Y mae gweinidog a chyn archdderwydd wedi ymosod yn chwyrn am y modd y gweithredodd yr Americanwyr yn achos Osama Bin laden.
"Ni allaf yn fy myw ddeall sut y gall neb ddathlu fod dyn arall wedi cael ei ladd," meddai'r parchedig John Gwilym Jones wrth agor ei sylwadau ar yr eitem Dweud eich dweud ar y post Cyntaf ar Â鶹ԼÅÄ radio Cymru fore Iau, Mai 5, 2011.
Aeth ymlaen:
" Dim ond anwariaid sy'n gwneud hynny. Rwy'n cofio anogaeth Prif weinidog Prydain wedi suddo'r Belgrano: "Rejoice," mynte hi.
Ymhyfrydu mewn lladd
"A'r wythnos hon dyma America, yn ymhyfrydu mewn lladd ac yn ymfalchïo mor alluog yw hi mewn trais.
"Mae hi wedi troseddu yn erbyn deddfau rhyngwladol, drwy dresbasu ar dir Libya i ymosod ar deulu Gaddafi yn enw NATO, a thresbasu ar dir Pacistan i ladd Osama Bin Laden.
"Ni allaf honni fod hwnnw'n ddyn da nac yn ddieuog. Mewn byd gwâr llys barn ddylai benderfynu hynny ac nid milwr a'i fys ar driger.
"Y ddadl a glywaf hyd syrffed yw, mai da yw lladd y pennaeth treisgar, rhag iddo greu mwy eto o gyflafan. Ateb Iesu fyddai inni fynd yn ôl at wreiddyn y trais yng ngyrfa ac yng nghalon Osama Bin Laden, a chalon Gaddafi a Saddam Hussein a Hitler.
"Oni bai fod rhywrai wedi rhoi dryll a bom yn eu dwylo nhw, fydden nhw wedi medru dod i awdurdod yn y lle cynta.
Pwy?
"Pwy roddodd ddryll yn llaw Osama Bin Laden ond masnach arfau'r Gorllewin? Pwy fu'n ei borthi ag arian ac arfau yn ei ymgyrchoedd yn erbyn Rwsia yn Afghanistan, ond masnach arfau ac America? Pwy fu'n ei ganmol am ei ddewrder, ac yn cydlawenhau gydag ef pan laddwyd milwyr Rwsia mewn brwydrau ffyrnig, nes eu gyrru o'r wlad ym 1989?
"Pwy ond America? A phwy fu'n ei longyfarch fel arwr dewr pan ddychwelodd i Saudi Arabia ym 1990? Ie, America.
"Tosturio wrtho am ei ffolineb fuasai Iesu. Galwch Iesu yn ddibrofiad os mynnwch chi, galwch e'n ddiniwed, galwch e'n naïf ond wedi holl ganrifoedd seithug y rhyfeloedd erchyll, pam na fyddai unrhyw wareiddiad o leiaf yn ystyried rhoi cynnig ar ffordd Iesu, ffordd tangnefedd, gan ymwrthod yn llwyr ag arfau a lladd?