Βι¶ΉΤΌΕΔ


Explore the Βι¶ΉΤΌΕΔ

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llen

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



Βι¶ΉΤΌΕΔ Βι¶ΉΤΌΕΔpage

Cymru'r Byd
Adolygiadau
» Llais Llên
Adnabod awdur
Ar y gweill
Llyfrau newydd
Y Siartiau
Sôn amdanynt
Cysylltiadau
Gwenlyn Parry
Y Talwrn
Canrif o Brifwyl

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Joseph Jenkins ar glawr y llyfr
Dyddiadur swagman Cymraeg

Hanes Cymro a drodd ei gefn ar ei deulu a ffoi i Awstralia - ond a allai ddianc rhagddo'i hun?


Mawrth 2003


Pity the Swagman - The Australian Odyssey of a Victorian Diarist gan Bethan Phillips.Cymdeithas Lyfrau Ceredigion. Β£14.75.

Mae Bethan Phillips wedi bod o'r blaen yn y ras am wobr Llyfr y Flwyddyn.

Mae'n rhywfaint o syndod nad yw'r llyfr hwn am Gymro hynod o berfeddion gwlad Ceredigion yn dianc i Awstralia ar y rhestr sydd newydd ei chyhoeddi ar gyfer eleni.

Yr ystrydeb fwyaf defnyddiol y mae rhywun yn cael ei demtio i gythru amdani gyda llyfr fel hwn yw, dweud fod y gyfrol yn darllen fel nofel.

Hynod a rhyfeddol

Y gwir amdani yw ei bod yn well na nofel pe na byddai ond am y rheswm syml fod y cymeriad hynod a chymhleth sy'n ganolbwynt iddi yn berson go iawn yn hytrach na dim ond ffrwyth dychymyg.

Ond mae geiriau fel hynod a rhyfeddol yn hynod o annigonol i ddisgrifio Joseph Jenkins - Cymro Cymraeg diwylliedig a sgegiwyd gymaint gan dreialon bywyd nes iddo deimlo mai dim ond adfyd a gwae yr oedd ganddo'r hawl i'w ddisgwyl.

"Fe'm melltithwyd," meddai, "hyd yn oed yng nghroth fy mam wedi fy ngeni dan seren anffodus."

Mae Bethan Phillips yn cychwyn ei stori gyda Joseph Jenkins, ar gyda'r nos, Rhagfyr 7, 1868, ar ei ffordd o'i gartref, Trefecel ger Tregaron, i ddal tren i Aberystwyth ac oddi yno i Lerpwl ac wedyn ar fordaith hir a helbulus i Awstralia.

Fel pe na byddai hynny ynddo'i hun yn ddigon hynod yr oedd wedi gadael ei wraig a'i blant heb fod wedi dweud dim wrthynt, cynt, am ei fwriad.

"Teimlai'n euog wrth feddwl am Betty ei wraig a'i wyth o blant; yr ieruengaf ond prin yn cerdded. Byddent yn deffro'r bore canlynol i ddarganfod ei fod wedi eu gadael," meddai Bethan Phillips gan osod y cywair ar gyfer y digwyddiad ysgytwol ym mywyd y teulu.

Ffoi rhagddo'i hun

Mae'n ychwanegu: ". . . yr oedd ar ffo, nid rhag ei deulu ond rhagddo'i hun."

Un cwestiwn y mae hi'n ceisio ei ateb yw, a lwyddodd ym mhellafoedd byd i ddianc rhag y cythreuliaid oedd yn ei ysu.

Dywed ei fod ef, yn ei ddiniweidrwydd, wedi argyhoeddi ei hun mai ond yn y lle pella'n y byd - Awstralia iddo ef - y gallai ddod o hyd i ryddhad oddi wrth y problemau a'i llethai.

Yn fuan iawn yn y gyfrol hon mae Bethan Phillips yn argraffu ar ein meddwl fod Joseph Jenkins yn gymeriad y daeth i'w adnabod yn dda iawn o astudio ei ddyddiaduron a phapurau perthnasol eraill.

