Â鶹ԼÅÄ


Explore the Â鶹ԼÅÄ

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llen

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



Â鶹ԼÅÄ Â鶹ԼÅÄpage

Cymru'r Byd
Adolygiadau
» Llais Llên
Adnabod awdur
Ar y gweill
Llyfrau newydd
Y Siartiau
Sôn amdanynt
Cysylltiadau
Gwenlyn Parry
Y Talwrn
Canrif o Brifwyl

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Mihangel Morgan
Ar ôl yr holi - dyma'r sgwrs!

Ymunodd yr awdur a'r bardd Mihangel Morgan â Llais Llên fore Iau, Mawrth 6 mewn sgwrs arlein.



Aneurin: O'r swmp o waith llenyddol sy'n perthyn i chi, pa gyfrol yw eich hoff un chi yn bersonol?

Mihangel Morgan: ymm..o'm gwaith fy hun felly? .. wel.. dw i ddim yn licio meddwl am fy hoff un, mae'n well peidio bod yn rhy sentimental ..

Llio: Pryd ddechreuoch chi feddwl am ysgrifennu?

Mihangel Morgan: ymm ..yn fy ugeiniau, tua 28 oed ... roeddwn i'n reit ddiweddar, yn fy mywyd ..

Kelly: Pwy sy'n arwr/arwres i chi?

Mihangel Morgan: Does dim arwr gen i .. dw i ddim yn licio addoli pobl .. ond mae yna rai dw i'n eu hedmygu, ond mae yna wendidau ynddyn nhw a chi'n cael eich siomi os ydych yn eu rhoi ar bedestal.

DJ: Am beth fydd eich llyfr nesaf?

Mihangel Morgan: Dw i ddim ishe dweud gormod ond mae prif ran y stori yn yr oes Fictoria .. yna lefel arall yn y presennol .. wedi ei leoli mewn dinas sy'n debyg i Gaerdydd.

Sam: Beth yw dyfodol yr iaith Gymraeg yn eich barn chi?

Mihangel Morgan: Dw i'n teimlo'n besimistaidd iawn ar hyn o bryd, ond dw i'n gobeithio fydd pethau yn fy mhrofi fi'n anghywir ac y bydd yr iaith yn parhau.

Menai: A oes un llyfr wedi dylanwadu arnoch chi'n fwy na'i gilydd?

Mihangel Morgan: ymm ... ymmm... dw i ddim yn gallu meddwl am ddim un llyfr sydd wedi dylanwadu arnaf. Mae'r llyfr diwethaf dw i wedi ei ddarllen yn dylanwadu arna i .. bydd pobl yn dweud www.. mae'r llyfr yma yn drwm o dan ddylanwad pwy bynnag dw i'n darllen ar y pryd.

Dewi Jones: Ydych am wneud cyfrol o gerddi eto?

Mihangel Morgan: Ydw .. mae gen i gyfrol mewn ffeil ... teitl yw 'Digon o Fwydod' ac mae rhai o'r cerddi wedi cael eu cyhoeddi mewn cylchgronau yn barod.

Ceri: A ydych yn teimlo fod eich gwaith wedi cael ei ddylanwadu gan waith Caradog Prichard?

Mihangel Morgan: ymmm.. siwr o fod .. mae'r rhan fwyaf o lenorion ar ddechrau'r ganrif hon o dan ddylanwad Caradog Prichard .. a dw i wedi ysgrifennu llyfr beirniadol am Caradog Prichard.

Alwyn Thomas: Does dim llawer o son am y dechnoleg ddiweddaraf / y we yn eich gwaith. Beth yw eich barn am yr arbrofi diweddar gyda llenyddiaeth yn y cyfeiriad hwn? Ai dyma'r dyfodol?

Mihangel Morgan: Wel, y rheswm pam nad oes gormod o sôn am y dechnoleg yn fy ngwaith yw am nad wyf yn gyfarwydd iawn â'r dechnoleg fodern.. dw i'n gwybod bod rhai wedi ceisio cyhoeddi llyfrau ar y we ond dw i ddim yn gwybod pa mor llwyddiannus oedd hyn. Roedd Stephen King wedi cyhoeddi nofel mewn penodau ar y we, ond dw i ddim yn meddwl ei fod wedi cael fawr o ymateb.

