Βι¶ΉΤΌΕΔ

Disgwyl marchogion y ceffylau haearn

Last updated: 15 Rhagfyr 2009

Jeff Williams yn sgrifennu o'r Gynhadledd Newid Hinsawdd yn Copenhagen

Beic - y ceffyl haearn
Ac mae mwy o berygl cael eich taro'i lawr gan feic na dim byd arall yma yn Copenhagen!

Mae'r 'ceffylau haearn' yn hynod boblogaidd yma phawb sydd rhwng 10 ac 84 oed yn seiclo ar gyfartaledd dair cilomedr bob dydd ar hyd strydoedd y ddinas.

Mae adrannau llydain arbennig wedi eu neilltuo ar gyfer beics ar y metro a'r trenau lleol. Mae trigolion Copnehagen yn teithio 660,000 cilomedr y dydd ar y Metro, ond bron i ddwywaith hynny - 1.2 miliwn cilomedr ar gefn feic.

Ac ar eu ceffylau haearn hwythau mae pedwar Cymro ar hyn o bryd ar eu ffordd o Gymru i brifddinas Denmarc.

Mae Iestyn Davies o Gasnewydd, John Shrouder o Langynidr, Andrew Sully o Langollen a Joanthan Abbot o'r Waun yn gefnogwyr brwd i Gymorth Cristnogol ac wedi ymgymryd ΓΆ'r her er mwyn codi arian at y mudiad a hefyd, wrth gwrs, i godi ymwybyddiaeth am bwysigrwydd cytundeb teg ar derfyn COP15.

Bythefnos yn Γ΄l, cafodd dau o'r beicwyr gefnogaeth aelodau o'r Cynulliad Cenedlaethol gyda Iestyn a John yn beicio o swyddfa Cymorth Cristnogol yn Radur i'r Senedd ym Mae Caerdydd yng nghwmni Darren Miller AC Ceidwadwyr a Rhodri Glyn Thomas AC Plaid Cymru.

Wedi cyrraedd cafodd John gyfarfod gyda'i AC lleol, Kirsty Williams, arweinydd y Rhyddfrydwyr.

Mae'n rhaid bod yr aelodau Llafur yn rhy brysur gydag ethol arweinydd ar y pryd! Ond chwarae teg, mae Jane Davidson wedi cytuno cyfarfod y pedwar pan ddaw hi i Gopnehagen dros y penwythnos.

Mae Iestyn, John, Jonathan ac Andrew ar eu ffordd yma drwy'r gwynt a'r glaw. Dymuniadau gorau iddyn nhw weddill eu taith ac edrychaf ymlaen at fod yn un o'r dorf fydd yn eu croesawu ger Cadeirlan Copenhagen am hanner dydd yfory, dydd Sadwrn.


Llyfrnodi gyda:

Cylchgrawn

Sylwadau bachog am grefydd, bywyd a'r byd

Dysgu

Dysgu

Codi Cwestiwn

Dysgu am grefyddau'r byd. Gweithgarwch addysg grefyddol rhyngweithiol

Radio Cymru

John Roberts yn trafod materion crefyddol bob bore Sul

Hanes

Croes Geltaidd

Crefydd y Cymry

Sut aeth Cymru o fod yn wlad y Derwyddon i wlad y Diwygiad?

Cylchgrawn

Archif o holiaduron awduron, straeon ac adolygiadau llyfrau.

Βι¶ΉΤΌΕΔ iD

Llywio drwy’r Βι¶ΉΤΌΕΔ

Βι¶ΉΤΌΕΔ Β© 2014 Nid yw'r Βι¶ΉΤΌΕΔ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.