Hyfrydwch y llyfr hwn yw ei llwyddiant yn trosglwyddo'r adnabyddiaeth honno i ni.

Darlun o gyfnod

Ond mae Pity the Swagman yn fwy na llyfr am Joseph Jenkins - mae hefyd yn ddarlun graffig o gyfnod arbennig nid yn unig yn Awstralia ond yng Nghymru - ac ar y mΓ΄r sy'n gwahanu'r ddwy wlad gyda Jrenkins yn destun hwyl a gwawd ymhlith y teithwyr eraill am ei fod yn Gymro.

Mae'r darlun o galedi cefn gwlad amaethyddol Ceredigion gyda'i gymysgedd o gyni, diwylliant, gwareidd-dra ac afradlonedd yn agoriad llygad a chan fod Joseph Jenkins ei hun yn gymeriad mor amlochrog - yn biler cymdeithas, yn fardd, yn alcoholig ac yn godwr twrw - cawn gip ar sawl agwedd o'r gymdeithas gan gynnwys ei chrefydd a'i gwleidyddiaeth.

"Mae'r dyddiaduron cynnar yn cyflwyno darlun digyfaddawd o galedi a dioddefaint," meddai Bethan Phillips.

Ac yn y gymdeithas Gymraeg hon yr ydym yn troi am hanner y llyfr dros 400 tudalen hwn ac mae'n ddarllen gafaelgar ac arddull storiol Bethan Phillips yn ein hudo i'r stori.

Wedi ei felltithio

Ac yn ganol i'r cyfan y mae'r cymeriad enigmatig, anesmwyth a chymhleth, Joseph Jenkins - Meistr Trefecel, un o ffermydd mwyaf deniadol yr ardal, arweinydd yn ei gymdeithas yn fardd ac yn wr llengar ond eto yn ddyn wedi ei felltithio yn ei feddwl ei hun.

"Teimlaf i'm bywyd gael ei lenwi a thristwch a'i orchuddio a thywyllwch," meddai ar un adeg.

Yr oedd, hyd yn oed yr adeg honno, wedi cychwyn cadw ei ddyddiadur a hynny'n gymaint ΓΆ dim er mwyn ymarfer a gwella ei Saesneg achos un o ofidiau mawr ei fywyd oedd na chafodd addysg ysgol.

Ond yr oeddan nhw yn fwy na hynny.

"Mae fy nyddiadur yn arbed fy meddwl ond barddoniaeth yn bwydo fy enaid," meddai eu hawdur.

Dim rhyfedd fod Bethan Phillips yn cael ei harwain i ddweud tua diwedd y llyfr fod Jenkins yn bwll diwaelod o anhapusrwydd gyda'i gred sylfaenol nad yw pethau byth mor ddrwg fel na allan nhw fynd yn waeth:

"If ever a man had an endless capacity for unhappiness and morbidity, it was Joseph, who finally concluded that, 'Things are never so bad, that they cannot get worse'," yw ei geiriau hi.

Mae'r llyfr yn datgelu os bu dros ugain mlynedd yn Awstralia yn fodd i esmwythau clwyfau meddyliol y Cymro ai peidio gan orffen gyda'i ddychweliad i Gymru a'r derbyniad a gafodd.

Cynhwysir nifer o luniau.

Holi
Bethan
Phillips




Wythnosau Blaenorol:

Newyddion yr wythnos Y llyfrau diweddaraf i gyrraedd y siopau


Gair am airGair am air

Ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur ?



Siart LlyfrauSiart Cymru

Siartiau llyfrau oedolion a phlant



Adnabod Awdur Llais Llên yn holi: awduron yn ateb




Cysylltiadau ar y weLlyfrau ar y We
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol

Archif LlyfrauNΓ΄l i'r archif
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi dal ein sylw

Gwenlyn Parry Gwefan i ddathlu bywyd a gwaith Gwenlyn Parry

Sesiynau Gang BangorCliciwch yma i gysylltu a Βι¶ΉΤΌΕΔ Cymru'r Byd






About the Βι¶ΉΤΌΕΔ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy