Βι¶ΉΤΌΕΔ


Explore the Βι¶ΉΤΌΕΔ

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llen

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



Βι¶ΉΤΌΕΔ Βι¶ΉΤΌΕΔpage

Cymru'r Byd
Adolygiadau
» Llais Llên
Adnabod awdur
Ar y gweill
Llyfrau newydd
Y Siartiau
Sôn amdanynt
Cysylltiadau
Gwenlyn Parry
Y Talwrn
Canrif o Brifwyl

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Y Frenhines Elizabeth
Pedwar canmlwyddiant marw'r Frenhines Elizabeth

A hynny'n gyfle i gofio Ffwtman Hoff o Gymro yn ei llys

Mawrth 2003

gan Ioan Mai Evans
Bedwar can mlynedd i Fawrth 24 bu farw'r Frenhines Elisabeth - yr olaf o'r Tuduriaid.

Yn ferch i Harri'r Wythfed, bu ei theyrnasiad yn un unigryw o ystyried y cwerylon crefyddol a etifeddodd a'r bygythiadau o Sbaen ond, gyda chefnogaeth ei deiliaid, gallodd oresgyn llu o anawsterau yn lliwgar ac yn urddasol gan ennill i'w theyrnasiad y teitl, Oes Elisabeth.

Cred rhai na wnaeth fawr ddim o'i hachau Tuduraidd o Benmynydd ym MΓ΄n ond fe ganodd bardd o Lanbedrog ar Benrhyn Llyn englyn yn llawn pryder hyd yn oed cyn ei marw - maddeuwch y diweddaru:

Hwylus yw f'wyllys felly - deallwch
Ni allaf sgrifennu,
Gwan yw mhen, gwae fi am hynny,
Rwy'n brudd rhag ofn y dydd du.


Milwr a bardd o Gymru

Clawr llyfrYr englynwr oedd Dic Huws, Cefnllanfair, y daeth y gyfrol werthfawr Y Ffwtman Hoff gan Nesta Lloyd, yn gyfraniad hir ddisgwyliedig am un tra haeddiannol, lle gynt nad oedd ond "Dic Huws, equerry to Queen Elizabeth", a hefyd dim ond ei enw ymysg y 'Writers on the Art of Poetry now extant "

Dic - neu Richard - Huws o Gefnllanfair oedd y ffwtman yn nheitl cyfrol Nesta Lloyd - wedi gadael Pen Llyn i wasanaethu yn filwr yn Llys y Frenhines yn Llundain.

Ymladdodd yn rhengoedd Lloegr yn Cadiz yn 1596 cyn dod yn ffwtmon yn y llys ei hun.

Dulliau arloesol

Plas CefnllanfairYr oedd hefyd yn fardd o bwys.
Ac o ystyried diddordeb y frenhines ei hun yn y celfyddydau does ryfedd fod dulliau barddol Dic Huws yn arloesol ac oherwydd dylanwad beirdd y llys gwelwn mai ef oedd un o'r rhai cyntaf i ganu yn y dull ymddiddan yn y Gymraeg.

Er yn hyddysg yn y mesurau caeth, am ei gerddi yn y mesurau rhydd, cwbl ddigynghanedd ac arloesol yn eu dydd, y mae'n cael ei gofio heddiw.

Cafwyd sawl enghraifft o'r canu rhydd cynnar hwnnw o'i eiddo yn Cyngor yr Eos i'r claf o Gariad:

A fi ar noswaith deg yn gwrando
Ar yr eos bach yn lleisio
Ddiwedd Mawrth cyn dechrau Mai
A'r coed bob rhai yn deilio.


A'r mab yn ateb:

Edifaru nid gwiw ceisio
Rwyf yn y rhwyd ni thycia gwingo.


Pery'r ymddiddan am ddau ddwsin o benillion , a dyma'r math o ganu a deitlir fel y 'chanson d'avenrure' oedd yn hen ffurf o ganu mewn gwirionedd ond na ddaeth i amlygrwydd yn Lloegr tan Oes Elisabeth ac y gellir cyfrif Dic Huws gyda'r cynharaf i gyfansoddi ynddo yn y Gymraeg .

Cawn enghraifft ddigon teg o ddylanwad Llys y Frenhines ar y Cymro pan gymhara Brinley Rees y llinell wreiddiol, "diwedd Mowrth kyn dechre Mai" i "not far fro marche, in the end of feueryere"

I ddod yn Γ΄l at Richard Huws, y soldiwr a'r ffwtman crwydrodd fel sawl un arall am Lundain oedd y ddinas fwyaf yn Ewrop ar y pryd.

