Βι¶ΉΤΌΕΔ


Explore the Βι¶ΉΤΌΕΔ

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llen

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



Βι¶ΉΤΌΕΔ Βι¶ΉΤΌΕΔpage

Cymru'r Byd
Adolygiadau
» Llais Llên
Adnabod awdur
Ar y gweill
Llyfrau newydd
Y Siartiau
Sôn amdanynt
Cysylltiadau
Gwenlyn Parry
Y Talwrn
Canrif o Brifwyl

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Emyr Humphreys
Un dydd ar y tro

Rhywbeth i'w ddathlu bob dydd meddai nofelydd wrth drafod pobl hen

Mawrth 2003

Yn ôl un o nofelwyr mwyaf blaenllaw Cymru mae pobol hen yn broblem.

Teitl llyfr diweddaraf Emyr Humphreys yw Old People are a Problem ac mewn noson a drefnir gan Gyngor Llyfrau Cymru i ddathlu Diwrnod y Llyfr bydd yn egluro beth yn union mae'n ei olygu wrth hynny.

Bydd yr awdur - sy'n 83 oed - yn edrych yn Γ΄l dros hanner canrif ei yrfa yng nghwmni ei gyfaill a'i gyd-weithiwr M. Wynn Thomas, Athro Saesneg Prifysgol Abertawe, yn Llyfrgell yr Wyddgrug nos Fawrth, Mawrth 4, diwrnod cyhoeddi y llyfr sy'n mynd i'r afael ΓΆ'r broses o heneiddio.

Y cyhoeddwyr yw Seren Books.

"Mae Emyr wedi ysgrifennu am bobl oedrannus erioed, hyd yn oed yn The House of Baal a ysgrifennodd cyn belled yn Γ΄l ΓΆ 1963. Bydd yn ddiddorol gweld sut y mae ei agwedd wedi newid erbyn hyn ac yntau'n edrych ar fywyd pobl oedrannus o'r tu mewn, fel petai," meddai'r Athro Thomas.

Rhywbeth gwahanol bob dydd

Mae Emyr Humphreys o'r farn fod pobl yn cael golwg wahanol ar bethau bob dydd.

"Bob tro y byddwch yn gwrando ar gerddoriaeth, yn edrych ar waith celf neu'n ailddarllen darn o lenyddiaeth, nid ydych yn gweld nac yn clywed yn union yr un peth ag o'r blaen. Mae'n brofiad newydd, yn bleser newydd, ac felly y dylai fod.

"Mae llyfrau'n ganolog i wareiddiad. Maen nhw'n eithriadol o bwysig. Credaf fod darllen ac ysgrifennu'n cyfoethogi ein bodolaeth ac rwy'n edrych ymlaen at gael siarad ΓΆ Wyn am eu pwysigrwydd fel rhan o ddathliadau Diwrnod y Llyfr yng Nghymru," meddai.

Rhagoriaeth Emyr Humphreys

Dywedodd Mick Felton o Seren mae un o ragoriaethau Emyr Humphreys fel nofelydd a storiwr yw fod ei ddawn storiol yn addas ar gyfer y darllenydd cyffredin ond yn cynnwys hefyd yr hyn a alwodd yn "isleisiau sy'n ein herio ac yn peri inni feddwl gan roi dyfnder i'r gwaith."

Ychwanegodd: "Old People are a Problem yw'r pedwerydd llyfr gwreiddiol gan Humphreys i Seren ei gyhoeddi, ein seithfed cyfrol ganddo i gyd, a'r orau eto."

Yn nofelydd, bardd a dramodydd, mae Emyr Humphreys yn cael ei gyfrif yn aml yn "brif ddehonglydd bywyd Cymru yn Saesneg" ac mae'n awdur 21 o nofelau, pedwar casgliad o farddoniaeth a nifer o ddramΓΆu teledu.

Diwrnod y llyfr:

Bydd cannoedd o ddigwyddiadau ledled Cymru, mewn ysgolion, llyfrgelloedd, stiwdios teledu a siopau llyfrau yn ogystal ag mewn siopau, swyddfeydd a gweithleoedd eraill i ddathlu Diwrnod y Llyfr ar Fawrth 6.

Mae'n ddiwrnod sydd wedi tyfu mewn poblogrwydd dros y blynyddoedd a'r llynedd ymunodd dros 30 o wledydd yn y dathliadau.

Y nod yw helpu pawb - o bob oed - i fwynhau llyfrau a darllen ac ymhlith y rhai sy'n hyrwyddo'r diwrnod yng Nghymru y mae Ryan Giggs, Aled Jones a Gaby Logan

Ebostiwch eich sylwadau chi am lyfrau

Wythnosau Blaenorol:

Newyddion yr wythnos Y llyfrau diweddaraf i gyrraedd y siopau


Gair am airGair am air

Ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur ?



Siart LlyfrauSiart Cymru

Siartiau llyfrau oedolion a phlant



Adnabod Awdur Llais Llên yn holi: awduron yn ateb




Cysylltiadau ar y weLlyfrau ar y We
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol

Archif LlyfrauNΓ΄l i'r archif
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi dal ein sylw

Gwenlyn Parry Gwefan i ddathlu bywyd a gwaith Gwenlyn Parry

Sesiynau Gang BangorCliciwch yma i gysylltu a Βι¶ΉΤΌΕΔ Cymru'r Byd






About the Βι¶ΉΤΌΕΔ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy