Βι¶ΉΤΌΕΔ


Explore the Βι¶ΉΤΌΕΔ

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llen

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



Βι¶ΉΤΌΕΔ Βι¶ΉΤΌΕΔpage

Cymru'r Byd
Adolygiadau
» Llais Llên
Adnabod awdur
Ar y gweill
Llyfrau newydd
Y Siartiau
Sôn amdanynt
Cysylltiadau
Gwenlyn Parry
Y Talwrn
Canrif o Brifwyl

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Llyfrau
Argyfwng llyfrau Eingl Gymreig?

Llyfrau Saesneg am Gymru yn gwerthu cyn lleied a chan copi


Ebrill 2003

Y mae un o ffigurau amlycaf llenyddiaeth Eingl Gymreig wedi cyhuddo cyhoeddwyr yng Nghymru o beidio a gwneud digon o ymdrech i werthu'r llyfrau Saesneg am Gymru y maen nhw'n eu cyhoeddi.

Meic StephensMewn ymosodiad hallt dywedodd Meic Stephens, a oedd ar un adeg yn swyddog llenyddiaeth Cyngor Celfyddydau Cymru ac sy'n awdur nifer o lyfrau Saesneg yn ymwneud ΓΆ Chymru, fod rhai llyfrau Eingl Gymreig yn gwerthu cyn lleied a 100 copi oherwydd esgeulustod cyhoeddwyr.

'Yn druenus o sâl'

Taniodd ei ergydion cyntaf mewn erthygl yn y Western Mail a rhoddodd ail gynnig arni ar Raglen Gwilym Owen ar Βι¶ΉΤΌΕΔ Radio Cymru, Mawrth 31.

Gydag ef ar y rhaglen yr oedd Gwerfyl Pierce Jones, pennaeth Cyngor Llyfrau Cymru, y corff sy'n hyrwyddo gwerthiant llyfrau Cymraeg ac Eingl Gymreig.

Er nad oedd hi am wadu fod sail i gyhuddiadau Meic Stephens dywedodd fod cynlluniau ar y gweill i wella pethau a chroesawyd hynny gan Mr Stephens.

Dywedodd Mr Stephens iddo lunio ei erthygl pan ofynnwyd iddo egluro pam nad yw awduron o Gymru yn adnabyddus y tu hwnt i Glawdd Offa.

"Ac yn fy marn i, un rheswm yw nad yw ein cyhoeddwyr yn marchnata eu llyfrau yn ddigon da - yng Nghymru a'r tu allan i'n gwlad," meddai gan ychwanegu fod gwerthiant rhai llyfrau Saesneg am Gymru "yn druenus o sal" o'r herwydd.

Dim ond tri chyhoeddwr a ganmolwyd ganddo, Ashley Drake, Partheon a Gwasg Carreg Gwalch.

Grantiau'n gwneud drwg?

Wrth ymhelaethu awgrymodd mai un rheswm pam y mae cyhoeddwyr yn gorffwys ar eu rhwyfau yw fod y drefn o grantiau cyhoeddi yng Nghymru yn golygu nad ydyn nhw'n debyg o wneud colled waeth pa mor ychydig o lyfrau a werthir.

Yn wyneb hynny, dywedodd: "Mae yna le i ofyn y cwestiwn a ydi grantiau yn beth da - mae grantiau yn talu costau cynhyrchu felly does yna ddim incentive wedyn i farchnata a gwerthu - dyna'r argraff yr ydych chi'n ei gael wrth edrych ar y ffigurau," meddai.

Ychwanegodd fod llyfrau a gyhoeddir gan weisg nad ydynt yn derbyn grantiau yn tueddu i werthu'n well.

"Y gwir yw," meddai wrth Gwilym Owen, "fod gan y gweisg gymhorthdal enfawr gan y Cyngor Llyfrau a chan Gyngor y Celfyddydau ac maen nhw i fod i farchnata eu llyfrau yn well a dydw i ddim yn gweld eu bod nhw'n gwneud hynny - dyna ddagrau pethau yn fy marn i," meddai.

