Â鶹ԼÅÄ

Mewn gwersyll ffoaduriaid

Gwesyll ffoaduriaid

Last updated: 15 Rhagfyr 2009

Jeff Williams yn sgrifennu o'r Gynhadledd Newid Hinsawdd yn Copenhagen

Pnawn Gwener
Neithiwr mi fum i'n rhan o Flash Mob cyntaf Denmarc

Un cyfarwyddwyd oedd yna: Cyfarfod am 1650 ar sgwâr Radhus. Yna am union 1650, ymddangosodd gŵr ifanc yn cludo baner Dilynwch Fi.

Arweiniodd ni yn y glaw fel un neidr hir drwy brif strydoedd siopa Copenhagen er mawr ryfeddod i'r siopwyr o'n cwmpas.

Erbyn cyrraedd yr eglwys gadeiriol, clywsom chwiban, a rhewodd' pawb - gan fy atgoffa o'r hen gêm musical chairs ym mharti Nadolig yr Ysgol Sul ers talwm.

Roedd tua 250 ohonom yno, yn aros yn ein hunfan y tu allan i wersyll ffoaduriaid a grewyd yn ystod y dydd gan wirfoddolwyr ifanc a

Roedd y gwersyll yn efelychu'r hyn a welir ar y teledu adeg trychineb, pan fo'n rhaid i bobl ffoi o'u cartrefi. Gwersyll cyflawn gyda phebyll dros dro, gwelyau o wellt fel mewn stabl, lein ddillad â dillad babi arni, man coginio cymunedol a thân mewn hen gasgenni olew i gynhesu'r trigolion.

Wrth agor y 'Gwersyll' heriodd Henrik Stubkjær, Ysgrifennydd Cyffredinol Dan Church Aid ni i ddychmygu sut y byddem yn teimlo petaem yn gorfod gadael ein cartrefi, teuluoedd, diwylliant a chyfeillion a glanio rywle tebyg.

Mae'r UNHCR a'r Groes Goch yn amcangfrif y gallai 50 miliwn - 1 biliwn o bobl - fod yn ffoaduriaid amgylcheddol dros yr hanner can mlynedd nesaf a hynny o ganlyniad uniongyrchol i newid hinsawdd.

Ganol nos neithiwr, cerddodd Lumumba Stanislaus Di-Aiping, y prif negydydd ar gyfer y G77, allan o gyfarfod gyda chadeirydd y gynhadledd.

Bu dadlau am dros awr.

"Mae'n debyg y bydd y gynhadledd hon yn cael ei chwalu gyda bwriadau drwg rhai pobl," meddai wrth deledu Denmarc bore'ma.

Falle y byddai'n dda i'r bobl negyddol hynny alw heibio'r gwersyll ar eu ffordd o Ganolfan Bela er mwyn cael cipolwg tra gwahanol ar bethau. Cipolwg ar realiti newid hinsawdd i rai o bobloedd y byd.


Llyfrnodi gyda:

Cylchgrawn

Sylwadau bachog am grefydd, bywyd a'r byd

Dysgu

Dysgu

Codi Cwestiwn

Dysgu am grefyddau'r byd. Gweithgarwch addysg grefyddol rhyngweithiol

Radio Cymru

John Roberts yn trafod materion crefyddol bob bore Sul

Hanes

Croes Geltaidd

Crefydd y Cymry

Sut aeth Cymru o fod yn wlad y Derwyddon i wlad y Diwygiad?

Cylchgrawn

Archif o holiaduron awduron, straeon ac adolygiadau llyfrau.

Â鶹ԼÅÄ iD

Llywio drwy’r Â鶹ԼÅÄ

Â鶹ԼÅÄ Â© 2014 Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.