Bore Mercher, Rhagfyr 9
Mae trafnidiaeth gyhoeddus Copnehagen am ddim i bawb sy'n mynychu'r gynhadledd.
Mae'r rhwydwaith Metro a threnau yn gyson a threfnus. Mae bws wennol hefyd yn teithio yn ôl ac ymlaen o Ganolfan Bella a neithiwr penderfynwyd mynd i ganol y ddinas i weld beth oedd yno.
Wedi buddsoddi
Mae llywodraeth Denmarc a Chyngor Copnehagen wedi buddsoddi llawer yn y gynhadledd - i godi proffeil y brifddinas a'r wlad, a hefyd i frolio gwahanol agweddau o'i gwyrddni.
Yn wir, mae beics ymhobman ac yn un o'i chylchgronau hysbysebu gwelais bod trigolion Copnehagen ar gyfataledd yn beicio dros tair milltir y dydd, a bod un o bob tri o'i phoblogaeth yn beicio i'w gwaith neu eu hysgolion.
Felly 'roedd hi yn sgwâr y ddinas hefyd. Arddangosfa enfawr gan gyngor y ddinas o'r enw Hopenhagen a'r cwmnïau mawrion wedi ymuno yn y ffair hefyd.
Siemens, er enghraifft yn noddi un o'r coed Nadolig prydferth sy'n cael ei goleuo gan bobl yn beicio yn eu hunfan o amgylch ei boncyff.
Yr arth rew
Roedd cerflun iâ mawr o arth wen ynghanol sgwâr arall a'r hyn oedd yn rhyfeddol am yr arth wen hon oedd ei bod yn graddol doddi i ddatgelu sgerbwd deinasor.
Noddwyd hwn gan Panasonic a'r WWF.
Effeithiol ond iasol. Iasol hefyd yw gweld enwau cwmnïau mawr rhyngwladol yn gysylltiedig ag ymgyrchoedd newid hinsawdd. Diddorol fyddai mesur eu cyfraniad hwy dros y blynyddoedd i gynhesu byd-eang!
"Mae'r trafodaethau hyn wedi dechrau yn llawer rhy araf," meddai un o gynrychiolwyr Togo wrthai ar y ffordd adref neithiwr. "Mae'n rhaid iddyn nhw gyflymu," ychwangeodd.
Cawn wedl pa ddatblygiadau sydd o'n blaenau heddiw.