Mynd ar goll

Gwerfyl Pierce JonesTra'n cydnabod nad yw llyfrau Saesneg am Gymru "yn cyrraedd y farchnad maen nhw'n ei haeddu" dywedodd Gwerfyl Pierce Jones fod nifer o resymau yn gyfrifol am hynny gan gynnwys y ffaith fod y nifer fechan o lyfrau Cymreig sy'n cael eu cyhoeddi "yn mynd ar goll yng nghanol y dorraeth Saesneg sydd ar gael yn gyffredinol."

Y canlyniad yw fod llyfrau Eingl Gymreig yn ei chael yn anodd ennill eu lle ar silffoedd siopau sy'n gorfod dewis beth i'w stocio o blith rhyw 100,000 o lyfrau newydd Saesneg sy'n cael eu cyhoeddi bob blwyddyn.

"Mae gennych chi broblem creu y galw am y deunydd yma yr ydym ni yn teimlo'n gryf iawn drosto fo," meddai.

Dywedodd fod y sefyllfa yn fwy cymhleth nag a awgrymai Mr Stephens.

Beio'r system addysg

"Mae'r darlun yn llawer mwy cymhleth ac yn ymwneud ΓΆ'r angen i greu galw am y deunydd sydd ar gael a dydi hi ddim yn deg rhoi y bai ar y cyhoeddwyr yn unig am hynny," meddai.

Rhaid, meddai hi, i'r gyfundrefn addysg hefyd ysgwyddo peth o'r bai am y diffyg diddordeb sydd yna mewn sgrifennu Eingl Gymreig a holodd faint o bobl ifainc sy'n mynd trwy'n hysgolion a'n colegau heb wybod dim byd am yr awduron hyn.

"Ym Mhrifysgol Cymru hyd yn oed heddiw mae'n bosib ichi astudio Saesneg a gwneud gradd yn y Saesneg heb wybod dim am y llenorion (Eingl Gymreig) yma," meddai.

Llunio strategaeth

Yr oedd ganddi hi hefyd lygedyn o obaith y gallai pethau wella gan ddweud fod "y diwydiant drwyddo draw" erbyn hyn yn trafod sut mae symud ymlaen i wella pethau a llunio yr hun a alwodd yn "strategaeth marchnata gytun".

"Mae hwnna yn gam ymlaen yn fy marn i," meddai.

"Mae'r ffaith eu bod nhw'n fodlon dod at ei gilydd a thrafod yn beth da," meddai. "Mae'n amlwg fod angen llawer mwy o adnoddau ond dydio ddim jyst yn fater o adnoddau mae'n rhaid i bob sector gydweithio yn well," meddai gyan gyfeirio at gyhoeddwyr, llyfrwerthwyr, llyfrgelloedd a chymdeithasau awduron.

Ond ychwanegodd mai'r hyn sy'n hanfodol allweddol yw creu diwydiant cyhoeddi llawer iawn cryfach yng Nghymru.

"Rwy'n credu mai'r sialens fawr i ni fydd trio cryfhau y diwydiant - a dyna'r nod," meddai.


Wythnosau Blaenorol:

Newyddion yr wythnos Y llyfrau diweddaraf i gyrraedd y siopau


Gair am airGair am air

Ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur ?



Siart LlyfrauSiart Cymru

Siartiau llyfrau oedolion a phlant



Adnabod Awdur Llais Llên yn holi: awduron yn ateb




Cysylltiadau ar y weLlyfrau ar y We
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol

Archif LlyfrauNΓ΄l i'r archif
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi dal ein sylw

Gwenlyn Parry Gwefan i ddathlu bywyd a gwaith Gwenlyn Parry

Sesiynau Gang BangorCliciwch yma i gysylltu a Βι¶ΉΤΌΕΔ Cymru'r Byd






About the Βι¶ΉΤΌΕΔ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy