Dydd Sadwrn, Rhagfyr 5 2009 -
Protest y Don, Llundain
Mae'r daith i Copenhagen wedi dechrau o ddifrif heddiw wrth i mi ymuno â rhyw 40,000 o bobl ar strydoedd Llundain i alw ar Lywodraeth San Steffan i gymryd camau i atal anhrefn hinsawdd.
Roedd pawb yn gwisgo glas fel symbol o afon yn llawn o ddŵr croyw glân neu efallai y tonnau dinistriol a ddaw yn sgil newid hinsawdd.
Roedd rhai hyd yn oed wedi paentio eu wynebau a lliwio eu gwalltiau yn las!
Daeth nifer dda o Gymry i Brotest y Don i helpu ffurfio cadwyn o bobl o gwmpas y Senedd.
'Roedd y gadwyn o leiaf ddwy filltir o hyd rwy'n siŵr ac ymhlith y Cymry roedd Dai y Ddraig Las - a lwyddodd i dynnu sylw'r holl dorfeydd drwy strydoedd Llundain. Bydd Dai hefyd yn teithio i Copenhagen ac rwy'n gobeithio bod yno i'w groesawu.
Pwrpas y digwyddiad heddiw oedd galw ar Brif Weindog y Deyrnas Unedig i gario neges gref i'r Uwchgynhadledd yn Copenhagen: cytundeb i ymrwymo gwledydd y byd i dorri allyriannau carbon a chynorthwyo gwledydd llai datblygedig i addasu i newid hinsawdd a datblygu mewn modd cynaliadwy.
Un targed ry'n ni'n galw amdano yw torri 80% o allyriannau carbon y byd erbyn 2050.
Fe'm sobrwyd i wrth weld cwestiwn ar grys T un o wirfoddolwyr ifanc Cymorth Cristnogol yn yr orymdaith y prynhawn yma:
"Pa mor hen fyddi di yn 2050?"
Roedd hyn yn f'atgoffa bod yr ymgyrch hon ar gyfer heddiw a'r cenedlaethau sydd i ddod.
Wel, rwyf wedi blino nawr ac mae cam nesaf y daith ar yr Eurostar yn dechrau'n blygeiniol fory.
Felly nos da!