Mali: Beth sy'n gwneud i chi chwerthin?

Mihangel Morgan: (chwerthin) pob math o bethau .. ymmm ... mae'n anodd meddwl!

Gweinydd: Mae Mihangel yn chwethin ac yn methu meddwl..!!

Mihangel Morgan: ymm.. dw i ddim yn meddwl fy mod yn gallu ateb y cwestiwn yma ar hyn o bryd, dw i'n methu meddwl.

Carys: Oes rhai o'ch cymeriadau wedi eu selio arnoch chi?

Mihangel Morgan: Mae'n debyg fod peth ohona i yn Mr Cadwaladr yn y nofel Dirgel Ddyn ac mae peth ohona i yn fy nofel ddiweddara ' Pan Oeddwn Fachgen' … a peth ohona i hefyd yn y cymeriad Dr Jones yn Melog dw i'n meddwl. Ond wedi dweud hynny mae'n debyg bod peth ohona i ym mhob cymeriad.

Cwestiwn: Beth sy'n eich gwylltio chi?

Mihangel Morgan: mmm ... ymm ..pobl fel Robbie Williams yn cael £80 miliwn am nesa' peth i ddim hyd y gwela i. Mae lot o bethau yn gwylltio fi.

Cwestiwn: Oes ganddoch chi gyngor i rywun sy'n trio ysgrifennu?

Mihangel Morgan: Pan ofynnodd rhywun y cwestiwn yna i Saunders Lewis, ei gyngor oedd i beidio gwarando ar hen ddynion yn rhoi cyngor pan oedd yn ifanc. Felly dyna fy nghyngor i hefyd dw i'n meddwl! A hefyd y peth gorau yw i ddal ati a pheidio cymryd gormod o sylw o bobl eraill.

Mali: Beth oeddech chi eisiau bod ar ôl tyfu fyny?

Mihangel Morgan : ymmm.. pan o'n i'n fach? Wel doedd dim lot o glem da fi pan o'n i'n fach. Doedd dim syniad da fi, ond d'on i ddim ishe gyrru trên na dim byd fel'na!

Menai: Ydych chi'n fore godwr neu gweithio'n hwyr?

Mihangel Morgan: Dw i'n codi tua phump o'r gloch bob bore .. ac yn mynd i'r gwely yn gynnar yn y nos. Felly ydw dw i'n fore godwr ond dw i ddim yn sgrifennu yn y bore. Dw i'n tueddu i ysgrifennu nes ymlaen yn y bore, o tua 10 o'r gloch ymlaen.

Rachel: O ble rydych chi'n cael eich syniadau?

Mihangel Morgan : Wel, dw i'n cael syniadau o bob man, o weld pobl, clywed pobl yn dweud pethau, rhyw bethau bach fel arfer sy'n digwydd, a wedyn dyna fel arfer gnewyllyn syniad sydd yn tyfu.

Er enghraifft, ges i'r syniad gwreiddiol am Melog ar ôl gweld menyw yn dod ar y bws yng Nghaerdydd un diwrnod, roedd ganddi wallt gwyn, o'n i'n meddwl y byddai'n ddiddorol sgwennu am gymeriad ifanc gyda gwallt gwyn,mae Melog yn fachgen, wel, menyw gyda gwallt gwyn oedd y syniad gwreiddiol y tu cefn i'r nofel honno.

Menai: Be' fyddech chi'n ei fynd efo chi i ynys bellennig?

Mihangel Morgan: O... bydden i'n mynd a fy nghwn i .. ac .. ymmm ... rhai llyfrau. Dw i ddim eisiau darllen stwff dw i wedi sgrifennu fy hunan, ond llyfrau pobl eraill.

Menai: Petaech chi'n dod nôl fel anifail - pa anifail fyddech chi'n dymuno bod?

Mihangel Morgan: Oww ... ymm ... dw i ddim yn meddwl faswn i'n dod nôl fel ci achos weithiau mae cwn yn cael eu camdrin. Mwy na thebyg faswn i'n dod nôl fel aderyn dw i'n meddwl.

Dewi Jones: Beth yw eich hoff ffilm?

Mihangel Morgan: O diar , dw i byth yn gallu meddwl am ffilmiau, ond dw i'n hoff iawn o ffilmiau. Dw i'n eitha hoff o 'Whatever Happened To Baby Jane' ac yn ddiweddar dw i'n licio 'The Man Who Wasn't There', a hefyd 'Oh Brother Where Art Thou'.