Yno roedd Ty'r Cyffredin yn ennill bri a Chymry amlwg a'r tirfeddianwyr yn cael llais yn San Steffan, a phrif gynghorydd Elizabeth yn cadw golwg ar anghenion Cymru oherwydd y tropyn o waed Cymreig yn ei gwythiennau.

Gwrthryfel tirfeddianwyr

Cadwai'r frenhines lygad barcud ar y tirfeddianwyr hefyd, mae'n amlwg, pan fwriodd i garchar nifer ohonynt adeg helynt Fforest Yr Wyddfa, pryd y dewiswyd sawl comisiwn i benderfynu ar yr union diroedd a berthynai i'r fforest.

Bu hynny'n achos creu gwrthwynebiad ffyrnig drwy'r wlad gyda chynrychiolwyr yn cael eu hanfon i Lundain er mwyn cyflwyno'r achos gerbron y frenhines.

Ymysg y rhain roedd rhai o foneddigion Llyn fel Sion Gruffudd o hen deulu Cefnamwlch.

Un arall oedd Huw ap Rhisiart, tad Dic Huws ac un arall o deulu Plas ym Mhenllech.

Ond ni chawsant fawr o lwyddiant gyda'r frenhines - dim ond addewid y byddai hi'n ail ystyried ei dyfarniad ar ddyfodol Fforest yr Wyddfa ar yr amod y byddai'r byddigions yn dychwelyd adre yn heddychlon.

Gwrthod wnaethon nhw a chael eu carcharu am ganddi am ei herio.

Tipyn o ergyd i drigolion Llyn a digon i Morus Dwyfach y bardd ganu am absenoldeb y tirfeddianwyr caeth:
Gwag ddyffryn yw Llyn, a'i holl wynion dai,
Lle doi pob cerddorion,

Am y gwyr sydd mae cur sΓ΄n,
Girad sais mewn gward estron.


Marw yn ei chwsg

Bu farw'r Frenhines yn ei chwsg am dri o'r gloch y bore ac ar ddydd yr angladd bu i'r corffddelw ar yr arch ennyn wylo a galar cyffredinol.

Parhaodd Dic Huws yn ffwtman yn y Palas gyda'i holynydd i'r orsedd, Iago'r cyntaf.

Parhaodd i ganu hefyd a chofiaf Cynan, yn ei ddull dramatig, yn adrodd Carol o Gyngor Hen Wr i Sawdwr (Sowldiwr) -carol lle mae Dic Huws yn sΓ΄n amdano'i hun yn cyfarfod a henwr yn begio ar y stryd yn Llundain ac wrth roi arian yng nghap y begerwr yn ymddiheuro na allai roi mwy oherwydd;
"Sawdwr wyf a serving man
Nid oes fawr arian gen i."

Ond pan welodd y begiwr mai Cymro ydoedd, rhoddodd ei arian yn Γ΄l iddo a'i annog i eistedd i lawr i gael gair o gyngor ac mewn 30 o benillion mae'n croniclo ffawd y milwr:
Tra bo chi yn cael y boen
A'ch cig a'ch croen yn brifo.
Rhyw gyfeillion eraill fydd
Yn mynd a'r budd wrth fflatro.


Nid oes pris mewn soldiwr ffel
Pan ddarffo rhyfel ffyrnig,
Mwy na'r dise gwaeth i gwedd ar ddiwedd y Nadolig.


Ac os gobeithi fod yn un o gael y ffortun ore,
Ti elli obeithio heb fawr hap
A chael hen gap fel finne.


Eglwys LlanbedrogYm mynwent Llanbedrog yn Llyn y claddwyd Dic Hughes, tua'r flwyddyn 1618 ac mewn marwnad iddo canodd Gruffydd Philip:
Bu was hael hapus helynt
Oes byth gof i Elsbeth gynt
Bu'r un wedd fab barwn iaith,
WΓΆs alwant i Siams eilwaith,
A'i was fu, gu ragoriaeth
Hyd yr awr o'r byd yr aeth.





Wythnosau Blaenorol:

Newyddion yr wythnos Y llyfrau diweddaraf i gyrraedd y siopau


Gair am airGair am air

Ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur ?



Siart LlyfrauSiart Cymru

Siartiau llyfrau oedolion a phlant



Adnabod Awdur Llais Llên yn holi: awduron yn ateb




Cysylltiadau ar y weLlyfrau ar y We
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol

Archif LlyfrauNΓ΄l i'r archif
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi dal ein sylw

Gwenlyn Parry Gwefan i ddathlu bywyd a gwaith Gwenlyn Parry

Sesiynau Gang BangorCliciwch yma i gysylltu a Βι¶ΉΤΌΕΔ Cymru'r Byd






About the Βι¶ΉΤΌΕΔ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy