl y llall, yn gwneud datganiadau sy'n dweud eu bod am weld cytundeb teg ac uchelgeisiol ar ddiwedd y gynhadledd. .

Wel, yn eu dwylo hwy mae hynny. Un peth pwysig sydd ar goll yn eu datganiadau yw cyfaddefiad eu bod yn methu hyd yn hyn a bod rhan o'r cyfrifoldeb ar eu hysgwyddau nhw eu hunain. .

Mae un arweinydd ar ôl y llall yn trosglwyddo'r bai i ysgwyddau rhywun arall. .

Mae'r sibrydion a'r damcaniaethu'n cynyddu ac mae tensiwn drwy'r ddinas. Ac un o'r prif gwestiynau ar wefusau pobl - A ddaw Obama?.

'Mae dilynwyr'
Dywedodd Yve de Broe rywbeth diddorol ar deledu Denmarc heddiw: .

"Mae angen i'r arweinyddion wybod bod ganddyn nhw ddilynwyr a bod y dilynwyr hynny yn eu cefnogi i wneud rhywbeth dewr yn Copenhagen. .

"Rwy wedi derbyn dros ddwy filiwn o lofnodion ar ddeisebau dros yr wythnos hon, ac mae'r lleisiau hynny mor bwysig yn y trafodaethau." .

Tristwch marwolaeth 'Ned'
Ar nodyn personol, testun tristwch mawr i Gymorth Cristnogol oedd clywed bod un o'r criw o feicwyr ddaeth i Gopenhagen, Ned - neu'r Canon Hereward Cooke - wedi marw. .

Bu farw'n dawel yn ei gwsg yn y gwesty'n Copenhagen ddydd Mawrth. .

Roedd y Canon Cooke yn ŵr poblogaidd iawn, yn gynghorydd Rhyddfrydol ar Gyngor Dinas Norwich ac yn gyn arweinydd ei blaid ar y cyngor. .

Cyn dod yma, dywedodd ei fod eisiau i arweinyddion y byd sylweddoli bod gan wŷr a gwragedd cyffredin gonsyrn go iawn ynglŷn â'r penderfyniadau yma. .

"Rydw i hefyd eisiau i'r daith feics hon annog yr eglwysi yng ngalwedydd Prydain i weithredu yn eu cymunedau lleol", meddai cyn iddo gychwyn. .

Roedd gan weddill y beicwyr feddwl uchel iawn o'r Canon Cooke. "Roedd yn ddyn hyfryd a doeth iawn", meddai'r Parchedig Andrew Sully o Langollen. .

"Treuliais ddydd Sul yn ei gwmni gan fynychu'r gwasanaeth yn y prynhawn lle roedd Archesgob Rowan Williams yn pregethu." .

Cyrhaeddodd sgwâr Copenhagen ddydd Sadwrn â'i freichiau yn orfoleddus yn yr awyr; a beiciodd yr holl ffordd yma mewn esgidiau cerdded." .

Wrth dalu teyrnged iddo, dywedodd Esgob Norwich, Y Gwir Barchedig Graham James fod "parch mawr iddo yn Norwich, fel offeiriad bugeiliol, fel caplan diwydiannol, fel cynghorydd lleol, ac fel Swyddog Amgylchedd Esgobaeth Norwich. Roedd yn nodweddiadol o'i gymeriad ei fod wedi becio i Copenhagen." .

Roedd Ned yn un o'r bobl gyffredin hynny sy'n barod i rannu'r baich a pheidio rhoi y bai ar rywun arall. .

Mae Cymorth Cristnogol yn cydymdeimlo â'i weddw, Diana, ei blant ai'i deulu ac yn gwneud popeth yn eu gallu i helpu'r teulu yn ystod y cyfnod trist hwn. .

/cymru/bywyd/safle/crefydd-straeon/tudalen/copenhagen_01.shtml

Llyfrnodi gyda:

Cylchgrawn

Sylwadau bachog am grefydd, bywyd a'r byd

Dysgu

Dysgu

Codi Cwestiwn

Dysgu am grefyddau'r byd. Gweithgarwch addysg grefyddol rhyngweithiol

Radio Cymru

John Roberts yn trafod materion crefyddol bob bore Sul

Hanes

Croes Geltaidd

Crefydd y Cymry

Sut aeth Cymru o fod yn wlad y Derwyddon i wlad y Diwygiad?

Cylchgrawn

Archif o holiaduron awduron, straeon ac adolygiadau llyfrau.

Â鶹ԼÅÄ iD

Llywio drwy’r Â鶹ԼÅÄ

Â鶹ԼÅÄ Â© 2014 Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.