Menai: Fyddwch chi'n aros ar eich traed i wylio'r Oscars o gwbl?

Mihangel Morgan: Na! (yn chwerthin). Flynydde nôl roeddwn yn cymryd diddordeb yn yr Oscars ond yn ddiweddar mae ffilmiau ofnadwy wedi ennill yr Oscars.

Gweinydd: Yn ôl at eich gwaith...

Mali: Oes rhaid i chi gael tawelwch hollol pan fyddwch chi'n llenydda?

Mihangel Morgan : Ymm .. oes, dw i ddim yn gallu gwrnado ar y radio nac ar unrhyw gerddoriaeth pan dw i wrthi yn sgrifennu.

Mali: Ydych chi'n mwynhau teithio dramor?

Mihangel Morgan: wel, ymm, dw i ddim wedi bod dramor lawer ..ond dw i wedi bod i Ffrainc rhyw bymtheg mlynedd yn ôl, ond dw i ddim yn deithiwr mawr.

Eirlys Jenkins: Ydych chi'n gallu uniaethu ag unrhyw rai o'r cymeriadau yn y nofel ‚Dan Gadarn Goncrit'?

Mihangel Morgan: Ydw i yn gallu uniaethu? www.. ydw dw i'n credu fy mod yn gallu uniaethu â'r rhan fwya' ohonyn nhw. Dw i'n gallu cydymdeimlo â Tanwen a hyd yn oed dw i'n gallu uniaethu â Mama Losin a'i gwr hi.

Menai: Ydych chi'n ieithydd?

Mihangel Morgan: Ymm, nag ydw. Mae ieithydd yn rywun sydd â diddordeb mawr mewn gramadeg a phethau fel'na, ond dydw i ddim!

Alwyn Thomas: Ydych chi'n hyddysg yn y Clasuron?

Mihangel Morgan: O, nag ydw gwaetha'r modd dydw i ddim. Beth mae'n feddwl am y Clasuron? Y rhai Cymraeg neu pethau fel rhai y Groegiaid?

Sian: Beth yw arwyddocad y tri rhaniad yn y nofel 'Dan Gadarn Goncrit'?

Mihangel Morgan: Wel, o'n i'n meddwl ei bod hi'n mynd braidd yn hir heb doriadau ynddi hi .. ac ym mhob ran mae rhyw fath o newid yn y stori .. felly mae jyst yn ffordd o dorri stori hir yn dameidiau llai, mwy hydrin efallai.

Alwyn Thomas: Yn dilyn o'r cwestiwn blaenorol, ie - Groegaidd.

Mihangel Morgan: Wel dw i ond wedi darllen rhai o'r clasuron Groegaidd fel Soffocles.

Nia: Ydych chi'n ceisio apelio at gynulleidfa arbennig yn eich gwaith?

Mihangel Morgan: Ymm … na ddim at unrhyw gynulleidfa arbennig, dw i'n trio apelio at bawb mewn ffordd.

Menai: Fyddwch chi'n gwrando ar sgyrsiau pobl mewn caffi fel enghraifft o ddeialog?

Mihangel Morgan: O byddwn! Os oes unrhyw gyfle i glywed pobl yn siarad dw i yno yn clustfeinio, achos wi'n licio clywed tameidiau o sgwrs allan o gyd-destun. Dw i wedi defnyddio pethau fel'na yn 'Saith Pechod Marwol'.

Sam Bufton: Yn 'Saith Pechod Marwol', mae'r prif gymeriadau i gyd yn anobeithiol ac yn drist iawn. Pam eich bod chi wedi creu darluniau mor llym ar bobl wedi'u dadfreinio yn ein cymdeithas?

Mihangel Morgan: Ooo ... wel .. mae pobl drist yn fwy diddorol na phobl hapus. Dw i ddim am sgrifennu am bobl hapus, byse hwnnw yn annioddefol i sgrifennu am bobl llwyddiannus!

Sian: Ydych chi'n hapus?

Mihangel Morgan: Ymm... weithiau dw i'n hapus, weithiau dw i ddim. Mae hapusrwydd yn rhywbeth sydd yn mynd ac yn dod.

Menai: Oes unrhyw acen sy'n swyno'ch clust?

