Nos Lun Rhagfyr 14
Heddiw cyfarfu Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, a'r Gweinidog Amgylchedd, Jane Davidson, ΓΆ dirprwyaeth o Gymorth Cristnogol.
Cyflwynodd dau fugail o Gujarat yn yr India, gopi o'u hadroddiad Climate Crisis i'r Prif Weinidog.
Eglurodd Lalji Bhai, sy'n gweithio i un o bartneriaid Cymorth Cristnogol, MAGAR, yn ne India sut mae newidiadau eithafol ym mhatrwm y tywydd wedi effeithio ar ei fywoliaeth.
"Roedd gan fy nheulu gant o wartheg. Erbyn hyn, does ganddom ni ddim un; maen nhw i gyd wedi marw, a gorfu inni ffoi i'r ddinas", meddai.
Ac meddai Carwyn Jones, wrth dderbyn yr adroddiad gan y bugeiliaid, "Yn amlwg, mae newid hinsawdd yn broblem amgylcheddol a dyngarol. Byddai peidio dod i gytundeb teg a chynhwysfawr yn Copenhagen yn fethiant gwleidyddol."
Roedd y ddirprwyaeth hefyd yn cynnwys Jonathan Abbatt, Iestyn Davies, y Parchedig Andrew Sully a John Shrouder oedd wedi beicio i Gopenhagen fel rhan o ymgyrch Cymorth Cristnogol dros gyfiawnder hinsawdd a Branwen Niclas a minnau sydd yma ers wythnos.
Wrth gwrs roeddem ni'n hynod o falch i'r Prif Weinidog gyfarfod ΓΆ dirprwyaeth o Gymorth Cristnogol ar ei ddiwrnod cyntaf yma yn Copenhagen gan ein bod ni yma i bwyso ar arweinyddion y gwledydd i gyrraedd cytundeb teg, uchelgeisiol erbyn diwedd yr wythnos, ac un cynhwysol fydd yn torri allyriadau carbon y byd wrth 80% erbyn 2020.