Mihangel Morgan: Acen? Ymm … (saib) dw i'n eitha' lico acenion America - y South, 'deep South'. Dw i ddim yn siwr iawn lle mae'r ardaloedd hynny, ond dw i'n licio'r acenion!
Yn naturiol, yng Nghymru acen De Cymru dw i'n licio!

Cwestiwn :Pa mor bwysig yw llên i'n hiaith?

Mihangel Morgan: Dw i'n meddwl ei fod yn holl bwysig, yn holl bwysig .. heb ein llenyddiaeth fyddai ddim gwerth i'n hiaith.

Mali: Ydych chi'n credu fod y teledu wedi lladd y nofel?

Mihangel Morgan: Ymm... nac ydi. Mae'r nofel yn gwneud rhywbeth gwahanol i'r teledu yn dyw hi? Felly mae lle i'r ddau.

Menai: Beth fyddai amserlen eich diwrnod delfrydol?

Mihangel Morgan: Wel … dw i'n codi am bump yn y bore ... wedyn dw i'n neud yoga am awr .. a wedyn dw i'n mynd m'as am dro gyda'r cwn. Enwau'r cwn ydi Losin a Licrish. Wedyn fyddwn i'n sgrifennu yn y bore, ac wedyn yn y prynhawn fyddwn i'n darllen rhywbeth a wedyn falle mynd i weld ffilm yn y nos.

Dewi Jones: Pa gwn sydd gennych?

Mihangel Morgan: Keeshond ydyn nhw. Maen nhw'n dod o'r Iseldiroedd, dydyn nhw ddim yn gwn mawr ond ddim yn fach chwaith. Mae' nhw'n llwyd a lot fawr o flew, mae'r blew yn stico lan dros eu cyrff i gyd! Mae pobl yn meddwl mai Huskies ydyn nhw, ond maen nhw'n rhy fach i fod yn Huskies.

Lowri:
A ydych chi`n credu bod Diwrnod y Llyfr yn codi ymwybyddiaeth pobl o lenyddiaeth Cymraeg?

Mihangel Morgan: Wel, gobeithio yntyfe? O'n i'n gweld ar Radio 4 eu bod nhw wedi cael pleidlais i ddewis un llyfr ar gyfer pob gwlad ym Mhrydain. Ar y rhestr fer ar gyfer Cymru roedd tri llyfr, sef 'On The Black Hill', 'Under Milk Wood' gan Dylan Thomas a 'Rape of The Fair Country', ac o'n i'n meddwl ei fod yn drueni nag o'n nhw wedi ystyried llyfrau Cymraeg eu hiaith o gwbl, achos rhai Saesneg ydy'r rheina wrth gwrs.

Thomas Evans: Beth fyddwch chi'n hoffi ei ddarllen yn Saesneg?

Mihangel Morgan: Ymmm ... o nawrte .. dw i'n trio meddwl. Dw i'n licio llyfrau Tennesee Williams, ei storïau e .. a beth arall? Ymm … dw i'n tueddu i ddarllen llyfaru ffeithiol nawr fel cofiannau a hunangofiannau.

Mali: Pa lyfr sydd wrth ochr eich gwely?

Mihangel Morgan: 'James Herriot Dog Stories'

Mali: Beth yw'ch hoff fwyd?

Mihangel Morgan: Siocled

Gweinydd: Gair olaf gan Mihangel …

Mihangel Morgan: Dim ond iddyn nhw i ddal ati i ddarllen ac i fwynhau darllen. Ac i drio ysgrifennu ar bob cyfri. Dal ati!









Wythnosau Blaenorol:

Newyddion yr wythnos Y llyfrau diweddaraf i gyrraedd y siopau


Gair am airGair am air

Ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur ?



Siart LlyfrauSiart Cymru

Siartiau llyfrau oedolion a phlant



Adnabod Awdur Llais Llên yn holi: awduron yn ateb




Cysylltiadau ar y weLlyfrau ar y We
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol

Archif LlyfrauNôl i'r archif
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi dal ein sylw

Gwenlyn Parry Gwefan i ddathlu bywyd a gwaith Gwenlyn Parry

Sesiynau Gang BangorCliciwch yma i gysylltu a Â鶹ԼÅÄ Cymru'r Byd






About the Â鶹ԼÅÄ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy